Skip page header and navigation

Mae prentis gosod brics o Goleg Ceredigion, sy’n cael ei gyflogi gan Delme Evans Construction Ltd, wedi ennill y drydedd wobr yng nghystadleuaeth ranbarthol Urdd y Gosodwyr Brics a gynhaliwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r enillydd Owain Thomas, 18 oed, o Landysul yn nhrydedd flwyddyn ei brentisiaeth ac yn astudio cwrs gosod brics lefel tri ar gampws y coleg yn Aberteifi.

Cymerodd ran yng nghategori hŷn y gystadleuaeth lle roedd yn cystadlu yn erbyn myfyrwyr a phrentisiaid eraill yn y rhanbarth. 

Celt and Owain standing next to a branded Guild of Bricklayers stand

Teithiodd Owain gyda’i diwtor adeiladu Edward Evans a’i gyd-gystadleuydd a phrentis yn ei ail flwyddyn, Celt Davies, a oedd yn cystadlu yn y gystadleuaeth iau yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr. 

Cafodd y cystadleuwyr y dasg o weithio o lun a oedd yn gofyn iddynt adeiladu piler cynnal sy’n dal pwysau gan ddefnyddio briciau gyda manylion addurniadol cymhleth a oedd yn cynnwys briciau lliw cyferbyniol, briciau’n ymwthio allan, patrwm caerog (techneg patrwm geometrig addurniadol) a gwaith crwm. 

Ar ôl gadael gartref am 6am a thasg chwe awr a hanner yn y categori hŷn, roedd yn ddiwrnod hir ond cynhyrchiol. 

Meddai Edward Evans, darlithydd adeiladu yng Ngholeg Ceredigion:  “Perfformiodd Owain a Celt yn dda iawn yn y digwyddiad hwn sy’n cael ei arwain gan y diwydiant.

“Rydym wrth ein bodd gyda’r drydedd wobr ond hefyd y profiad a gafodd ein prentisiaid o gyflawni gwaith o ansawdd uchel dan bwysau.

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau