Skip page header and navigation
The two apprentices standing with Gareth David and a rep from the Worshipful Livery with two college branded banners on each side (they are holding certificates)

“Mae Elis a Brandon ill dau yn ymgorffori ymroddiad, dyfalbarhad, ac ymrwymiad gwirioneddol i’w proffesiwn. Maen nhw’n llawn haeddu eu llwyddiannau ac rwy’n hyderus bod gan y ddau ddyfodol disglair iawn o’u blaenau.” Gareth David, Pennaeth Prentisiaethau.

Mae dau brentis cyfrifeg yng Ngholeg Sir Gâr wedi ennill gwobrau a gyflwynwyd gan Gwmni Anrhydeddus Lifrau Cymru. (WLCOW).

Enillodd Elis Thomas Wobr Alwedigaethol y Cwmni Anrhydeddus Lifrau ac enillodd Brandon Ayres Wobr Llythrennedd Ariannol y Cwmni Anrhydeddus Lifrau.

Mae WLCOW yn ymroddedig i helpu pobl ifanc ar draws Cymru i ddatblygu eu doniau a’u sgiliau trwy gyfrwng rhaglen Wobrau flynyddol o ysgoloriaethau a bwrsariaethau. 

Roedd Angharad Lloyd Beynon, sy’n Lifreiwraig Cwmni Anrhydeddus Lifrau Cymru, wrth ei bodd yn cyflwyno’r tystysgrifau hyn i’r ddau brentis, sy’n astudio cymhwyster AAT ar gampws Pibwrlwyd y coleg. 

Mae Elis, sy’n siaradwr Cymraeg rhugl, wedi dangos ymrwymiad a disgyblaeth eithriadol trwy gydol ei astudiaethau. 

Gan ddechrau gyda’i dystysgrif AAT lefel dau, a gwblhaodd o bell, fe ddangosodd gymhelliant a threfniadaeth ryfeddol, gan lwyddo i basio’r holl arholiadau ar y cynnig cyntaf. 

Parhaodd i gynnal y safon hon drwy gydol ei ddiploma lefel tri, gan deithio pellteroedd sylweddol i fynychu dosbarthiadau, bob amser yn brydlon ac wedi paratoi. 

Ers hynny mae Elis wedi symud ymlaen i lefel pedwar, sy’n gyfwerth â lefel israddedig prifysgol.

Mae taith Brandon yr un mor ysbrydoledig. Mae e wedi dangos gwytnwch eithriadol, proffesiynoldeb, a menter. 

Mae e wedi datblygu ei sgiliau yn gyflym, gan ennill cydnabyddiaeth gan gydweithwyr a rheolwyr fel ei gilydd. 

Mae Brandon wedi ymgymryd â chyfrifoldeb cynyddol, gan gynnwys arwain cyfrifon taladwy, hyfforddi staff, a chyfrannu at archwiliadau a gwellianau i systemau. 

Mae ei agwedd ragweithiol a’i barodrwydd i gefnogi eraill yn ei osod ar wahân, fel hefyd ei gyflawniad wrth ennill medal arian yng nghystadleuaeth Sgiliau Cymru.

Meddai Gareth David, pennaeth prentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith yng Ngholeg Sir Gâr: “Mae Elis a Brandon ill dau yn ymgorffori ymroddiad, dyfalbarhad, ac ymrwymiad gwirioneddol i’w proffesiwn. 

“Maen nhw’n llawn haeddu eu llwyddiannau ac rwy’n hyderus bod gan y ddau ddyfodol disglair iawn o’u blaenau.”

Wedi’i sefydlu yn 1993 fel Urdd Lifrau Cymru i hyrwyddo addysg, y celfyddydau, gwyddoniaeth a thechnoleg yng Nghymru, yn 2013 cyflwynwyd Siarter Frenhinol i’r Urdd a chafodd ei hailenwi yn Gwmni Anrhydeddus Lifrau Cymru.

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau