Profiad 'Mwy na Sinema': Dathliad o Greadigrwydd Myfyrwyr
Roedd myfyrwyr ail flwyddyn y cwrs Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol Lefel 3 yng Ngholeg Ceredigion yn falch o gyflwyno “Mwy na Sinema”, sef arddangosfa arbennig ar ddiwedd y flwyddyn yn dathlu eu creadigrwydd, eu sgiliau a’u huchelgais.
Cynhaliwyd y digwyddiad yn Y Drwm yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ddydd Iau 12 Mehefin am 6:00pm, ac roedd yn cynnwys detholiad cyffrous o waith eu blwyddyn olaf.
Roedd yr arddangosfa eleni yn cynnwys gwaith a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn dilyn briff byw i greu ffilmiau byrion yn archwilio pwysigrwydd cael mynediad i ddeunyddiau gwreiddiol a threftadaeth ddiwylliannol.
Yn ogystal â dangos y ffilmiau comisiwn hyn, roedd y noson yn cynnwys rhaglen amrywiol o waith gwreiddiol y myfyrwyr, o ffilmiau naratif byrion a ffilmiau arbrofol i ffotograffiaeth, dylunio sain, dylunio graffig, a mwy – gan adlewyrchu maes eang ymarfer cyfoes yn y cyfryngau.
Meddai darlithydd y cyfryngau, Sophia Bechraki: “Rydyn ni’n hynod falch o’n myfyrwyr eleni a phopeth maen nhw wedi’i gyflawni. Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i gefnogi llwybr creadigol unigol pob myfyriwr wrth osod disgwyliadau uchel ar gyfer eu gwaith.
“Mae wedi bod yn wych eu gweld yn datblygu i fod yn grewyr hyderus a gwreiddiol, ac roedd yr arddangosfa hon yn dyst i’w talent, eu hymroddiad a’u huchelgais. Dymunwn bob llwyddiant iddyn nhw wrth gymryd y cam nesaf i’r brifysgol, yn y diwydiant, neu gyda’u mentrau creadigol eu hunain.”
Gyda nifer o fyfyrwyr yn symud ymlaen i’r brifysgol ac eraill eisoes yn lansio eu busnesau creadigol eu hunain, roedd y digwyddiad yn ddathliad o’u gwaith caled, eu talent, a’u camau nesaf cyffrous i fyd y diwydiannau creadigol.