Skip page header and navigation

Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn cynnig cwrs blwyddyn i fyfyrwyr sydd am gael profiad gwaith a datblygu eu hyder wrth gynyddu eu sgiliau annibyniaeth.

Mae Llwybr 4 Camu i Gyflogaeth yn ymwneud â grymuso dysgwyr i symud tuag at ddyfodol llewyrchus, mwy annibynnol.

Trwy dreulio un diwrnod yr wythnos yn y coleg a dau ddiwrnod mewn amgylcheddau gwaith go iawn, mae myfyrwyr nid yn unig yn dysgu am swyddi, maen nhw’n dod yn rhan o dîm.

Caiff myfyrwyr gefnogaeth gan diwtor ac anogwr swyddi sy’n eu helpu i ysgrifennu CVs, llythyrau eglurhaol, ffurflenni cais ac sy’n dysgu sgiliau cyfweliad. 

Mae ennill sgiliau yn yr ystafell ddosbarth megis ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch a chyfathrebu yn hanfodol yn y gweithle ac mae’n helpu gyda pharatoadau gyrfaol a datblygiad personol myfyrwyr. 

I’r myfyrwyr hynny nad ydynt yn hyderus ynghylch teithio, gallant elwa ar hyfforddiant sy’n eu helpu i ddarllen amserlenni bysiau a dod yn gyfarwydd â llwybrau bysiau nes bod gan y myfyrwyr yr hyder i’w wneud yn annibynnol. 

Mae hyn yn eu helpu i deithio’r tu allan i’w hardaloedd eu hunain a chynyddu eu cyfleoedd cyflogaeth a gwirfoddoli. 

Does dim gofynion mynediad ar gyfer y cwrs ond mae angen i fyfyrwyr gael yr awydd i fynd i’r afael â lleoliadau gwaith.

Dyma beth ddywedodd ein myfyrwyr am eu profiad Llwybr 4 – Camu i Gyflogaeth.
 
Nia in her coop uniform tidying some flowers

“Rwyf wedi mwynhau llwybr 4 yn fawr iawn. Roeddwn i ychydig bach yn nerfus pan ddechreuais i fy lleoliad cyntaf ond gydag amser, rwyf wedi tyfu’n fwy annibynnol a hyderus. Rwy’n mwynhau siarad â chwsmeriaid ac ateb cwestiynau y gorau gallaf. Yn fy ail leoliad dysgais i fwy am drefnu stoc a’u cyflwyno’n ddestlus.”  

Nia Hopley (Co-op) 

“Mae fy nhaith yn llwybr 4 wedi bod yn brofiad anhygoel hyd yma ac rwy’n teimlo’n hapus i fod ar y cwrs. Mae wedi fy helpu i fagu fy hyder gymaint yn fwy ac rwyf wedi mwynhau mynd i Leekes ar leoliad.  Byddwn i’n argymell yn fawr i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwaith adwerthu i gael lleoliad gwaith yn Leekes, ac mae’r staff yn gyfeillgar iawn.”

Shakia Griffiths (Leekes

Shakia in a Leekes uniform standing in front of a green branded display
Ci in the shop pushing a stock trolley

“Mae bod yn Llwybr 4 a helpu yn y Co-op, fel siarad â’r staff ar y penset a rhoi cyfeiriadau i gwsmeriaid ar gyfer eiliau a chynhyrchion, wedi fy ngwneud i’n fwy hyderus wrth siarad â phobl newydd a gofyn am help. Hefyd rwy’n fwy hyderus o ran helpu pobl.”

Ci Stather (Co-op) 

 

“Rwyf wedi mwynhau fy mhrofiad Llwybr 4 hyd yma. Rwy’n dysgu sgiliau newydd yn fy lleoliad profiad gwaith ac mae fy hyder wedi tyfu hefyd.”

Regan Philips (Co-op) 

Regan in the store by a fridge holding some juice bottles

Rhannwch yr eitem newyddion hon