Skip page header and navigation
Jess looking at the camera with a saw in her hand at a workbench with a timber frame in the background

Yn ôl un o diwtoriaid Coleg Sir Gâr, os ydych chi’n mwynhau amrywiaeth o dasgau a datrys problemau, yna gallai gweithio ym maes gwaith saer fod yn opsiwn gyrfa da i chi. 

Treuliodd Jess Rennie flynyddoedd yn gweithio ym maes peintio ac addurno gan ei bod hi wastad wedi bod wrth ei bodd â dylunio mewnol a phensaernïaeth ond yn ystod y blynyddoedd hynny, roedd cwsmeriaid yn aml yn gofyn iddi am bethau ychwanegol fel gwneud silffoedd ac architrafau. 

A hithau’n 27 oed, penderfynodd ei bod hi’n werth dychwelyd i’r coleg i ddysgu’r sgiliau hyn yn broffesiynol a threuliodd dair blynedd ar gampws Rhydaman yn ennill ei chymwysterau gwaith saer ychwanegol.

“Os ydych chi’n mwynhau datrys problemau ac eisiau gyrfa amrywiol lle mae pob diwrnod yn wahanol, gallai gwaith saer fod yn ddewis da i chi.  Dw i’n difaru peidio â gwneud hynny yn syth o’r ysgol.” Jess Rennie, Tiwtor Gwaith Coed

Yn ystod ei blwyddyn olaf, daeth y cyfnod clo ac roedd yn anodd gweithredu yn yr amgylchedd hwnnw ond llwyddodd i gwblhau ei chymhwyster a chael rhywfaint o brofiad ar safle i gwblhau ei modiwl gorfodol ar doi ffrâm bren. 

Arhosodd gyda’r cwmni hwnnw am flwyddyn ac yna aeth yn ôl i redeg ei busnes ei hun. 

Mae Jess bellach yn dysgu prentisiaid ail flwyddyn, grŵp sylfaen lefel dau a dosbarth ar gyfer uwchsgilio lle mae hi’n mwynhau helpu rhoi eraill ar ben ffordd. “Os ydych chi’n mwynhau datrys problemau ac eisiau gyrfa amrywiol lle mae pob diwrnod yn wahanol, gallai gwaith saer fod yn ddewis da i chi,” meddai.  “Dw i’n difaru peidio â gwneud hynny yn syth o’r ysgol. Peidiwch â dilyn eich ffrindiau oherwydd mae pawb yn dilyn eu llwybr eu hunain beth bynnag, dewiswch fynd i rywle lle mae pobl o’r un anian â chi.”

Y tu allan i’r gwaith, mae Jess yn mwynhau cynllunio mewnol yn ogystal â garddio ac yn defnyddio ei sgiliau gwaith saer a cherfio i wneud eitemau i’r gardd ac yn mwynhau defnyddio pren gwyrdd ac eitemau naturiol.

Mae cynaliadwyedd hefyd yn rhywbeth y mae Jess eisiau tynnu mwy o sylw ato yn ei dosbarthiadau. “Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig i fyfyrwyr wybod o ble mae pren yn dod a chymryd eu hamser gyda’u gwaith gan fod llai o gamgymeriadau yn golygu llai o wastraff,” meddai. “Rydw i eisiau i fyfyrwyr ddod o hyd i’w cryfder yn eu maes a dysgu drwy fwynhau.  Weithiau maen nhw’n pendroni ac yn meddwl pam ein bod ni’n dysgu sgiliau offer llaw iddyn nhw ond rydyn ni’n ceisio rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnynt er mwyn caniatáu iddyn nhw wneud gwaith heb offer pŵer pe bai angen.”

Pan ofynnwyd iddi am fod yn fenyw sy’n gweithio ym maes adeiladu, ychwanegodd Jess: “Roeddwn i’n 27 oed pan ddes i i’r diwydiant felly roeddwn i’n gallu dal fy nhir i raddau, ond gallaf ddweud yn onest nad wyf erioed wedi cael unrhyw broblemau ar unrhyw safle gwaith nac yn unman fel menyw yn y diwydiant ac rydw i wedi cael fy nghroesawu bob tro; a dweud y gwir, mae’r rhan fwyaf o bobl yn fwy awyddus i’ch helpu chi a’ch gweld chi’n llwyddo.” 

Rhannwch yr eitem newyddion hon