Y brentisiaeth a helpodd Euan i ddatgelu ei dalent gwirioneddol

Mae cleientiaid wedi diolch i Euan amryfal weithiau am ei waith caled, ei broffesiynoldeb ac effeithlonrwydd, a dangoswyd hyn drwy arolygon bodlondeb cwsmeriaid.” Beverley Bovett,
Cynghorydd Hyfforddi.
Mae prentis adeiladu yng Ngholeg Sir Gâr yn rhagori yn ei gyflogaeth a’i raglen brentisiaeth gyda chwmni Morganstone Ltd ac mae wedi ennill Gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn yng ngwobrau B-WBL sy’n cydnabod llwyddiant dysgwyr dysgu seiliedig ar waith.
Ac yntau’n gweithio fel rheolwr cynorthwyol safle ar brosiectau megis tai arfordirol ac ehangu ac ailwampio’n rhannol datblygiad canol y ddinas, mae Euan yn dangos gallu cadarn ym maes rheolaeth is-gontractio ac mae’n fodel rôl ar gyfer dechreuwyr newydd sy’n ymuno â’r busnes.
Mae wedi ymgymryd â chymwysterau cymhwysedd safle ychwanegol megis cyrsiau SMSTS a SEATS y CITB mewn diogelwch rheoli safle ac ymwybyddiaeth amgylcheddol, yn ogystal â thystysgrifau cymorth cyntaf a marsial tân.
Ar hyn o bryd mae Euan, a oedd eisoes wedi ennill prentisiaeth lefel tri, yn astudio prentisiaeth uwch lefel pump mewn rheolaeth adeiladu a chynaladwyedd. Mae e’n dilyn y llwybr rheolaeth adeiladu a gyflwynir gan Goleg Sir Gâr a Phrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant.
Cwblhaodd brentisiaeth uwch lefel pump ym mis Gorffennaf 2024 ac mae wedi parhau ar ei lwybr prentisiaeth yn uniongyrchol gyda PCYDDS o fis Medi 2025, sef un o’r garfan gyntaf i ddechrau’r radd-brentisiaeth.
Mae Euan hefyd wedi cael y profiad o golli aelod agos o’r teulu yn ystod ei brentisiaeth, sydd wedi cael effaith ddwys ar Euan a’i deulu. Er gwaethaf y golled bersonol enfawr, mae wedi dangos gwytnwch cryf ac wedi cyfeirio ei ffocws at ei astudiaethau gan gwblhau ei gymhwyster yn llwyddiannus er cof i’w dad.
Beverley Bovett yw ymgynghorydd hyfforddi Euan. Mae’n rheoli ei gynnydd yn y gwaith ac yn y coleg ac yn gweithredu fel mentor drwy gydol ei brentisiaeth, ac meddai: “Fe wnaeth Euan ddarganfod brwdfrydedd angerddol am waith safle, gan ragori mewn cyfathrebu lle mae’n cyfrannu at forâl gweithwyr yn ogystal ag is-gontractwyr.
“Mae’r cynllun hwn wedi ei alluogi i ffynnu ac arddangos ei sgiliau rheoli ardderchog, lle mae cyfathrebu a datrys problemau wedi bod yn allweddol. Mae’r math hwn o greadigrwydd a meddwl strategol wedi bod yn integrol i brosiectau, trwy’r hyn y daw heriau unigryw yn aml.
“Gyda’r busnes yn mynd yn fwy prysur, mae Euan wedi gallu cymryd y cam cyntaf i reoli prosiectau gyda’r swm lleiaf posibl o oruchwyliaeth. Ymddiriedwyd ynddo i achub y blaen a chyflawni gwaith yn y modd mwyaf amserol a chost-effeithiol â phosibl ac mae e’n gwneud defnydd da o’i sgiliau datrys problemau pan fydd heriau adeiladu yn codi o’r gwaith safle.
“Mae cleientiaid wedi diolch i Euan amryfal weithiau am ei waith caled, ei broffesiynoldeb ac effeithlonrwydd, a dangoswyd hyn drwy arolygon bodlondeb cwsmeriaid.
“Ei ddyfalbarhad llwyr ynghyd â’i ymroddiad i waith yw nodwedd fwyaf Euan ac mae’n parhau i weithio’n galed o fewn ei rôl. Nid yw’n gadael i unrhyw beth ei rwystro gyda’i sgiliau logisteg a rheolaeth yn rhagori’n wirioneddol.”
Llun: Euan yn y noson wobrwyo a gynhaliwyd ym Mharc y Scarlets gyda Vanessa Cashmore, Is-bennaeth y coleg.