Y coleg yn cyflwyno ALEX, model AI i helpu myfyrwyr ymarfer sgiliau clinigol
“From my perspective, as a registered nurse, I find this type of simulation incredibly valuable in preparing learners for clinical practice.” Emily Rees, Health and Social Care Lecturer.
Mae’r tîm iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngholeg Sir Gâr wedi cyflwyno technoleg AI newydd i’r dosbarth gyda model efelychu.
Model yw ALEX a ddyluniwyd gan ddefnyddio technolegau blaengar, i ddarparu efelychiadau realistig ar gyfer hyfforddiant meddygol, sy’n caniatáu i fyfyrwyr ymarfer eu sgiliau clinigol a’u sgiliau rhyngweithio â chleifion.
Mae’n ddull trochol iawn sy’n darparu amgylchedd diogel a rheoledig i ddysgwyr ymarfer a mireinio eu technegau, cyn gweithio mewn lleoliad clinigol go iawn.
Mae’r model yn defnyddio metrigau CPR byw gydag adborth amser real ac mae’n rhoi mewnwelediad ar unwaith i ddyfnder cywasgu, cyfradd a lleoliad y dwylo.
Mae’r dechnoleg yn darparu’n dda ar gyfer amrywiaeth o arddulliau dysgu ac mae’n annog hunanasesiad ac ymarfer adfyfyriol gan helpu myfyrwyr i ymateb i senarios realistig.
Gyda gallu lleferydd datblygol, mae ALEX yn gallu gwrando ac ymateb a gyda thechnoleg IrisCam, sy’n galluogi recordio a ffrydio sesiynau’n fyw, mae’n gwneud asesiad o bersbectif y claf, y safbwynt mwyaf pwysig.
Hefyd mae’n darparu hyfforddiant cynhwysfawr ar gyfer ymarfer mewndiwbio, awyriad, sugnad, CPR a thechnegau rheoli’r llwybr anadlu. Mae’n cefnogi amrywiol ddulliau mewndiwbio a dulliau mewnosod dyfeisiau llwybr anadlu ac mae’n caniatáu ymarfer symudiad Sellick ynghyd ag efelychiad traceol ac esoffagaidd cywir.
Meddai Emily Rees, sy’n nyrs gofrestredig ac yn ddarlithydd iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngholeg Sir Gâr: “Mae defnyddio’r model efelychu mewn sesiynau ymarfer wedi galluogi fy myfyrwyr i ddatblygu hyder yn ddiogel o ran cydnabod cyfathrebu effeithiol, nodi claf sy’n gwaethygu, a defnyddio hanfodion gofal.
“Mae’n annog meddwl clinigol, gwaith tîm, a chyfathrebu mewn amgylchedd realistig ond cefnogol, gan helpu i bontio’r bwlch rhwng theori a gofal go iawn i gleifion.
“O’m safbwynt i, fel nyrs gofrestredig, rwy’n cael y math yma o efelychu yn anhygoel o werthfawr o ran paratoi dysgwyr ar gyfer ymarfer clinigol.”
Roedd Rebecca Davies, Deon y Gyfadran ar gyfer Iechyd a Lles, Technoleg, Celfyddydau a Gwasanaethau, ynghyd â Victoria Davies, pennaeth Iechyd, Gofal Plant a Chwnsela, yn hanfodol o ran sicrhau’r cyfleuster newydd ar gyfer myfyrwyr drwy gynnig diweddar.
Meddai Rebecca Davies: “Trwy fuddsoddi mewn technolegau arloesol, rydyn ni’n trawsnewid y profiad dysgu ar gyfer ein myfyrwyr.
“Mae integreiddiad efelychiadau AI ac amgylcheddau rhithwir yn gwella cymhwysedd clinigol drwy gefnogi dysgu trwy brofiad, ymarfer adfyfyriol, a datblygiad barn glinigol gadarn, gan sicrhau bod dysgwyr yn hollol barod ar gyfer ymarfer clinigol byd go iawn.”
Mae Tia Outen (yn y llun) ar hyn o bryd yn fyfyrwraig lefel dau iechyd a gofal cymdeithasol craidd sy’n symud ymlaen gyda ni’r flwyddyn nesaf gyda’r bwriad o ddod yn barafeddyg yn y pen draw.