Skip page header and navigation
A close up of a student talking within the panel

Aeth myfyrwyr o Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion â’u lleisiau i Gaerdydd i gymryd rhan mewn panel dysgwyr proffil uchel ar addysg bellach a sgiliau.

Wedi’i gynnal yng Ngwersyll yr Urdd, wedi’i hwyluso gan Golegau Cymru ac wedi’i gadeirio gan Swyddog Undeb Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe, Rose Wahbi, gwaith y cyfarfod oedd archwilio cyfranogiad ôl-16 a phrofiadau dysgwyr mewn addysg drydyddol. 

Mynychodd aelodau’r Senedd ac arweinwyr y sector ynghyd â myfyrwyr o Goleg Sir Benfro, Grŵp Llandrillo Menai, Coleg Sir Gâr, Coleg Caerdydd a’r Fro, a Choleg Cambria.

Students outside the Gwersyll yr Urdd building holding up a sign saying, growth, opportunity, fairness

Cododd y digwyddiad gwestiynau, megis beth ddylanwadodd ar eu penderfyniad i fynd i’r coleg a’r cyngor a’r opsiynau sydd ar gael iddynt, rhwystrau personol ac ariannol, partneriaethau cyflogwyr coleg, cyngor ynghylch dilyniant, cefnogaeth ar gyfer lles ac iechyd meddwl, cefnogaeth i helpu’r rheiny mewn ardaloedd gwledig, aelwydydd incwm isel a lleiafrifoedd ethnig ac opsiynau astudio hyblyg. 

Y syniad oedd clywed gan fyfyrwyr yn uniongyrchol am eu taith o fewn y sector addysg bellach i helpu dylanwadu ar benderfyniadau arweinwyr addysg. 

O Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, mynychodd y myfyrwyr Kirsi Straw, myfyrwraig Safon Uwch sydd hefyd yn Is-Bennaeth Undeb y Myfyrwyr yn y coleg, ynghyd â’i chyd-fyfyrwraig Alys Mosey, sy’n astudio cwrs sylfaen mewn celf a dylunio ac sy’n Is-Lywydd campws Ffynnon Job y coleg. 

Students inside taking part in the panel

Dywedodd Kirsti Straw:  “Roedd y cyfle i siarad ag aelodau’r Senedd, penaethiaid ac aelodau sefydliadau addysgol yn caniatáu i Alys a minnau siarad am y materion go iawn a pherthnasol sy’n effeithio ar fyfyrwyr a dilyniant myfyrwyr ledled Cymru. 

“Mae trafodaeth ynghylch cefnogaeth i ddysgwyr, cyllid ar gyfer colegau a gwybodaeth ynghylch y camau nesaf a chyfleoedd yng Nghymru yn rhan annatod o’n gwaith yn Undeb y Myfyrwyr, felly rwy’n ddiolchgar fy mod wedi cynrychioli ein coleg yn y ffordd hon.”

Ychwanegodd Alys Mosey: “Roeddwn i’n eithaf pryderus ar y dechrau, yn enwedig gan nad wyf erioed wedi gwneud unrhyw beth fel ‘na o’r blaen, ond rwy’n credu ei fod wedi helpu’n fawr o ran rhoi hwb i’m hyder gyda phethau sy’n gysylltiedig ag Undeb y Myfyrwyr. 

“Ond ar y cyfan, fe wnes i fwynhau’r profiad yn fawr iawn a byddwn wrth fy modd yn gwneud rhywbeth fel ‘na eto pe bawn i’n cael y cyfle oherwydd mae’n golygu fy mod i’n cael yr hwb ychwanegol hwnnw i wella bywyd coleg ar gyfer myfyrwyr y dyfodol.”

Mae Undeb y Myfyrwyr yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn dîm gweithredol o swyddogion myfyrwyr sy’n gweithredu fel llais i bob myfyriwr ar draws pob campws er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cynrychioli’n llawn a bod eu barn yn cael ei chlywed. 

Students outside the Senedd holding up a sign saying, growth, opportunity, fairness

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau