Ysgol Gelf Caerfyrddin yn cyrraedd y catwalk gyda Sioe Ffasiwn y Graddedigion

Bydd y myfyrwyr ar y cwrs gradd ffasiwn yn Ysgol Gelf Caerfyrddin Coleg Sir Gâr yn dathlu uchafbwynt eu cyrsiau gyda sioe ffasiwn i raddedigion fis nesaf.
Bydd y digwyddiad, dan arweiniad Huw “Fash” Rees o S4C, yn arddangos casgliadau terfynol y myfyrwyr gradd Amanda Savinelli, Ryan Carter, Kym O’CarrollFitzpatrick, Renata Ostiak a Tammy Davies.
Bydd hefyd yn cynnwys uchafbwyntiau o brosiectau myfyrwyr y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn a gwaith myfyrwyr y dosbarthiadau nos, gan roi cipolwg bras ac amrywiol ar daith greadigol yr adran ar draws pob lefel.
Gyda themâu’n amrywio o Hanes a Mawrion y Gorllewin Gwyllt, i Andy Warhol a Phoen, mae’r sioe’n addo noson eclectig o ffasiwn, celf a chreadigrwydd.
Lleoliad trawiadol Y Capel ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin fydd yn croesawu’r digwyddiad. Bydd y drysau’n agor am 6pm, gyda diodydd a canapés yn cael eu gweini wrth i chi gyrraedd.
Mae’r sioe ffasiwn yn dechrau am 7pm a bydd yn para tan tua 9pm.
Meddai Angharad Griffiths, pennaeth ffasiwn yn Ysgol Gelf Caerfyrddin: “Mae’n gyfnod cyffrous i ni oherwydd byddwn yn arddangos gwaith ein holl fyfyrwyr - o’n cyrsiau dosbarth nos, i brosiectau byw yr ail flwyddyn lle mae’r myfyrwyr wedi gweithio gyda brandiau fel AllSaints, River Island, a Burberry, hyd at gasgliadau annibynnol ein myfyrwyr sy’n graddio.”
Pris y tocyn yw £12.50 y pen ac maen nhw ar gael i’w prynu o swyddfa campws Ysgol Gelf Caerfyrddin yn Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin. I archebu, ffoniwch 01554 748201 neu e-bostiwch enquiries@colegsirgar.ac.uk.
Gwaith yn y lluniau ydy Kym (y tair model), Amanda (y got wen) a Renata (hat Gymraeg).

