Policy
Mae’r Cod Ymddygiad hwn yn nodi’r egwyddorion ar gyfer defnyddio systemau TG a gwasanaethau rhyngrwyd y Coleg mewn modd priodol a chyfrifol. Disgwylir i bob dysgwr gynnal y safonau hyn bob amser.
- 1. Defnyddio TG y Coleg
- Defnyddiwch y systemau TG er mwyn dysgu ac ar gyfer gwaith coleg yn unig.
- Parchwch yr offer a rennir - peidiwch â symud, difrodi na newid gosodiadau.
- Caniateir defnydd personol ar yr amod nad yw’n effeithio ar eich astudiaethau chi nacastudiaethau pobl eraill.
- 2. Y Rhyngrwyd, E-bost a Sgwrsio
- Defnyddiwch y rhyngrwyd er mwyn dysgu.
- Peidiwch â chyrchu na rhannu unrhyw beth anweddus, sarhaus neu anghyfreithlon.
- Defnyddiwch eich e-bost coleg ar gyfer gwaith coleg yn unig.
- Gwiriwch eich negeseuon e-bost o leiaf unwaith yr wythnos.
- Defnyddiwch blatfformau sgwrsio ar gyfer trafodaethau sy’n ymwneud â’r coleg apharchwch eraill.
- 3. Byddwch yn Ddiogel
- Cadwch eich cyfrinair yn breifat – peidiwch â’i rannu.
- Rhowch Ddilysu Aml-Ffactor (MFA) ar Waith.
- Peidiwch byth â defnyddio manylion mewngofnodi rhywun arall.
- Gall popeth yr ydych chi’n ei wneud ar-lein gael ei fonitro gan y Coleg.
- 4. Ni Chaniateir
- 🚫 Hacio neu geisio mynd i mewn i systemau heb ganiatâd.
- 🚫 Lledaenu firysau neu lawrlwytho meddalwedd niweidiol.
- 🚫 Seiberfwlio neu rannu cynnwys tramgwyddus.
- 🚫 Twyllo, llên-ladrad, neu dorri rheolau arholiad.
- 🚫 Tynnu neu rannu lluniau/fideos o bobl eraill oni bai eu bod yn rhoi eu caniatâd.
- 5. Defnyddio Eich Dyfais Eich Hun (BYOD)
- Gallwch gysylltu â Wi-Fi y coleg gan ddefnyddio dyfeisiau diogel, wedi’u diweddaru.
- Peidiwch â defnyddio dyfais sydd wedi bod yn destun ‘jailbreak’ neu ‘root’.
- Defnyddiwch geblau gwefru diogel yn unig.
- 6. Cadw Gwaith
- Defnyddiwch Google Drive neu storfa’r coleg i gadw copi wrth gefn o’ch gwaith.
- Mae eich ffeiliau coleg yn cael eu cadw am hyd at 12 mis ar ôl i chi adael.
Angen Help?
Os oes gennych broblem neu os ydych chi’n sylwi ar unrhyw beth anarferol, cysylltwch â’r Ddesg Gymorth TG:
📞 01554 748089 | 📧 helpdesk@colegsirgar.ac.uk
Gall methu â chadw at y Cod hwn arwain at roi Polisi Ymddygiad Positif y Coleg a chamau disgyblu posibl ar waith, gan gynnwys eich tynnu oddi ar systemau’r coleg, ymchwiliad ffurfiol, neu achosion troseddol lle bo angen.
Parchwch y dechnoleg. Diogelwch eich dysgu. Cadwch yn ddiogel ar-lein.