Skip page header and navigation

Polisi Ffioedd Addysg Bellach - 2026/27

Polisi

Os ydych yn cofrestru fel dysgwr Addysg Bellach yn y Coleg, dylech ddarllen a deall y telerau cofrestru a amlinellir isod cyn llofnodi’r ffurflen gofrestru. Mae’n arbennig o bwysig eich bod yn deall eich atebolrwydd a’n polisi ynglŷn â thaliadau ac ad-daliadau.

Noder: fod y ffioedd hyn ar gyfer dysgwyr Addysg Bellach yn unig ac nad ydynt yn berthnasol i ddysgwyr mewn:

  • Addysg Uwch
  • Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Cyswllt Ysgolion-Coleg 14-19
  • Prentisiaethau Lau
  • Cânt eu diffinio fel y rheiny sy’n astudio Rhaglen Ddysgu ddiffiniedig Llywodraeth Cymru.

    Codir ffi o £25 ar bob dysgwr llawn amser wrth gofrestru.

    Caiff y ffioedd eu casglu o flaen llaw ar-lein neu adeg cofrestru. Ni fydd unrhyw eithriadau. Ni ystyrir fod cofrestriad yn derfynol hyd nes y gwneir taliad.

    Unwaith mae’r dysgwr yn cofrestru, fel arfer ni roddir ad-daliadau i ddysgwyr nad ydynt, am ba reswm bynnag, yn parhau â’u hastudiaethau.

    Bydd y taliad yn sicrhau laniard a cherdyn adnabod i’r dysgwyr i gael mynediad i wasanaethau’r Coleg, gan gynnwys y llyfrgell, ardaloedd cymdeithasol, ffreuturau a gwerth £25 o gredydau argraffu ar gyfer y flwyddyn.

    Os caiff cerdyn ei golli rhoddir un newydd am gost o £5.

    Heblaw’r Ffi Gofrestru, ni fydd yna ffioedd dysgu neu ffioedd cofrestru gyda chorff dyfarnu ar gyfer dysgwyr llawn amser (heblaw am gostau ailasesu/arholi – gweler adran 10).

    Bydd rhaid i ddysgwyr sy’n dewis cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ychwanegol, y tu allan i’w prif raglen ddysgu, dalu’r ffioedd sy’n gysylltiedig â’r cwrs hwnnw.

  • Cânt eu diffinio fel y rheiny nad ydynt yn astudio ar Raglen Ddysgu Ddiffiniedig Llywodraeth Cymru.

    Bydd rhaid i bob dysgwr rhan-amser dalu ffioedd yn unol â’r polisi. Bydd pob cwrs Addysg Bellach rhan-amser yn cael ei ddosbarthu i un o’r bandiau A-V yn y tabl canlynol. Codir tâl ar ddysgwyr Addysg Bellach rhan-amser fel y dangosir isod:

    BANDIAU FFIOEDD ADDYSG BELLACH RHAN-AMSER £s
    BAND FFI BAND FFI
    A £0 N £584
    B £33 O £731
    C £65 P £896
    D £100 Q £1038
    E £118 R £1168
    F £150 S £1,333
    G £181 T £1,498
    H £242 U £1,648
    I £293 V £1,777
    J £357 W £1,908
    K £415 X £2,041
    L £467 Y £2,170
    M £532 Z £2,301

    Caiff cyrsiau Learn direct, Sgiliau Sylfaenol, Sgiliau Hanfodol a Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) hyd at lefel 1 eu categoreiddio fel band A.

    Bydd y ffioedd yn ddilys ar gyfer hyd safonol y cwrs a chânt eu pennu yn unol â hynny (h.y. nid ffioedd blynyddol mohonynt bob amser). e.e. os yw cwrs yn cymryd dwy flynedd i’w gwblhau, bydd y ffi yn ddilys ar gyfer y ddwy flynedd gyfan.

    Disgwylir i’r holl ddysgwyr sy’n ymgymryd â chyrsiau rhan-amser dalu, ac ni ystyrir fod y broses gofrestru wedi’i chwblhau’n llawn hyd nes bod y taliad wedi’i wneud.

    Ni chaniateir talu bob yn dipyn ar gyfer bandiau A – N. Fodd bynnag, gan fod y ffioedd ar gyfer bandiau O – Z yn fwy na £600 (lleiafswm y Coleg ar gyfer talu trwy randaliadau) gellir talu’r rhain mewn tri cham fel a ganlyn:

    Mae 1/3 o’r ffioedd cofrestru’n daladwy adeg cofrestru a dylid cwblhau Gorchymyn Debyd Uniongyrchol ar yr un pryd ar gyfer y ddau randaliad sy’n weddill. Bydd taliadau ar gyfer y rhandaliadau sy’n weddill yn cael eu cymryd o’ch cyfrif banc dewisol ar bwynt 3 a 6 mis ar ôl dechrau eich rhaglen.

    Unwaith mae’r dysgwr yn cofrestru, fel arfer ni roddir ad-daliadau i ddysgwyr nad ydynt, am ba reswm bynnag, yn parhau â’u hastudiaethau. Gweler adran 9 am gymorth gyda thaliadau.

    Nid chaniateir taliadau mewn camau pan yw’r ffioedd yn cael eu talu gan gyflogwr neu Noddwr - gweler adran 7.

    DYSGWYR O DAN 19 OED AR 1 MEDI 2026

    Bydd dysgwyr sydd o dan 19 oed ar 1 Medi 2026 sy’n dilyn cyrsiau rhan-amser sy’n cael eu cefnogi gan gyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, ddim yn cyfrannu at gostau dysgu a chodir ffi arnynt yn unig am gostau gweinyddu cofrestru a chostau cofrestru gyda’r corff dyfarnu. Bydd y myfyrwyr hynny yn gorfod talu’r ffi sydd wedi cael ei bandio yn gysylltiedig â’r cwrs neu ffi hyd at uchafswm o £25 pa un bynnag sydd is.

  • Bydd rhaid i ddysgwyr Addysg Uwch neu’r rheiny sydd ar gyrsiau Dysgu’n seiliedig ar Waith sy’n cofrestru ar gwrs Addysg Bellach rhan-amser dalu’r ffioedd yn llawn.

  • Bydd rhai cyrsiau masnachol arbenigol yn codi ffioedd sy’n syrthio y tu allan i fandiau A-Z. Bydd hyn yn glir yn y llenyddiaeth ar gyfer y cwrs. Ni chaniateir talu mewn camau ar gyfer y cyrsiau masnachol hyn ac ni roddir ad-daliad amdanynt.

  • Mae rhai dysgwyr nad ydynt byth yn dod i gampws Coleg. Bydd y cwmnïau sy’n cefnogi’r dysgwyr hyn yn derbyn anfoneb ar adegau cyfrifiad cytunedig yn ystod y flwyddyn, gan gymryd i ystyriaeth fod llawer o’r cyrsiau hyn yn gyrsiau treigl sy’n cael eu cyflwyno un ar ôl y llall. Gellir cyd-drafod trefniadau ffioedd ar wahân ar gyfer dysgwyr yn y gweithle a chytuno ar drefniant rhwng y Coleg a’r cyflogwr.

  • Ar gyfer dysgwyr ar-lein, gellir gwneud taliad ar-lein drwy gyfrwng y coleg rhithwir gan ddefnyddio’r cyswllt tâl diogel a fydd ar gael ar y safle. Ni roddir mynediad i ddeunyddiau dysgu tan i’r taliad gael ei gadarnhau. Bydd bandiau ffioedd penodol yn berthnasol i gyrsiau ar-lein a chewch wybod amdanynt pan fyddwch yn cofrestru ar-lein.

  • Bydd rhai dysgwyr yn cael eu cefnogi gan eu cyflogwyr. Mewn achosion o’r fath, bydd y Coleg yn cyflwyno derbynebau er mwyn i ddysgwyr hawlio arian nôl oddi wrth eu cyflogwyr. Fel arall, derbynnir cadarnhad ysgrifenedig gan gyflogwr i’w anfonebu’n uniongyrchol am ffi, ar yr amod bod hwn yn cael ei gyflwyno wrth gofrestru. Nid oes taliadau mewn camau ar gael ar gyfer ffioedd a anfonebir i Gyflogwyr/Noddwyr.

  • Cesglir ffioedd ar-lein neu drwy daliad ar bob campws. Disgwylir i ffioedd gael eu talu adeg cofrestru. Ni ystyrir fod y broses gofrestru wedi’i chwblhau’n llawn tan y gwneir taliad neu y derbynnir cadarnhad ysgrifenedig fod Cyflogwr neu Noddwr yn mynd i dalu’r ffioedd. Yn ogystal darperir gwasanaethau talu ar-lein ar gyfer dysgwyr llawn amser.

  • Ni all dysgwyr wneud cais i’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn er mwyn talu eu ffioedd yn uniongyrchol, ond efallai y bydd hawl ganddynt i gael help gyda chostau sy’n gysylltiedig â dysgu ar eu cwrs. e.e. cyfarpar ar gyfer y cwrs, teithio a gofal plant. Bydd y staff Cefnogi Dysgwyr yn gallu helpu dysgwyr gyda gwybodaeth am bob ffynhonnell o gymorth ariannol gan gynnwys Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (WGLG) AB.

  • Gall dysgwyr dalu trwy gyfrwng:

    • Cardiau Debyd a Chredyd
    • Arian Parod neu Siec
    • Ar-lein

    Yn anffodus, ni allwn dderbyn cardiau American Express.

  • Codir tâl ar ddysgwyr am ailsefyll arholiadau ac ar gyfer ailasesiadau lle mae’r Sefydliad Dyfarnu perthnasol yn codi tâl ar y Coleg. Mae hyn hefyd yn berthnasol i ddysgwyr sy’n dymuno gwella eu graddau o fewn y flwyddyn academaidd gyfredol, neu’r flwyddyn academaidd flaenorol.

    Lle mae Sefydliad Dyfarnu yn caniatáu ailsefyll neu ailasesiad heb dâl, ni fydd y Coleg yn trosglwyddo unrhyw gost i’r dysgwr. Fodd bynnag, lle mae Sefydliad Dyfarnu yn codi ffi am ailsefyll neu ar gyfer ailasesiad (a all fod yn wahanol yn dibynnu ar sawl gwaith yr ydych chi wedi ymgeisio a’r Sefydliad Dyfarnu), bydd y gost hon yn cael ei throsglwyddo i’r dysgwr.

    Felly, bydd ffioedd am ailsefyll neu ar gyfer ailasesiadau yn adlewyrchu’r ffi a godir gan y Sefydliad Dyfarnu perthnasol.

    Mae’r polisi hwn yn berthnasol waeth beth fo’r dull asesu, gan gynnwys arholiadau papur, asesiadau electronig neu ar-lein. Ni fydd ceisiadau ar gyfer ailsefyll ac ailasesiadau yn cael eu gwneud nes bod y ffi
    wedi’i thalu’n llawn.

    Rhaid i’r dysgwr dalu’n llawn am unrhyw ffioedd ychwanegol a godir gan Sefydliadau Dyfarnu mewn perthynas â gwasanaethau a roddir ar ôl derbyn y canlyniadau (megis ymholiadau, adolygu marciau, copïau o sgriptiau, neu wasanaethau tebyg).

  • Pan fo dysgwr am gofrestru ar gyfer asesiad/arholiad ar ôl y dyddiad cau, a bod hyn wedi’i wneud yn glir i’r dysgwr mewn da bryd, fel arfer bydd unrhyw ffioedd cofrestru hwyr a godir ar y Coleg yn cael eu trosglwyddo i’r dysgwr.

  • Trosglwyddir costau i ddysgwyr sy’n methu â bod yn bresennol mewn asesiad/arholiad, oni bai bod tystysgrif feddygol neu dystiolaeth briodol arall yn cael ei chyflwyno. Fel arfer bydd y costau a ddaw i ran y Coleg oherwydd methiant y dysgwr i fod yn bresennol mewn arholiad yn cael eu trosglwyddo i’r dysgwr.

  • Fel arfer ni chaniateir i ymgeiswyr allanol sefyll arholiadau drwy’r Coleg.

  • Gofynnir i ddysgwyr nad ydynt yn talu eu ffioedd i adael y cwrs. Ni chaniateir i unrhyw fyfyriwr sy’n cwblhau blwyddyn academaidd heb dalu ffioedd i ailgofrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, hyd nes telir yr holl ffioedd sy’n weddill yn llawn. Gall methu â thalu am unrhyw gostau nwyddau neu wasanaethau a godir ar ddysgwyr gan y Coleg arwain at gymryd camau Llys Sirol i adennill y swm/symiau sy’n weddill. Gellir hefyd defnyddio Asiantaethau Adfer Dyledion trydydd parti i geisio casglu unrhyw ffioedd sy’n weddill, gyda chost gwneud hynny yn cael ei hychwanegu i’ch dyled. Os bydd angen gweithredu yn y modd hwn, gellir defnyddio Gwybodaeth Bersonol a ddarparwyd gennych er mwyn cwblhau gwiriadau gwrth-dwyll priodol. Mae’n bosibl y caiff Gwybodaeth Bersonol a ddarperir gennych ei datgelu i asiantaeth cyfeiriadau credyd neu atal twyll, ac mae’n bosibl y cedwir cofnod o’r wybodaeth honno.