Busnes Lefel 2 - Diploma Cyntaf
- Campws Y Graig
Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyfleoedd i ddysgwyr gysylltu addysg a’r byd gwaith mewn ffyrdd diddorol, perthnasol ac ymarferol â chwrs sy’n cael ei gydnabod a’i feincnodi’n fyd-eang.
Mae’r ffocws ar ddatblygu sgiliau technegol, ymarferol a throsglwyddadwy sy’n gysylltiedig â gwaith a gwybodaeth benodol i fusnes. Mae datblygu’r sgiliau hyn yn allweddol i ddysgwyr er mwyn symud ymlaen i waith, addysg bellach neu i brentisiaeth.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
-
Nodweddion y Rhaglen
-
Cynnwys y Rhaglen
-
Dilyniant a Chyflogaeth
-
Dull asesu
-
Gofynion Mynediad
-
Costau Ychwanegol
Mae gan y cwrs gnewyllyn o wybodaeth greiddiol, sgiliau a dealltwriaeth gydag unedau opsiynol yn adlewyrchu ehangder y llwybrau o fewn y sector. Caiff dysgwyr gyfle i
- Ennill dealltwriaeth a gwybodaeth eang am sector galwedigaethol
- Ymchwilio i feysydd o ddiddordeb penodol
- Datblygu sgiliau hanfodol a phriodoleddau y mae cyflogwyr, colegau addysg bellach a sefydliadau addysg uwch yn eu gwerthfawrogi
Cynnwys cyfoes sy’n cyd-fynd yn agos ag anghenion cyflogwyr ar gyfer gweithlu medrus yn y dyfodol.
- Cyfathrebu mewn Amgylchedd Busnes
- Diwylliant Busnes a Chyfrifoldebau
- Arloesi mewn Amgylchedd Busnes
- Camau cychwynnol ar gyfer Dechrau busnes
- Marchnata ar gyfer dechrau busnes
- Ymateb i Newid mewn Amgylchedd Busnes
- Darparu Gwasanaeth Cwsmer mewn Amgylchedd Busnes
- Gweithio Gydag Eraill mewn Amgylchedd Busnes
- Cynllunio busnes
Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i brentisiaeth mewn busnes neu gyflogaeth. Bydd myfyrwyr sy’n ennill proffil teilyngdod cyffredinol hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer symud ymlaen i’r cwrs Menter ac Entrepreneuriaeth lefel 3.
Does dim arholiadau, asesir drwy waith aseiniadau wedi’u graddio.
Mae angen pedwar TGAU graddau D neu uwch arnom, gyda dwy radd C. Rhaid i un C fod mewn Saesneg, mathemateg neu Gymraeg iaith gyntaf. Rhaid i fyfyrwyr sy’n symud ymlaen o gymhwyster lefel un addas feddu ar broffil Teilyngdod a llwyddo mewn cyfweliad.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.