Busnes Lefel 3 - Diploma Estynedig
- Campws Aberystwyth
Mae’r Diploma Estynedig mewn Busnes yn gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol, cyfwerth â thair Safon Uwch, ac mae’n llwybr gwych i brifysgol, prentisiaethau neu gyflogaeth. Mae’r cwrs hwn yn cyfuno astudiaeth academaidd â phrofiad ymarferol, gan eich helpu i ddatblygu gwybodaeth fusnes a’r sgiliau proffesiynol hefyd a werthfawrogir gan gyflogwyr a phrifysgolion. Byddwch chi’n coleddu meddylfryd entrepreneuraidd trwy greu a chynnig eich syniadau busnes chi eich hun mewn gweithgareddau a ysbrydolwyd gan Dragon’s Den, sy’n meithrin creadigrwydd, arloesedd, a hyder.
Mae gyrfa mewn busnes yn cynnig cyfleoedd cyffrous ar draws diwydiannau fel marchnata, cyllid, rheolaeth, a masnachu rhyngwladol. P’un a ydych yn dyheu am redeg eich busnes eich hun, gweithio i gwmni byd-eang, neu symud i mewn i arweinyddiaeth, mae’r cwrs hwn yn eich paratoi i lwyddo. Byddwch yn mynd i’r afael â heriau byd go iawn, yn dadansoddi tueddiadau diwydiannol, ac yn cymhwyso eich dysgu i senarios ymarferol wrth fireinio sgiliau hanfodol fel cyfathrebu, gwaith tîm, a datrys problemau.
Yng Ngholeg Ceredigion, rydyn ni’n gwneud dysgu yn atyniadol a pherthnasol drwy ei gysylltu â’r byd go iawn. Trwy bartneriaethau â busnesau lleol, rydyn ni’n dod â diwydiant i mewn i’r ystafell ddosbarth drwy brosiectau byw, astudiaethau achos, a siaradwyr gwadd, gan roi cipolygon gwerthfawr i chi i’r amgylcheddau busnes lleol a byd-eang ill dau.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Uchafbwyntiau’r Rhaglen:
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau a arweinir gan ddysgwyr a derbyn arweiniad gan diwtoriaid wrth i chi gysylltu â busnesau lleol.
- Paratoi ar gyfer heriau gwaith tîm, tasgau arweinyddiaeth, a rheoli digwyddiadau.
Mewnwelediadau Byd Go Iawn:
- Siaradwyr gwadd ac entrepreneuriaid yn rhannu profiadau a heriau busnes y byd go iawn.
- Ennill dealltwriaeth ddyfnach o Gymru a’i phresenoldeb byd-eang, gan roi digon o gyfleoedd i chi archwilio’r iaith Gymraeg, diwylliant Cymru a chyfleoedd busnes.
Teithiau Tramor Cyffrous a Dysgu Trwy Brofiad:
- Mynd ar daith dramor i ehangu eich gorwelion ac ennill profiadau amhrisiadwy.
- Ymgolli eich hun mewn gwahanol ddiwylliannau ac amgylcheddau busnes bywiog.
- Ymgysylltu â busnesau rhyngwladol, ymweld â chwmnïau enwog, a rhwydweithio ag ymarferwyr proffesiynol ledled y byd.
- Gwella cyflogadwyedd gyda sgiliau cyfathrebu trawsddiwylliannol a’r gallu i addasu.
- Adeiladu sylfaen gadarn mewn gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o reolaeth busnes.
- Archwilio llwybrau megis rheolaeth busnes neu raddau arbenigol mewn rheoli digwyddiadau, rheolaeth adnoddau dynol, neu farchnata.
- Cyfleoedd cyflogaeth mewn rheolaeth, gwasanaethau ariannol, marchnata, adwerthu, neu wasanaethau cyhoeddus.
- Anogaeth i droi syniadau da yn fusnesau llwyddiannus.
- Ystod o fathau o asesiadau wedi’u teilwra i bob pwnc.
- Asesiadau allanol dan amodau rheoledig ac asesiadau mewnol wedi’u dilysu yn erbyn safonau allanol.
5 TGAU graddau C ac uwch (neu gyfwerth) i gynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg Iaith a Mathemateg/Rhifedd. Neu Ddiploma Lefel 2 mewn pwnc perthynol (gyda phroffil teilyngdod).
Bydd addasrwydd ar gyfer y cwrs yn cael ei asesu yn y cyfweliad a thrwy gydol y cyfnod cynefino.