Llwybr 4 - Camu i Gyflogaeth
- Campws Aberystwyth
- Campws Rhydaman
Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi dealltwriaeth fanwl i ddysgwyr o’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen wrth fynd i mewn i amgylcheddau gweithle.
Mae’n cwmpasu holl agweddau cefnogaeth yn eu Hinterniaeth, gan gynnwys: gweithio gyda chydweithwyr, ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch, cyfathrebu yn y gweithle, paratoi ar gyfer gyrfa a datblygiad personol.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
-
Nodweddion y Rhaglen
-
Cynnwys y Rhaglen
-
Dilyniant a Chyflogaeth
-
Dull asesu
-
Gofynion Mynediad
-
Costau Ychwanegol
Bydd dysgwyr yn mynychu’r coleg yn y Graig un diwrnod yr wythnos a lleoliad gwaith 2 ddiwrnod yr wythnos i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle a sgiliau cyflogadwyedd, fel trefnu a rheoli amser. Caiff CV, ysgrifennu llythyr eglurhaol, cwblhau ffurflenni cais a sgiliau cyfweliad eu cwmpasu yn y sesiynau addysgu.
Bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau gyda chefnogaeth tiwtor ac anogwr swyddi. Yn ogystal bydd dysgwyr yn derbyn cefnogaeth hyfforddiant teithio er mwyn hybu annibyniaeth.
Nod y cymhwyster hwn yw:
-
Canolbwyntio ar astudio sgiliau ymarferol a sut y gellir eu datblygu.
-
Cynnig ehangder a dyfnder astudio, gan ymgorffori craidd allweddol o wybodaeth
-
Darparu cyfleoedd i ennill nifer o sgiliau ymarferol a thechnegol.
Amcanion y cymhwyster hwn yw:
-
Rhoi dealltwriaeth fanwl a phrofiad ymarferol i ddysgwyr o’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen mewn amgylchedd gwaith
-
Darparu carreg sarn i ddysgu pellach o fewn y sector.
Gall dysgwyr symud ymlaen i’r gweithle gyda’r gefnogaeth a roddir i ddatblygu CV, chwilio am swyddi a chwblhau’r broses ymgeisio. Gall hyn fod ar ffurf cyfleoedd gwirfoddoli neu waith â thâl.
Portffolio o dystiolaeth a gaiff ei asesu’n fewnol a’i sicrhau o ran ansawdd yn allanol. Gan fod angen i ddysgwyr ddangos cymhwysedd mewn sgiliau a gwybodaeth hefyd, byddan nhw’n cwblhau gwaith ysgrifenedig yn y dosbarth ac yn cael eu harsylwi yn eu lleoliad gwaith trwy gydol hyd y cwrs.
Does dim angen gofynion mynediad ffurfiol. Fodd bynnag, mae rhaid bod diddordeb gan ymgeiswyr mewn rôl gefnogol o fewn amgylchedd gwaith.
Rhinweddau a asesir mewn cyfweliad:
-
Ymrwymiad i a diddordeb mewn gweithio ac astudio am dri diwrnod yr wythnos
-
Brwdfrydig i lwyddo yn y swydd.
-
Parod i fyfyrio ar eu harfer eu hunain, dysgu, a chymhwyso’r dysgu hwnnw yn y gweithle.
-
Gallu dangos bod ganddynt y potensial i gwblhau’r cymwysterau sy’n rhan o’r Interniaeth.
-
Gallu gweithio’n annibynnol ac fel aelod o dîm a chyfathrebu’n effeithiol ag amrywiaeth o bobl.
-
Lefel briodol o rifedd a llythrennedd (yn Gymraeg neu’n Saesneg).
-
Parod i gael gwiriad gorfodol gan y Gwasanaeth
-
Datgelu a Gwahardd i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer gweithio gyda phobl agored i niwed.
-
Bydd angen i ddysgwyr allu teithio’n annibynnol i’r coleg a’r lleoliad gwaith. Gellir darparu Hyfforddiant Teithio.
-
Cost gwiriad DBS manwl
-
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.