Prentisiaethau Peirianneg Ar Dir
- Campws y Gelli Aur
Mae’r prentisiaethau hyn yn darparu hyfforddiant cynhwysfawr mewn peirianneg ar dir, gan gynnig profiad ymarferol a gwybodaeth ddamcaniaethol mewn amgylchedd dysgu seiliedig ar waith. Wedi’u hanelu at unigolion dros 16 oed, mae’r rhaglenni hyn yn galluogi dysgwyr i ennill cyflog wrth iddynt ddysgu.
Mae’r diwydiant peirianneg ar dir yn cwmpasu ystod eang o gerbydau a pheiriannau arbenigol a ddefnyddir mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth, garddwriaeth, gofal daear, a pheiriannau sefydlog. Disgwylir i gyflogwyr gynnal a chadw ac atgyweirio cyfarpar, gan ofyn am wybodaeth dda o ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch. Mae meysydd allweddol yn cynnwys peiriannau amaethyddol (e.e. tractorau, peiriannau cynaeafu, beiciau cwad), peiriannau gofal daear (e.e. peiriannau torri gwair, torwyr prysgwydd), peiriannau coedwigaeth/coedyddiaeth (e.e. peiriannau cynaeafu coed, llifiau cadwyn), peiriannau sefydlog (e.e. cyfarpar prosesu grawn/cnydau, offer godro), ac offer pŵer (e.e. generaduron, pympiau dŵr). Mae prentisiaethau mewn peirianneg ar dir yn mynd i’r afael â bylchau sgiliau ac yn darparu llwybrau gyrfaol, gan sicrhau hyfywedd a thwf y diwydiant yn y dyfodol.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
- Cymysg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Lefel 2
- Galluogi symud ymlaen i brentisiaeth Lefel 3
Lefel 3
- Paratoi dysgwyr ar gyfer rolau uwch megis Technegydd Diagnostig neu Oruchwyliwr Gweithdy, gyda chyfleoedd ar gyfer addysg a hyfforddiant pellach o fewn y diwydiant.
Diploma Lefel 2 mewn Gweithrediadau Peirianneg Ar Dir Seiliedig ar Waith
- Iechyd a Diogelwch,
- Egwyddorion Mecanyddol,
- Offer a chyfarpar (paratoi, siapio a chydosod deunyddiau),
- Rhoi gwasanaeth a gwneud atgyweiriadau,
- Thermol a thorri,
- Oeri ac iro,
- Systemau trydan,
- Hydroleg,
- Perfformiad personol,
- Perthynas waith
- Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif Lefel 1
- Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu Lefel 1
- Sgiliau Hanfodol Cymru Llythrennedd Digidol Lefel 1
Diploma Lefel 3 mewn Gweithrediadau Peirianneg Ar Dir Seiliedig ar Waith
- Cydnabod a lleihau risgiau ym maes gwaith Peirianneg ar Dir,
- Deall a dilyn gweithdrefnau sefydliadol o fewn sefydliadau peirianneg ar dir,
- Darparu gofal cwsmer ym maes gweithrediadau Peirianneg,
- Defnyddio Cyfrifiadau,
- Cyflawni Proses Uno Thermol,
- Rhoi gwasanaeth i injans a chydrannau a’u hatgyweirio,
- Cynnal a Chadw systemau Monitro a rheoli Electronig ar gyfarpar Ar Dir,
- Rhoi gwasanaeth i systemau a chydrannau hydrolig a’u hatgyweirio,
- Rhoi gwasanaeth i drawsyriannau powershift, hydrostatig a CVT a’u hatgyweirio,
- Monitro trosglwyddo a gosod cyfarpar ar dir,
- Archwilio a phrofi peiriannau a chyfarpar ar dir,
- Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif Lefel 2
- Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu Lefel 2
- Sgiliau Hanfodol Cymru Llythrennedd Digidol Lefel 2
- Asesiadau sgiliau ymarferol yn y gweithle
- Cwblhau cardiau jobsys fel tystiolaeth o weithgareddau yn y gweithle
- Gwaith cwrs, cwestiynau ysgrifenedig a llafar
- Arsylwadau a thystiolaeth seiliedig ar waith
- Asesiadau rheolaidd gan Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr
- Efallai y bydd angen i ddysgwyr ddarparu eu deunydd ysgrifennu a’u cyfarpar personol eu hun.
- Costau posibl ar gyfer ymweliadau addysgol a drefnir gan yr adran
Lefel 2:
- Does dim gofynion mynediad penodol, ond mae profiad blaenorol a sgiliau ymarferol mewn peirianneg ar dir yn fanteisiol.
- Gradd D o leiaf mewn Saesneg a Mathemateg a Lefel 1 mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.
Lefel 3:
- Diploma Lefel 2 mewn Peirianneg Ar Dir Seiliedig ar Waith
- Profiad ymarferol yn y diwydiant
- O leiaf pum mlynedd o brofiad ymarferol yn y diwydiant
- 5 TGAU (A-C) neu gymwysterau Safon Uwch