Skip page header and navigation

Rheolaeth Anifeiliaid - Diploma Lefel 3

  • Campws Pibwrlwyd
Blwyddyn, gyda photensial i gwblhau blwyddyn 2

Mae’r rhaglen lawn amser hon yn cynnig ystod o sgiliau cyffrous a chyfleoedd dysgu i chi os ydych yn frwdfrydig ynghylch anifeiliaid. Byddwch yn datblygu’r sgiliau y mae cyflogwyr yn y diwydiant rheolaeth anifeiliaid yn eu gwerthfawrogi, gan eich galluogi i symud ymlaen i gyflogaeth neu gyrsiau lefel uwch yn y maes hwn. Hefyd mae’r opsiwn gennych i symud ymlaen i ail flwyddyn er mwyn cyflawni Diploma Estynedig.

Mae profiad ymarferol yn hanfodol er mwyn sicrhau swydd yn y diwydiant ar dir Am y rheswm hwn, rhaid i chi gwblhau 300 awr o brofiad gwaith yn ystod Blwyddyn 1 er mwyn ennill dealltwriaeth ddwysach o’r diwydiant a gwella eich rhagolygon am yrfa. Chi sy’n gyfrifol am ddod o hyd i’ch lleoliad gwaith eich hun a’i drefnu yn y sector rydych chi am weithio ynddo. I fodloni’r oriau gofynnol, byddwch chi’n treulio 3 diwrnod yr wythnos yn y coleg a 2 ddiwrnod ar leoliad gwaith. Felly, mae’n hollbwysig eich bod yn sicrhau lleoliad gwaith o fewn mis cyntaf  dechrau’r cwrs.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
Blwyddyn, gyda photensial i gwblhau blwyddyn 2

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

  • Ennill profiad ymarferol gydag amrywiaeth o anifeiliaid, gan gynnwys anifeiliaid anwes, mamaliaid bach, da byw, anifeiliaid dyfrol, a rhywogaethau egsotig ar y campws ac i ffwrdd ohono hefyd.
  • Cymryd rhan mewn ymweliadau a gweithdai gyda chyflogwyr, a drefnir fel rhan  o’r cwrs ac sy’n cyd-fynd â’ch modiwlau.
  • Cwblhau 300 awr o brofiad gwaith gorfodol i ddatblygu eich sgiliau cyflogadwyedd o fewn y diwydiant. Rhaid i chi drefnu hwn eich hun.
  • Cael mynediad i wasanaethau cymorth dysgu helaeth i’ch cynorthwyo drwy’r rhaglen.

Byddwch chi’n astudio ystod o unedau, a all gynnwys:

  • Iechyd Anifeiliaid
  • Llety Anifeiliaid
  • Bwydo Anifeiliaid
  • Bioleg Anifeiliaid
  • Trin Anifeiliaid a Gweithio’n Ddiogel
  • Profiad Cysylltiedig â Gwaith yn y Diwydiannau Ar Dir
  • Ymddygiad a Chyfathrebu Anifeiliaid
  • Lles Anifeiliaid a Datblygu Bridiau
  • Gofal a Hwsmonaeth Anifeiliaid Egsotig
  • Hwsmonaeth a Rheolaeth Anifeiliaid Dyfrol
  • Iechyd a Hwsmonaeth Anifeiliaid Sŵolegol,
  • Hyfforddi Anifeiliaid
  • Prosiect Ymchwiliol
  • Busnes o fewn y Diwydiannau Ar Dir
  • Ecoleg a Chadwraeth Bywyd Gwyllt
  • Anatomeg a Ffisioleg
  • Nyrsio Anifeiliaid
  • Sgiliau Ystadau
  • Maetheg Anifeiliaid

Byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu sgiliau ychwanegol, megis TGAU Mathemateg neu Saesneg, neu gwrs Sgiliau Cymraeg.

Mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio i’ch helpu i ddod o hyd i waith gydag anifeiliaid, boed mewn cyndy, cathdy, parlwr twtio cŵn, neu siop anifeiliaid anwes. Os oes eisoes gennych rywfaint o brofiad mewn gofal anifeiliaid, gallwch chi ddatblygu’r sgiliau i fod yn uwch weithiwr, rheolwr, neu i baratoi ar gyfer hyfforddiant lefel uwch. 

Efallai gallwch chi hefyd symud ymlaen i Addysg Uwch, gan fod y cymhwyster hwn yn cynnwys pwyntiau tariff UCAS. Fodd bynnag, dylech chi wirio’r pwyntiau sy’n ofynnol ar gyfer eich cwrs dewisol.

Pwyntiau UCAS:

  • Blwyddyn 1:
    • Gradd Rh*: 84
    • Gradd Rh: 72
    • Gradd T: 48
    • Gradd P: 24
  • Blwyddyn 1 a 2 (gradd gyffredinol ar gyfer y ddwy flynedd):
    • Gradd Rh*: 168
    • Gradd Rh: 144
    • Gradd T: 96
    • Gradd P: 48

Ar gyfer pob uned, byddwch chi’n cwblhau un aseiniad yn cynnwys cyfres o dasgau. Mae’r tasgau hyn yn amrywio o ran fformat ac efallai eu bod yn cynnwys:

  • Adroddiadau ysgrifenedig
  • Tasgau ymarferol
  • Posteri
  • Taflenni
  • Cyflwyniadau
  • Portffolios
  • Llyfrynnau

Mae’r dull asesu amrywiol hwn yn caniatáu i chi arddangos eich cryfderau unigol.

  • 5 TGAU A-C (rhaid eu bod yn cynnwys o leiaf un o’r canlynol: Mathemateg, Saesneg Iaith, Cymraeg Iaith Gyntaf)
  • Pasio cyfweliad llwyddiannus. 
  • Bydd gennych fynediad i ystod o gyfarpar ac adnoddau yn y coleg.  Fodd bynnag bydd disgwyl i chi hefyd brynu dillad penodol ar gyfer sesiynau ymarferol sef oferôls, sgrybs, trowsus gwrth-ddŵr a welingtons (yn ddelfrydol gyda blaenau dur). Ni ddylai’r gost fod yn fwy na £150 a gellir trafod hyn yn y cyfweliad.
  • Gellir prynu hwdis a thopiau gyda logo’r coleg, er mae hyn yn opsiynol.
  • Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
  • Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.