Lefel 2 Gofal Anifeiliaid
- Campws Aberystwyth
- Campws Pibwrlwyd
Datblygwch y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i ddechrau gyrfa werth chweil yn y diwydiant gofal anifeiliaid gyda’n cwrs Lefel 2 Gofal Anifeiliaid. Ewch ati i ddysgu sgiliau ymarferol fel trin anifeiliaid, gofal, a chynnal a chadw llety, tra’n dyfnhau eich dealltwriaeth ddamcaniaethol o les anifeiliaid a hwsmonaeth.
Mae profiad gwaith wrth galon y cwrs hwn, gan roi cyfle i chi ymarfer sgiliau cyflogadwyedd mewn lleoliadau byd go iawn fel ffermydd, practisau milfeddygol ac elusennau anifeiliaid. Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i gwrs Rheolaeth Anifeiliaid Lefel 3, dilyn astudiaethau prifysgol, neu gamu’n uniongyrchol i gyflogaeth o fewn y sector deinamig hwn.
Gallwch ddewis o blith dau lwybr:
Opsiwn 1: Tystysgrif Dechnegol (ar gael ar sawl campws) neu
Opsiwn 2: Diploma (ar ein campws ym Mhibwrlwyd yn unig).
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Saesneg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
-
Byddwch chi’n gweithio’n agos gyda’ch cyflogwr ar gyfer profiad gwaith a hefyd tiwtoriaid cwrs yn y coleg.
Byddwch yn mynychu’r coleg tua phedwar diwrnod yr wythnos ar gyfer sesiynau gwybodaeth greiddiol ac asesiadau ymarferol. Mae’r cwrs yn seiliedig ar waith theori a gwaith ymarferol gydag amrywiaeth o anifeiliaid o famaliaid bach i geffylau.
-
Mae’r modiwlau ar y cymhwyster hwn yn cynnwys y canlynol:
- Cynnal Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Ymgymryd â Bwydo Anifeiliaid yn Ymarferol
- Cynnal Llety Anifail
- Ymgymryd â Phrofiad Cysylltiedig â Gwaith yn y Diwydiannau Ar Dir
- Deall Egwyddorion Sylfaenol Bioleg Anifeiliaid
- Cyfrannu at Ofal Anifeiliaid Egsotig
- Cyflwyniad i Ofalu am Bysgod Addurnol
- Sesiynau Dysgu Ymarferol
Byddwch yn cael y cyfle i ymgymryd â datblygu sgiliau mewn Saesneg neu Fathemateg ar lwybr i gyflawni cymhwyster TGAU.
-
Mae dilyniant o’r cymhwyster hwn yn ofyniad mynediad ar gyfer y cyrsiau rheolaeth anifeiliaid lefel tri sy’n rhedeg yn y coleg. Bydd hefyd yn eich galluogi i ddilyn llwybrau cyflogaeth y gellid dod o hyd iddynt o’ch lleoliad profiad gwaith neu ddiwydiannau a chyfleoedd ar dir eraill.
-
Asesiadau gwaith cwrs parhaus fydd yn cynnwys tasgau ysgrifenedig a phrosiectau, profion byr ac asesiadau ymarferol a wneir yn y ganolfan gofal anifeiliaid sydd ar y safle. Bydd eich asesiadau ymarferol yn digwydd gyda nifer lluosog o wahanol rywogaethau naill ai yn yr ystafell anifeiliaid egsotig, yr ystafell mamaliaid bach, ystafell y pysgod, y gwningar neu’r iard geffylau.
-
4 TGAU graddau D ac uwch (neu gyfwerth) i gynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg Iaith a Mathemateg/Rhifedd. Neu gymhwyster Lefel 1 ar radd teilyngdod neu ragoriaeth ac o leiaf 85% o ran presenoldeb.
Rhaid i’r dysgwr allu cael 150 awr o leoliad gwaith gyda lleoliad rhagarweiniol wedi’i drefnu cyn yr wythnos gynefino yn y coleg - gellir trafod hyn yn y cyfweliad. Yn ogystal, gofynnir i fyfyrwyr wneud prawf diagnostig ar eu sgiliau llythrennedd a rhifedd ond mae cymorth dysgu ar gael.
Bydd addasrwydd ar gyfer y cwrs yn cael ei asesu yn y cyfweliad a thrwy gydol y cyfnod cynefino. -
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun ac mae’n bosibl hefyd y bydd gofyn i chi dalu am ymweliadau addysgol y mae’r adran yn eu trefnu.
Mae Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) yn orfodol er mwyn i chi ymgymryd ag elfennau ymarferol y cwrs. Bydd rhaid i chi ddarparu oferôls, top sgryb, welingtons neu fŵts, siaced wrth-ddŵr ac o bosibl trowsus gwrth-ddŵr.
-
Byddwch yn gweithio’n agos gyda nifer o wahanol diwtoriaid cwrs trwy gydol eich wythnos goleg. Disgwylir i chi fynychu’r coleg 3 diwrnod yr wythnos a chwblhau’r 60 o oriau profiad gwaith ar eich diwrnodau profiad gwaith neilltuedig ar eich amserlen ar gyfer y coleg.
Mae’r cwrs yn gymysgedd o ddysgu seiliedig ar theori a gwaith ymarferol ill dau ac asesiadau. Byddwch yn ennill profiad ymarferol gydag amrywiaeth eang o anifeiliaid ar y safle, gan gynnwys adar, geifr, ymlusgiaid, moch cwta, cwningod, pysgod a cheffylau.
Byddwch yn ymgymryd ag ymweliadau i wahanol leoedd i gyfoethogi eich profiad o ddysgu. Mae’r coleg hefyd yn cynnig y cyfle i chi ailsefyll eich TGAU mathemateg a saesneg.
-
Mae’r modiwlau ar y cymhwyster hwn yn cynnwys y canlynol:
- Cynnal Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Ymgymryd â Bwydo Anifeiliaid yn Ymarferol
- Cynnal Llety Anifail
- Ymgymryd â Phrofiad Cysylltiedig â Gwaith yn y Diwydiannau Ar Dir
- Deall Egwyddorion Sylfaenol Bioleg Anifeiliaid
- Cyflwyniad i Ofalu am Anifeiliaid Sŵ
- Cyflwyniad i Ofalu am Bysgod Addurnol
- Sesiynau Dysgu Ymarferol
Byddwch yn cael y cyfle i ymgymryd â datblygu sgiliau mewn Saesneg neu Fathemateg ar lwybr i gyflawni cymhwyster TGAU.
-
Mae dilyniant o’r cymhwyster hwn yn ofyniad mynediad ar gyfer y cyrsiau rheolaeth anifeiliaid lefel tri sy’n rhedeg yn y coleg. Bydd hefyd yn eich galluogi i ddilyn llwybrau cyflogaeth y gellid dod o hyd iddynt o’ch lleoliad profiad gwaith neu ddiwydiannau a chyfleoedd ar dir eraill.
-
Asesiadau gwaith cwrs parhaus fydd yn cynnwys tasgau ysgrifenedig a phrosiectau, profion byr ac asesiadau ymarferol a wneir yn y ganolfan gofal anifeiliaid sydd ar y safle. Bydd eich asesiadau ymarferol yn digwydd gyda nifer lluosog o wahanol rywogaethau naill ai yn yr ystafell anifeiliaid egsotig, yr ystafell mamaliaid bach, ystafell y pysgod, y gwningar neu’r iard geffylau.
-
4 TGAU graddau D ac uwch (neu gyfwerth) i gynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg Iaith a Mathemateg/Rhifedd. Neu gymhwyster Lefel 1 ar radd pas, presenoldeb cyson yn unol â disgwyliadau’r cwrs.