Skip page header and navigation

Riportiwch Achosion o Gamymddwyn a Helpwch i Gadw Ein Cymuned yn Ddiogel

Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel, croesawgar a chynhwysol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi.

Rydym ni o’r farn nad yw bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu – gan gynnwys aflonyddu rhywiol, trais, cam-drin na chasineb – byth yn dderbyniol. Rydym yn cymryd pob adroddiad o’r math hwn o ddifrif.

Drwy roi gwybod am unrhyw bryderon, rydych chi’n ein helpu ni i gynnal diwylliant coleg cadarnhaol lle gall pawb ddysgu, gweithio, a pharhau i fod yn rhydd rhag niwed.

  • Os ydych chi mewn perygl uniongyrchol, yn teimlo’n anniogel, neu os oes rhywun wedi cael anaf difrifol, ffoniwch 999 ar unwaith.

    Os ydych chi’n poeni neu’n gofidio am eich diogelwch eich hun neu am ddiogelwch rhywun arall, siaradwch ag unrhyw aelod o staff cyn gynted â phosibl. Fe wnawn nhw’n eich helpu i gael mynediad at y gwasanaethau cymorth cywir.

    Gallwch hefyd gysylltu â Swyddog Diogelu neu anfon e-bost at:

    Ar gyfer pryderon yn ymwneud â lles nad ydynt yn rhai brys, mae ein Tîm Lles wedi’i leoli ar bob campws. Gallwch alw heibio neu anfon e-bost at:

  • Os ydych chi wedi profi – neu wedi gweld – ymddygiad nad yw’n dderbyniol, defnyddiwch ein Ffurflen Adrodd am Ddigwyddiad. Mae hyn yn cynnwys digwyddiadau sy’n digwydd ar y campws, ar-lein, yn ystod lleoliadau gwaith, neu oddi ar y safle.

    Gallwch riportio’r canlynol, er nad yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr:

    • Bwlio
    • Gwahaniaethu
    • Aflonyddu
    • Pryderon yn Ymwneud ag Iechyd a Diogelwch
    • Homoffobia/Trawsffobia
    • Cam-drin Ar-lein
    • Cam-drin Corfforol 
    • Hiliaeth
    • Rhywiaeth
    • Camddefnyddio Sylweddau
    • Sbeicio
    • Fandaliaeth neu Ddifrod i Eiddo
    • Cam-drin Geiriol

    Mae opsiwn ‘Arall’ hefyd lle gallwch ddisgrifio digwyddiad nad yw’n ffitio i un o’r categorïau a restrir.

    Mae pob adran o’r ffurflen yn cynnwys disgrifiadau ac enghreifftiau syml i’ch helpu i benderfynu pa opsiwn i’w ddewis.

  • Mae’r Ffurflen Adrodd am Ddigwyddiad hon ar gyfer:

    • Dysgwyr
    • Ymwelwyr

    Mae’r ffurflen hefyd yn rhoi cyfle i chi riportio digwyddiad ar ran rhywun arall. 

    Weithiau ni ellir bod yn sicr y bydd y person yr effeithir arno yn dewis ripotio digwyddiad, felly defnyddiwch y ffurflen adrodd am ddigwyddiad os byddwch yn sylwi ar unrhyw beth yr ydych yn teimlo y dylid ei ddwyn i’n sylw.

  • Cewch. Gallwch gyflwyno’r ffurflen yn ddienw neu ddewis rhannu eich enw a’ch manylion cyswllt.

    Os ydych chi’n riportio ar ran rhywun arall, byddwch yn ymwybodol na fyddwch chi’n gallu cynnwys eu gwybodaeth gyswllt (oni bai eu bod nhw wedi rhoi eu caniatâd).

  • Os ydych chi’n adrodd yn ddienw:
    • Ni fyddwn yn gallu ymateb i’ch achos unigol.
    • Fodd bynnag, bydd y wybodaeth rydych chi’n ei rhannu yn dal i’n helpu i weld patrymau ac atal digwyddiadau yn y dyfodol.
    • Cedwir adroddiadau dienw yn gyfrinachol a chânt eu defnyddio at ddibenion monitro ac atal yn unig.
    Os ydych chi’n rhannu eich enw a’ch manylion cyswllt:
    • Byddwn yn cysylltu â chi o fewn tri diwrnod gwaith (ac eithrio penwythnosau a gwyliau cyhoeddus).
    • Byddwch yn cael cynnig cymorth ac yn cael eich cyfeirio at unrhyw wasanaethau perthnasol.
    • Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw’n gyfrinachol oni bai bod pryder diogelu cyfreithiol neu risg ddifrifol o niwed.
    • Ni fyddwn byth yn rhannu eich manylion heb eich caniatâd, oni bai bod y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni wneud hynny.

    Am fwy o fanylion ynglŷn â sut rydym yn trin eich data, gweler ein Polisi.

Ydych Chi’n Barod i Riportio?

Rydym bob amser yn annog dysgwyr i siarad ag aelod o staff y gellir ymddiried ynddynt, y Tîm Lles, neu Swyddog Diogelu. Ond os byddai’n well gennych chi riportio rywbeth ar-lein – neu aros yn ddienw – defnyddiwch y ddolen isod.

Diolch i chi am ein helpu i amddiffyn a chefnogi cymuned ein coleg.