Cludiant Myfyrwyr - Coleg Sir Gâr
Cludiant Myfyrwyr - Coleg Sir Gâr
Gwneud Cais am Docyn Teithio y Coleg
Rhaid i fyfyrwyr newydd a myfyrwyr sy’n dychwelyd wneud cais am gludiant myfyrwyr bob blwyddyn. Nid oes unrhyw gario ymlaen. Gwneir cais am docyn teithio bws coleg wrth gofrestru, nid oes ffurflen gais ar wahân. Os na chysylltwyd â chi ynglŷn â chofrestru, e-bostiwch admissions@colegsirgar.ac.uk i wirio statws eich cais am gwrs.
Os ydych chi’n ddysgwr addysg bellach amser llawn ac eisoes wedi derbyn eich enw defnyddiwr, gallwch wneud cais am gludiant yn https://gwneudcais.colegsirgar.ac.uk/
Bysiau Cytundeb y Coleg
- Rhoddir gwybodaeth am Lwybrau / Amserau ar wefan y coleg;
- Os yw’r cais yn llwyddiannus, rhoddir tocyn bws i ddysgwyr;
- Ni roddir tocynnau dros dro;
- Bysiau Gwasanaeth Cyhoeddus
- Os yw’r cais yn llwyddiannus, rhoddir tocyn bws i ddysgwyr:
- Ar gyfer bysiau cytundeb coleg, bydd cyfnod yn ystod mis Medi pan fydd myfyrwyr yn gallu cael mynediad i’r cerbydau hyn heb ddangos tocyn tethio. Bydd y cyfnod cyfyngedig hwn pan godir y cyfyngiad tocyn teithio yn cael ei hysbysebu ar wefan y coleg, cyfryngau cymdeithasol y coleg a cherbydau.
Bysiau Gwasanaeth Cyhoeddus
- Bydd myfyrwyr a fyddai’n gymwys i gael cludiant myfyrwyr ac a neilltuwyd i fysiau gwasanaeth cyhoeddus yn cael ad-daliad am eu ffioedd drwy gydol cyfnod penodol yn ystod mis Medi, ar yr amod bod tocynnau bws dilys yn cael eu cyflwyno a byddant yn destun gwiriadau ar gymeradwyaeth, tocynnau bws a chofrestri dosbarth. Bydd y cyfnod cyfyngedig hwn yn cael ei hysbysebu ar Ap y coleg a’r Porth. Ni fydd unrhyw ad-daliadau eraill yn cael eu cymeradwyo. Gellir gwneud hawliadau yn y Dderbynfa.
-
fyngherdynteithio i bobl 16-21 oed sy’n caru teithio rhatach (Llywodraeth Cymru) Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu prisiau bws rhatach i bobl ifanc yng Nghymru. Gwnewch gais ar-lein am fyngherdynteithio ac yna defnyddiwch ef ar y bws i gael gostyngiad ar bris eich tocyn. Bydd prosiect peilot newydd sy’n dechrau ym mis Medi 2025 yn rhoi tocynnau sengl £1 a theithio dyddiol diderfyn £3 i chi. Mwy o wybodaeth https://mytravelpass.tfw.wales/
https://www.firstbus.co.uk/south-west-wales/tickets/ticket-prices
https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/gwasanaethaur-cyngor/priffyrdd-teithio-a-pharcio/gwasanaethau-bws/prisiau-a-thocynnau/
Gall dysgwyr â chyflyrau meddygol, anableddau neu anawsterau dysgu fod yn gymwys i gael darpariaeth tacsi neu fws, yn amodol ar dystiolaeth ategol berthnasol. Mae’r ceisiadau hyn yn cael eu hystyried ar sail achos unigol.
- Ceisiwch wneud eich trefniadau cludiant eich hun;
- Mae ffurflenni cais am Cludiant Anghenion Ychwanegol ar gael ar gais trwy anfon e-bost i: unedcludiant@colegsirgar.ac.uk
- Cwblhewch a dychwelwch yn electronig ynghyd â thystiolaeth ategol ar gyfer asesu ceisiadau.
Ar gyfer bysiau gwasanaeth cyhoeddus, edrychwch ar www.traveline.cymru neu ffoniwch 0800 464 00 00 i gael y wybodaeth ddiweddaraf am amserlenni bysiau.