Skip page header and navigation

Croeso i Gymuned ein Coleg

Cadwch lygad ar yr holl newyddion, digwyddiadau a chyfleoedd dysgu diweddaraf. O straeon llwyddiant ysbrydoledig i nosweithiau agored sydd ar ddod, mae digon i’w archwilio.

Content Listing 2

Mae gwaith myfyrwraig cynhyrchu yn y cyfryngau creadigol yng Ngholeg Sir Gâr wedi cael ei roi ymhlith y pump gorau yng nghystadleuaeth Time to Inspire Into Film: , sydd wedi arwain at wahoddiad i weithio gyda chynhyrchwyr ym mhencadlys Netflix yn Llundain ar gyfer cam nesaf y gystadleuaeth.

A selfie of Amber wearing a black t-shirt and she has long fair hair

Mae myfyrwyr ILS (sgiliau byw’n annibynnol) wedi bod yn dysgu am Fis Hanes Pobl Ddu, gyda ffocws penodol ar gyflawniadau a chyfraniadau Pobl Ddu Cymru.

Ace in a classroom with people listening around tables

Botwm Noson Agored

Pam mynychu Noson Agored?

Mae nosweithiau agored yn helpu pobl i wneud gwell penderfyniadau ynghylch  beth maen nhw am ei astudio. Mae hyn oherwydd byddan nhw’n cwrdd â staff addysgu i gael cyngor teilwredig, gweld y cyfleusterau a chael ymdeimlad cyffredinol o’r amgylchedd dysgu.  

Peidiwch â cholli ein nosweithiau agored mis Tachwedd: 

11 Tachwedd 2025 – Campws Aberteifi | 4:30–7pm

12 Tachwedd 2025 – Campws Aberystwyth | 4:30–7pm

13 Tachwedd 2025 - 5:00pm - 7:30pm - Holl gampysau Coleg Sir Gâr

Grŵp o fyfyrwyr a rhieni yn cofrestru mewn digwyddiad

Rhestru Cynnwys

Bu myfyrwyr gwyddoniaeth Safon Uwch Coleg Sir Gâr yn gweithio gyda gweithwyr meddygol a deintyddol proffesiynol o'r GIG mewn gweithdai a drefnwyd gan Raglen Maes Meddygol y coleg.

A nurse in the foreground writing something on a clipboard with students working in the background

Mae Hephzibah Huggins yn fyfyrwraig dylunio dodrefn ysbrydoledig a chreadigol sy'n gwau ei hangerdd dros natur leol a'r Gymraeg i’w gwaith.

Yr hyn sy'n gwneud Hephzibah yn berson hyd yn oed yn fwy arbennig yw bod ganddi fath prin o ganser y gwaed. Mae hi wedi cael sawl triniaeth cemotherapi a thrallwysiadau gwaed gydag ymweliadau di-ri â'r ysbyty, a hynny am o leiaf pythefnos ar y tro

Hephzibah in the workshop

Sbotolau ar Gyrsiau: Oes diddordeb gyda chi mewn astudio Arlwyo a Lletygarwch?

Gyda brwdfrydedd mawr am arbenigedd coginiol ac ysfa i ddarparu gwasanaeth cwsmer neilltuol, mae cyrsiau arlwyo yn meithrin y sgiliau proffesiynol sydd eu hangen i lwyddo yn y diwydiant lletygarwch sy’n gofyn llawer ond sydd eto’n werth chweil.

Mae rhai o’n myfyrwyr wedi cynrychioli’r DU ac wedi derbyn hyfforddiant gan WorldSkills mewn sefydliadau fel y Ritz yn ychwanegol i’w hastudiaethau. Hefyd maen nhw wedi cael eu dewis i hyfforddi ar gyfer Tîm y DU yn Shanghai ac i gystadlu yn Abu Dhabi.   

Gwnewch gais am gwrs