Skip page header and navigation

Rwy’n arbennig o bles gan ei bod yn cydnabod ansawdd yr addysgu o fewn ein tîm sydd wedi galluogi myfyrwyr i gyrraedd eu graddau uchaf posib. Angharad Mansfield, Pennaeth Safon Uwch 

Mae tîm Safon Uwch 6ed Sir Gâr Coleg Sir Gâr wedi ennill Gwobr Aur System Perfformiad Safon Uwch (Alps) sy’n rhoi’r coleg ymhlith y 25% uchaf o ysgolion a cholegau sy’n perfformio orau ar gyfer Safon Uwch yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r wobr hon yn cydnabod cyflawniad myfyrwyr o ran canlyniadau Safon Uwch 2025 y coleg lle gwelwyd myfyrwyr yn symud ymlaen i Gaergrawnt, Rhydychen a Princeton, i ddarllen y gyfraith, hanes a seicoleg yn y drefn honno. 

Nid graddau’n unig sy’n bwysig yng Ngholeg Sir Gâr, ond yn hytrach taith pob myfyriwr ac mae’r wobr hon yn dangos yr ymdrech a wneir gan staff i’w helpu i gyrraedd eu potensial gorau oll.

Yn 2025, aeth 88% o fyfyrwyr ymlaen i astudiaeth israddedig gyda dros chwarter yn mynychu prifysgolion grŵp Russell.

Yng nghanlyniadau 2025 y coleg, enillodd 14% o fyfyrwyr raddau A*, cafodd 32% raddau A* i A, cyflawnodd 56% A* i B, cyflawnodd 83% A*-C a chyflawnodd 99% o fyfyrwyr A* i E.

Erin standing in between large lit up letters spelling Da Iawn, with her results

Yn y coleg cefais lwyth o gefnogaeth gyda sut i wneud cais cystadleuol a pha weithgareddau uwchgwricwlaidd fyddai o fudd i mi yn fy natganiad personol a’m cyfweliad, a wnaeth i mi deimlo’n ddiogel iawn ynghylch y broses. Erin Mcarthy, sy’n astudio’r Gyfraith yng Nghaergrawnt 

Meddai Angharad Mansfield, pennaeth Safon Uwch yng Ngholeg Sir Gâr: “Rydyn ni wrth ein bodd yn derbyn Gwobr Aur Alps.

“Rwy’n arbennig o bles gan ei bod yn cydnabod ansawdd yr addysgu o fewn ein tîm sydd wedi galluogi myfyrwyr i gyrraedd eu graddau uchaf posib.

“Hefyd mae’n tystio i ymrwymiad ein staff, eu hymroddiad i ddysgu a’r angerdd sydd ganddynt ar gyfer eu maes pwnc yn ogystal â’u hymglymiad i fentrau megis yr Academi Seren. 

“Caiff myfyrwyr fynediad i wybodaeth arbenigol a chymorth pwrpasol, ac nid yn unig yn yr ystafell ddosbarth. Mae ein staff yn annog diddordeb ymhlith myfyrwyr ar ôl y coleg ac yn annog astudio pellach sydd ymhell y tu hwnt i’r cwricwlwm safonol.

“Yn ychwanegol i hynny mae ein partneriaethau gydag addysg uwch megis Coleg Newydd Rhydychen a Phrifysgol Abertawe, sy’n caniatáu i’n myfyrwyr archwilio opsiynau israddedig a phrentisiaethau uwch.” 

Cydnabyddir y system Alps yn genedlaethol fel offeryn mesur sy’n olrhain cynnydd o TGAU i Safon Uwch gan gynnwys graddau targed a graddau disgwyliedig.  Mae’n cydnabod ansawdd addysgu o fewn sefydliad pan fydd myfyrwyr yn rhagori’n helaeth ar hyn.

Hannah in front of some greenery wearing a Princeton hoodie

“Wrth i mi wneud cais i brifysgolion yn yr Unol Daleithiau, cefais gefnogaeth anhygoel wedi’i theilwra i’r llwybr ychydig yn wahanol hwn.  Aeth fy nhiwtor, Nina, yr ail filltir - gan helpu gyda geirdaon, deall y gwahanol ofynion, a’m cefnogi drwy’r broses gyfan.  Gwnaeth eu hymroddiad wahaniaeth gwirioneddol i’m profiad a rhoddodd yr hyder i mi ddilyn llwybr a oedd yn llai cyffredin ymhlith fy nghymheiriaid.”  Hannah Freckleton, sy’n astudio Seicoleg ym mhrifysgol Princeton

“Gwnaeth fy nhiwtoriaid hi’n hawdd i mi gydbwyso’r broses o ymgeisio i brifysgolion gyda fy ymrwymiadau rygbi. Tra fy mod yn astudio ar gyfer fy Safon Uwch, rwyf hefyd wedi chwarae dros Academi Rygbi Coleg Sir Gâr, tîm Dan 18 y Scarlets, tîm Cymru Dan 19 a thîm Cymru Dan 20.” Siôn Jones, sy’n astudio Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Abertawe

Sion wearing a red top, a headshot in front of some mountains
A graphic with a gold rosette, stars, saying A-level Gold Award, Top 25% 2025
Sir Gar 6 logo

Rhannwch yr eitem newyddion hon