Skip page header and navigation
An Access student holding a certificate with tutor Nick Fry

Estynnodd y tîm Safon Uwch a Mynediad yng Ngholeg Sir Gâr groeso i gyn-fyfyrwyr i ddathliad a oedd yn eu llongyfarch am eu cyflawniadau yn y coleg ac yn cydnabod eu llwyddiant gyda gwobrau coleg. 

Mae cyrsiau Safon Uwch a Mynediad ill dau yn helpu pobl i gyflawni eu cyrchnodau i astudio yn y brifysgol neu ar brentisiaethau uwch er mwyn cyflawni eu cyrchnodau gyrfaol.

Cyflwynodd yr is-bennaeth Amanda Daniels wobr cyflawniad neilltuol mewn Safon Uwch i Erin McCarthy, sydd bellach yn astudio’r Gyfraith yng Nghaergrawnt.

Mae Matt Hays, a astudiodd gwrs Mynediad mewn dyniaethau a gwyddorau cymdeithasol, nawr yn astudio newyddiaduriaeth ym Mhrifysgol Caer-wynt. Cyflawnodd e un o’r proffiliau gradd-uchaf ar y cwrs y llynedd er gwaetha’r ffaith ei fod yn wynebu amser heriol yn ei fywyd personol a fu bron â pheri iddo dynnu nôl o’r cwrs; ond gyda chefnogaeth tiwtoriaid cyflawnodd ei gyrchnod yn llwyddiannus. 

Someone playing the guitar in the foreground wearing a Xmas hat

Fe wnaeth George Glennister ennill gwobrau ar gyfer pob un o’i dri phwnc, cemeg, mathemateg bellach a ffiseg. Yn ogystal enillodd e wobr Cyflawniad Neilltuol mewn Safon Uwch. Gwnaeth ei ddarlithydd cemeg nodi ei chwilfrydedd cemegol neilltuol, ei alluoedd dadansoddol a diddwythol cryf a’i frwdfrydedd cyffredinol yn y labordy. 

Yn y digwyddiad hefyd gwelwyd dychweliad yr enillydd gwobr Eunsuk Seo, a astudiodd gwrs Mynediad i ofal iechyd. Mae hi bellach yn elwa ar hyn ym Mhrifysgol Abertawe lle mae hi’n astudio gradd nyrsio sy’n arbenigo mewn anawsterau dysgu.

Cyflwynwyd Gwobr Mynediad am Ymdrech Neilltuol i Jamie Perks, a ddechreuodd yn y coleg â gweledigaeth o’i ddyfodol ond roedd yn ansicr ynghylch sut i’w chyflawni. Mae e bellach yn astudio gradd mewn seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe. 

Anfonodd y gyn-fyfyrwraig Safon Uwch Hannah Freckleton fideo i’w thiwtoriaid o Gost Rica a gafodd ei chwarae yn y digwyddiad gwobrwyo. Enillodd Hannah raddau eithriadol a chafodd hi gynnig o radd seicoleg wedi’i ariannu’n llawn ym Mhrifysgol Princeton, America a oedd yn cynnwys lleoliad yn ystod blwyddyn i ffwrdd. Ar hyn o bryd mae hi yng Nghosta Rica, yn aros gyda theulu lletya, yn dysgu Sbaeneg ac yn addysgu Saesneg i blant mewn ysgol gynradd leol. 

Angharad Mansfield, head of A levels speaking

Meddai Angharad Mansfield, pennaeth Safon Uwch a 6ed Sir Gâr yng Ngholeg Sir Gâr: “Dyma un o’n hoff ddigwyddiadau yng nghalendr y gyfadran; dathlu llwyddiant ein myfyrwyr a rhannu’r dathliadau gyda’u teuluoedd a ffrindiau.  

“Roedd y llynedd yn flwyddyn lwyddiannus iawn i 6ed Sir Gâr oherwydd enillon ni Wobr Aur Alps sy’n rhoi’r coleg ymysg y 25% uchaf o ysgolion a cholegau sy’n perfformio orau ar lefel Safon Uwch yng Nghymru a Lloegr.

“Mae hyn yn ganlyniad i waith caled ein myfyrwyr a’n darlithwyr a’r perthnasoedd gwaith a feithrinir gyda darlithwyr, sydd wedi cyfrannu’n aruthrol i’r llwyddiant hwn.

“Yn y dathliad diwedd blwyddyn hwn, hoffwn i ddiolch hefyd i’r holl staff ar ein tîm am eu cefnogaeth ac ymrwymiad parhaus i gyflawni’r canlyniadau gorau oll  i’n myfyrwyr.”

Hoffai’r coleg ddiolch i Mark Jennings o Wasanaeth Cerddoriaeth Sir Gaerfyrddin am arwain ein myfyrwyr cerddoriaeth Safon Uwch yn y cyfeiliant cerddorol i groesawu gwesteion i’r digwyddiad. 

Mwy o luniau

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau