Skip page header and navigation

Dychwelodd cyn-fyfyriwr o Goleg Ceredigion i’r coleg i rannu ei brofiad cynhyrchu gyda myfyrwyr cyfryngau creadigol a thechnoleg cyn gorffen ei flwyddyn o brofiad gwaith yn y diwydiant ac anelu am Brifysgol Llundain i arbenigo mewn ffilm.

Fe wnaeth Ricardo Dias, a gymerodd flwyddyn allan i ennill profiad yn y diwydiant, ddychwelyd i rannu ei daith ers gadael y coleg y llynedd.

Soniodd e am ei brofiad diweddar gyda Chief, cwmni cynhyrchu masnachol lle bu’n gweithio fel negesydd yn y swyddfa, ac ar y set yn gweithio ar hysbyseb cerbyd trydanol Geely.

Ricardo standing in front of a whiteboard showing his presentation

Cynigiodd gyngor ymarferol ar sicrhau profiad gwaith, realiti dyddiau ffilmio hir ond gwerth chweil, a phwysigrwydd proffesiynoldeb, brwdfrydedd a rhwydweithio. 

Meddai Ricardo Dias: “Mae cael profiad fel negesydd wedi dysgu i mi pa mor bwysig yw hi i fod yn rhagweithiol, yn addasadwy a phob amser yn barod i ddysgu. Mae pob dydd ar y set yn gyfle i feithrin sgiliau a gwneud cysylltiadau.” 

Ricardo pointing at the presentation

Ychwanegodd Sofia Bechraki, darlithydd Coleg Ceredigion a chyn-diwtor Ricardo: “Gweithiodd Ricardo yn galed ar y cwrs cyfryngau creadigol i baratoi ar gyfer realiti’r diwydiant cyfryngau.

“Enillodd e’r hyder, y sgiliau technegol a’r meddylfryd proffesiynol sydd eu hangen i wneud cynnydd.

“Mae Ricardo ar fin dechrau cwrs israddedig yn yr Ysgol Ffilm Ganolog, yn Llundain y mis Medi hwn ar ôl cymryd blwyddyn allan i ennill profiad pellach yn y diwydiant a datblygu ei bortffolio. 

“Ar hyn o bryd mae’n ffilmio ffilm arswyd seicolegol fer wedi’i lleoli yn Aberystwyth.”

Mae’r grŵp cyfryngau creadigol a thechnoleg yn astudio diploma estynedig Prifysgol y Celfyddydau, Llundain (UAL) . 

Students all sitting in a semi-circle listening to Ricardo

Rhannwch yr eitem newyddion hon