Skip page header and navigation
Mia in her Royal Navy uniform in front of the UK flag

“Byddwn i’n argymell yn gryf cyrsiau busnes neu wasanaethau cyhoeddus lefel tri Coleg Ceredigion gan eu bod yn gam ardderchog ac ymarferol tuag at  unrhyw yrfa yn y dyfodol, ac yn eich paratoi yn dda gyda’r sgiliau sydd eu hangen mewn unrhyw broffesiwn.” Mia Bradley

Ar hyn o bryd mae Mia Bradley, cyn-fyfyrwraig busnes yng Ngholeg Ceredigion yn hyfforddi gyda HMS Raleigh i ddod yn swyddog meddygol gyda’r Llynges Frenhinol ar ôl cwblhau ei hyfforddiant milwrol cychwynnol.   

Gyda diddordeb brwd mewn busnes pan ddechreuodd hi yn y coleg, cofrestrodd Mia ar y cwrs Diploma Estynedig lefel tri BTEC sy’n gyfwerth yn alwedigaethol â thair Safon Uwch.

Roedd diddordeb gan Mia erioed mewn ymuno â’r lluoedd arfog a dangosodd hi eu gwerthoedd craidd o ddisgyblaeth a gwaith tîm drwy gydol ei hastudiaethau dwy-flynedd a ddaeth i ben y llynedd. 

Meddai Kevin Williams, tiwtor busnes Coleg Ceredigion ar gampws Aberystwyth: “A hithau yn chwaraewr tîm yng ngwir ystyr y gair, roedd Mia bob amser yn ddibynadwy a threfnus, a byddai bob amser yn dod â phresenoldeb tawel, cefnogol i dasgau grŵp, gan annog eraill tra’n cymryd cyfrifoldeb dros ei rôl ei hun.

“Yn ystod ei hastudiaethau, cymerodd Mia ran hefyd mewn lleoliad gwaith a ariannwyd gan Taith ym Marcelona lle y bu’n gweithio fel rhan o dîm ar dasg yn ymwneud ag ehangu presenoldeb cyfryngau cymdeithasol cwmni sy’n gweithgynhyrchu hidlyddion dŵr. 

“Gwnaeth hi argraff ardderchog ar ei gwesteiwyr, a chafodd ei hagwedd broffesiynol, ei dibynadwyedd a’i natur weithgar eu cydnabod gan y cyflogwyr y bu’n gweithio gyda nhw, gan dynnu sylw pellach at ei haddasrwydd ar gyfer gyrfa mewn amgylchedd strwythuredig a disgybledig.

Mae penderfyniad tawel Mia, ei haeddfedrwydd, a’i pharodrwydd i gefnogi eraill yn gwneud iddi sefyll allan. Gyda’i hymdeimlad cryf o bwrpas a’i hymrwymiad i ddatblygiad personol nid yw’n syndod i weld Mia yn symud ymlaen a dilyn ei huchelgais i ddod yn swyddog meddygol gyda’r Llynges Frenhinol.” Kevin Williams, Tiwtor

Tra roedd yn y coleg, enwebwyd Mia ar gyfer gwobr Cyflawni Rhagoriaeth ac enillodd hi, gan gynrychioli ei meysydd astudio sef busnes a gwasanaethau cyhoeddus.

Meddai Mia Bradley: “Roedd astudio busnes yng Ngholeg Ceredigion yn brofiad gwirioneddol gadarnhaol a gwerth chweil i mi. 

“Roedd y staff yn gyfeillgar, cefnogol a hawdd mynd atynt ac nid oedd unrhyw beth fyth yn teimlo’n ormod o drafferth; roedden nhw bob amser yn barod i helpu ac yn wirioneddol awyddus i fyfyrwyr lwyddo.

“Un o uchafbwyntiau’r cwrs oedd mynd i Farcelona am bythefnos gyda myfyrwyr gwasanaethau cyhoeddus lle gwnaethon ni ennill profiad gwerthfawr a mewnwelediad trwy weithio ochr yn ochr ag eraill a gweld sut roedd busnesau a gwasanaethau brys lleol yn gweithredu. 

“Fe wnaeth yr amser a dreuliais i yn y coleg roi’r hyder i mi ddilyn fy ngyrfa fel swyddog meddygol yn y Llynges Frenhinol, hyfforddiant yr wyf wedi’i gwblhau yn ddiweddar.

“Byddwn i’n argymell yn gryf cyrsiau busnes neu wasanaethau cyhoeddus lefel tri Coleg Ceredigion gan eu bod yn gam ardderchog ac ymarferol tuag at  unrhyw yrfa yn y dyfodol, ac yn eich paratoi yn dda gyda’r sgiliau sydd eu hangen mewn unrhyw broffesiwn.”

Ychwanegodd tiwtor Coleg Ceredigion Kevin Williams: “Mae penderfyniad tawel Mia, ei haeddfedrwydd, a’i pharodrwydd i gefnogi eraill yn gwneud iddi sefyll allan. Gyda’i hymdeimlad cryf o bwrpas a’i hymrwymiad i ddatblygiad personol nid yw’n syndod i weld Mia yn symud ymlaen a dilyn ei huchelgais i ddod yn swyddog meddygol gyda’r Llynges Frenhinol.”

Rhannwch yr eitem newyddion hon