Skip page header and navigation
grŵp o fyfyrwyr yn ymarfer gwaith coed safle mewn gweithdy

Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn falch o gyhoeddi lansiad prentisiaethau sylfaen lefel dau newydd mewn gwaith saer a gosod brics, yn dechrau o fis Medi 2026. 

Mae’r prentisiaethau newydd hyn, a fydd ar gael ar gampysau Rhydaman ac Aberteifi, yn cynnig cyfleoedd cyffrous i gyflogwyr a phrentisiaid uchelgeisiol gael mynediad at hyfforddiant o ansawdd uchel mewn dwy grefft adeiladu hanfodol. 

Beth yw hyd y rhaglenni?

Mae’r ddwy raglen yn para 24 mis ac yn cyfuno dysgu ymarferol yn y gweithle â hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith i ddatblygu cymhwysedd galwedigaethol, gwybodaeth dechnegol a sgiliau sy’n barod ar gyfer y diwydiant.

Pwy yw’r corff achredu?

Wedi’u datblygu yn unol â chymwysterau newydd City & Guilds ar gyfer Cymru, mae’r prentisiaethau hyn yn adlewyrchu anghenion datblygol y sector adeiladu ac yn darparu llwybrau mynediad pwrpasol i grefftau medrus. 

Bydd prentisiaid yn datblygu sgiliau ymarferol craidd, arferion gweithio diogel a’r sylfeini sydd eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus ym maes adeiladu.

Beth yw’r newidiadau allweddol?

Fel rhan o’r gwaith o gyflwyno’r llwybrau newydd hyn, ym mis Medi, bydd y rhaglenni prentisiaeth gwaith saer a gosod brics lefel tri presennol yn cael eu disodli gan y rhaglenni lefel dau hyn er mwyn helpu mwy o bobl i gael mynediad at lwybrau hyfforddi. 

A bydd dal modd i mi symud ymlaen i lefel tri?

Disgwylir i lwybrau lefel tri ddychwelyd yn 2027, er mwyn cefnogi cyfleoedd dilyniant yn y dyfodol.

Meddai Gareth David, pennaeth prentisiaethau yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion: “Mae ailgyflwyno darpariaeth lefel dau yn newyddion cadarnhaol i’r sector, gan helpu cyflogwyr i feithrin talent ar ddechrau’r daith brentisiaeth a chefnogi ymgeiswyr newydd i gychwyn gyrfaoedd ym maes adeiladu.

“Mae’r prentisiaethau newydd hyn wedi’u cynllunio i gefnogi cyflogwyr gyda’r gwaith o recriwtio a datblygu prentisiaid sydd â’r sgiliau, yr wybodaeth a’r ymddygiadau sydd eu hangen yn y diwydiant. 

“Mae gan Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion hanes cryf o ddarparu prentisiaethau, gan gefnogi dysgwyr i symud ymlaen a rhagori, gan gynnwys llwyddiant yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru a WorldSkills UK.”

Mae cyflogwyr yn elwa o gael mynediad at ddarparwr prentisiaethau gwobrwyedig, cefnogaeth bersonol gan gynghorwyr hyfforddi ymroddedig, a darpariaeth o ansawdd uchel sy’n cael ei llywio gan arferion y diwydiant.

A student working with bricks with the competition in the background

Cwestiynau Cyffredin

Ar gyfer pwy mae’r rhaglenni?

Fe’u cynlluniwyd ar gyfer unigolion 16 oed neu’n hŷn, sy’n cael eu cyflogi mewn rôl berthnasol ac sy’n awyddus i ddechrau gyrfa mewn gwaith saer neu osod brics trwy brentisiaeth.

Beth sydd wedi digwydd i’r llwybrau lefel 3 presennol?

Ar gyfer dysgwyr sy’n cychwyn yn 2026, bydd y prentisiaethau gwaith saer a gosod brics lefel tri presennol yn cael eu disodli gan y llwybrau lefel dau newydd hyn. Disgwylir i raglenni lefel tri ddychwelyd yn 2027.

Pam mae lefel 2 wedi cael ei ailgyflwyno?

Mae ailgyflwyno’r rhaglen lefel dau yn darparu llwybr mynediad pwysig i’r crefftau, gan helpu cyflogwyr i ddatblygu talent o’r gwaelod i fyny a chefnogi dilyniant i’r sector. Mae’n rhoi mwy o hyblygrwydd i’r rheini sy’n awyddus i ymuno â diwydiannau gwaith saer a gosod brics.

Oes modd i gyflogwyr recriwtio prentisiaid ar gyfer y rhaglenni hyn?

Oes. Gall cyflogwyr recriwtio prentisiaid newydd neu gefnogi staff presennol i ddatblygu drwy’r rhaglen.

Sut ydw i’n cael gwybod mwy?

I drafod prentisiaethau, recriwtio prentisiaid neu’r broses ymgeisio, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau o gwbl, cysylltwch ag apprenticeships@colegsirgar.ac.uk.

 

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau