Skip page header and navigation
Darth Vader looking at the camera holding a light saber

“Rydych chi’n dysgu cymaint ar y cwrs hwn, o gyllid i’r gyfraith, does byth diwrnod diflas. Mae eu cyrsiau’n bwysig iawn i’r athrawon ac maen nhw bob amser yn dod o hyd i ffordd greadigol i gyflwyno eu gwersi, gan ei wneud yn hwyl ac yn ddefnyddiol. Maen nhw’n dîm da.” Myfyriwr Lefel Dau, Riley Morris.

Mae myfyrwyr busnes yng Ngholeg Sir Gâr wedi codi bron £400 ar gyfer elusen Mind, gyda digwyddiad a welodd Darth Vader a stormfilwyr yn gwneud ymddangosiad arbennig. 

Fe wnaeth y myfyrwyr gynllunio a threfnu’r digwyddiad codi arian ar gampws y coleg yn y Graig, a gwahodd cwmnïau i hyrwyddo eu busnesau a gwerthu eu cynnyrch.

A teacher and a student with the sign 'human slot machine'

Fel rhan o’u cwrs, maen nhw’n astudio modiwl o’r enw rhedeg digwyddiad busnes, felly daethant â hyn yn fyw gyda digwyddiad y gwnaeth elusen elwa ohono.

Myfyrwyr lefel tri wnaeth redeg y digwyddiad gyda chefnogaeth myfyrwyr lefel dau. Aethant ati i greu peiriant ceiniogau allan o gardbord ar gyfer y digwyddiad ynghyd â gemau a gwobrau er mwyn annog rhoddion.

Meddai myfyriwr busnes Leon Marsh, sy’n astudio ar lefel dau: “Gwnes i fwynhau trefnu’r digwyddiad yn fawr iawn, roedd yn hwyl ac yn anffurfiol ac yn ffordd ymarferol i ddysgu.

“Rwyf wedi penderfynu symud ymlaen i lefel tri gan fod y cwrs hwn wedi fy mharatoi yn dda i’w astudio.

“Mae’r cwrs yn syfrdanol a penderfynais i astudio busnes gan ei fod yn cwmpasu ystod eang o yrfaoedd megis marchnata.” 

Meddai Cai Williams, sy’n fyfyriwr lefel tri: “Trefnon ni amrywiaeth o stondinau ac fe gynigion ni gacennau sy’n cael eu gwerthu gan Bopty a Deli Bloom sydd wedi’i leoli yng Ngŵyr. 

“Penderfynon ni godi arian ar gyfer elusen Mind gan ein bod ni i gyd yn gweld pa mor bwysig yw iechyd meddwl. 

“Yn ogystal â’r theori, rwy’n mwynhau’r gweithgareddau ar y cwrs hwn gan eu bod yn ymarferol, a po fwyaf y byddaf yn profi rhywbeth, mwyaf bydda i’n dysgu.

“Ar hyn o bryd rydyn ni’n dysgu am recriwtio a dewis ac fe fyddwn ni’n cymryd rhan mewn cyfweliadau a phaneli cyfweld er mwyn cael profiad o’r naill ochr a’r llall. 

“Hefyd byddwn ni’n cyflwyno syniad busnes i fanc HSBC sydd eto’n rhoi’r sgiliau rydyn ni’n dysgu ar waith.”

A lady from the baking company and her produce
Two people from Mind Llanelli sitting on a table with branded stands

Ychwanegodd y myfyriwr lefel dau Riley Morris: “Rydych chi’n dysgu cymaint ar y cwrs hwn, o gyllid i’r gyfraith, does byth diwrnod diflas.

“Mae eu cyrsiau’n bwysig iawn i’r athrawon ac maen nhw bob amser yn dod o hyd i ffordd greadigol i gyflwyno eu gwersi, gan ei wneud yn hwyl ac yn ddefnyddiol. Maen nhw’n dîm da.”

Cododd y myfyrwyr gyfanswm o £380 drwy roddion ar-lein a rhoddion arian parod gyda Mind yn gofyn iddyn nhw roi help llaw yn eu ras hwyl elusennol a diwrnod teuluol â thema’r 80au.”

Darth Vader and a few stormtroopers having a chat

Rhannwch yr eitem newyddion hon