Dewch i gwrdd â rhai o'r mentoriaid sy’n gyfrifol am ddatblygu enillwyr ein cystadleuaeth sgiliau
“Mae rhai dysgwyr a oedd yn dawel yn y dosbarth yn dod yn arweinwyr yn y gweithdy. Nid yn eu sgiliau yn unig y mae’r trawsnewidiad ond yn eu hagwedd, eu proffesiynoldeb a’u hunangred hefyd.” Rhodri Morris, Darlithydd mewn Gwaith Saer.
Mae cystadlaethau sgiliau wedi bod yn rhan flaenllaw o ran datblygu sgiliau galwedigaethol yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion ers nifer o flynyddoedd.
Yn naturiol, rydyn ni’n dathlu llwyddiant myfyrwyr o ganlyniad i’r cystadlaethau hyn, ond mae’r un mor bwysig cydnabod y gefnogaeth y mae staff yn ei chynnig o’i gwirfodd y tu ôl i’r llenni.
Yng ngeiriau’r darlithydd coginio a lletygarwch proffesiynol, Huw Morgan, sydd wedi helpu i ddatblygu myfyrwyr i gyrraedd safonau cystadlaethau rhyngwladol: “Y gwaith caled, y ddisgyblaeth a’r ymrwymiad emosiynol sydd ynghlwm â chynhyrchu perfformiad sy’n ennill medal - nid yw pobl yn gweld hynny.”
Meddai’r darlithydd peirianneg Karl Hilton: “Os nad ydych chi’n rhoi o’ch gorau, nid ydych chi’n rhoi digon. Yr hyn sy’n bwysig i fi yw bod myfyrwyr yn mwynhau’r profiad o gystadlu heb unrhyw bwysau i ennill medal, a’u bod nhw’n dal i ddod yn ôl yn gryfach gyda mwy o aeddfedrwydd.”
Dewch i gwrdd â rhai o’r mentoriaid myfyrwyr sy’n gweithio y tu ôl i’r llenni.
-
Yr hyn a’m denodd at gystadlaethau Sgiliau yn y lle cyntaf oedd gweld pa mor bwerus ydyn nhw mewn gwthio dysgwyr y tu hwnt i’r hyn maen nhw’n credu eu bod nhw’n gallu ei gyflawni. Rwy’n berson gystadleuol o ran natur, ac rwy’n credu’n gryf bod cystadlu yn meithrin gwytnwch. Os ydych chi eisiau rhywbeth rhaid i chi fod yn barod i gystadlu amdano, cyfweliad, swydd newydd, cystadleuaeth. Yn yr ystafell ddosbarth, gallwch chi ddysgu gwybodaeth a gallwch chi ddatblygu gallu, ond mae cystadlaethau sgiliau yn camu i lefel hollol wahanol - maen nhw’n creu pwysau go iawn, safonau go iawn, a phroffesiynoldeb go iawn.
Mae cefnogi cystadleuwyr sgiliau hefyd yn rhoi’r cyfle i mi addysgu agweddau ar fy mhwnc nad ydyn nhw bob amser wedi’u cynnwys yn y cwricwlwm ar gyfer ein diwydiant.
Y gwahaniaeth gyda chystadlaethau sgiliau yw nad cwblhau tasgau’n unig mae’r dysgwyr yn ei wneud - maen nhw’n anelu at ragoriaeth. Dyma lle rwy’n gweld dysgwyr yn mynd o fod yn fyfyrwyr i fod yn weithwyr proffesiynol.
Allwch chi ddisgrifio enghraifft o’r math o drawsnewidiadau rydych chi wedi’u gweld mewn myfyrwyr cyn ac ar ôl eu taith sgiliau?
Un o’r trawsnewidiadau mwyaf rwy’n eu gweld yn rheolaidd yw o ran hyder a gwytnwch. Mae llawer o ddysgwyr yn dechrau eu taith yn ansicr ohonyn nhw eu hunain, yn nerfus ynghylch pwysau, ac yn aml yn amau a ydyn nhw’n perthyn ar y lefel gystadlu o gwbl. Ar ôl cwblhau’r daith Sgiliau, maen nhw’n dod yn bobl hollol wahanol.
Mae eu safonau’n codi, mae eu hosgo yn newid, mae eu sgiliau cyfathrebu’n gwella, ac maen nhw’n dechrau dal eu hunain fel gweithwyr proffesiynol. Maen nhw’n dod yn fwy disgybledig, yn fwy trefnus, ac yn llawer mwy ymwybodol ohonyn nhw eu hunain.
Nid eu sgiliau yn unig sy’n gwella, ond eu hunaniaeth. Maen nhw’n dechrau credu bod ganddyn nhw’r gallu i fod y gorau, ac mae’r meddylfryd hwnnw’n aros gyda nhw ymhell ar ôl i’r gystadleuaeth ddod i ben. Mae ein Bwyty Hyfforddi yn y coleg, Bwyty Maes y Parc, hefyd wedi gweld y newidiadau. Yn aml, bydd ein cwsmeriaid rheolaidd yn dweud wrthym eu bod nhw mor falch o’n myfyrwyr gan eu bod nhw wedi’u gweld nhw’n tyfu o unigolion swil a thawel, i weithwyr proffesiynol yn y diwydiant. Mae hyn yn wir nid yn unig am gystadleuwyr yn y cystadlaethau sgiliau, ond hefyd am bob myfyriwr sy’n ymwneud â lletygarwch ac arlwyo. Y gwaith rydyn ni’n ei feithrin yn naturiol o fewn y cwricwlwm sy’n ymgorffori safonau cystadlaethau sgiliau.
Beth yw’r foment yr ydych chi fwyaf balch ohoni? Pa un ai oedd yn cynnwys medal ai peidio.
Wrth gwrs, mae medalau’n wych ac rwy’n hynod falch o’r hyn y mae ein dysgwyr wedi’i gyflawni, ond mae’r eiliadau rydw i fwyaf balch ohonynt yn aml yn digwydd y tu hwnt i’r seremonïau medalau. Un eiliad sy’n sefyll allan i mi yw gweld dysgwr nad oedd wedi cael yr amser gorau yn yr ysgol, yn brin o hyder - yn ennill profiad a gwytnwch yn araf bach nes eu bod yn gallu cystadlu mewn amgylchedd pwysau uchel a pherfformio fel petai nhw’n perthyn yno, gan aros yn ddigynnwrf, cadw ffocws, a phrofi iddyn nhw eu hunain eu bod yn gallu ei wneud.
Mae gwylio’r eiliad hwnnw o sylweddoli yn digwydd mewn amser real yn amhrisiadwy. Weithiau mae’r eiliadau rydw i fwyaf balch ohonynt yn digwydd pan nad yw dysgwr yn ennill, ond maen nhw’n dal i gerdded i ffwrdd gan ddal eu pen yn uchel oherwydd eu bod nhw’n gwybod eu bod nhw wedi rhoi’r cyfan.
“Mae’r lefel honno o dwf a gwytnwch yn rhywbeth na ellir ei fesur gyda medal, ond mae’n newid bywyd iddyn nhw. Yn bwysicaf oll, maen nhw eisiau ei wneud eto.”
Beth yw realiti’r gwaith sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni?
Y gwir amdani yw bod medalau’n cael eu hennill ymhell cyn diwrnod y gystadleuaeth. Mae pobl yn gweld y perfformiad terfynol, ond nid ydynt yn gweld yr wythnosau a’r misoedd o ailadrodd, hyfforddi dan bwysau, a’r aberth sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni.
I ni, mae’n aml yn golygu hyfforddi y tu allan i oriau addysgu arferol - boreau cynnar, nosweithiau, a sesiynau hir lle rydyn ni’n ailadrodd yr un dasg dro ar ôl tro nes ei bod yn dod yn ail natur. Mae’n golygu myfyrio’n gyson, dadansoddi amseriadau a dadelfennu pob manylyn, ac ailsiapio arferion nes eu bod yn berffaith.
Defnyddiwch eich rhwydwaith o weithwyr proffesiynol i helpu. Mae yna bob amser rywun a all gynnig cyngor. Mae bod yn rhan o gystadlaethau sgiliau yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy, i ganiatáu i chi helpu eraill ar y daith. Nid yw’n ymwneud â sgiliau a gwybodaeth pwnc yn unig, mae’n ymwneud â datblygu perfformiad, hyder a thynnu sylw at sgiliau’r cystadleuydd mewn unrhyw faes. Byddwch yn dod yn anogwr perfformiad, yn hyfforddwr ac yn fentor.
Mae hefyd yn golygu anawsterau. Bydd dysgwyr yn cael adegau pan mae pethau’n mynd o chwith, lle mae hyder yn edwino, neu lle maen nhw’n teimlo nad ydyn nhw’n gwella’n ddigon cyflym. Ond rydyn ni’n dyfalbarhau, yn parhau i wthio, ac yn parhau i godi safonau. Dyna’r hyn nad yw pobl yn ei weld — y gwaith caled, y ddisgyblaeth, a’r ymrwymiad emosiynol sydd ei angen i gynhyrchu perfformiad sy’n ennill medalau.
Beth ydych chi’n ei ddweud wrth rywun sy’n amau ei hun?
Rwy’n eu hatgoffa bod amheuon yn normal, a bod yr holl berfformwyr gorau yn cael adegau fel hyn. Rwyf bob amser yn dweud wrthyn nhw nad ydyn nhw’n methu - maen nhw’n dysgu dan bwysau, a dyna’n union lle mae twf a gwytnwch yn digwydd.
Rwy’n dweud wrthyn nhw am beidio meddwl am y dasg gyfan, ond yn hytrach canolbwyntio ar y cam nesaf. Un dasg, un ymarfer, un gwelliant ar y tro. Rwyf hefyd yn eu hatgoffa pa mor bell maen nhw eisoes wedi dod, oherwydd mae pobl yn anghofio am eu cynnydd pan maen nhw’n cynhyrfu.
Yn bwysicaf oll, rwy’n dweud wrthyn nhw: rydych chi wedi ennill eich lle yma. Does neb yn cyrraedd y lefel hon ar hap a damwain. Rwy’n eu sicrhau fy mod i’n credu ynddyn nhw, ond hefyd bod yn rhaid iddyn nhw ddysgu credu ynddyn nhw eu hunain - oherwydd mae hyder yn cael ei feithrin trwy wneud pethau anodd dro ar ôl tro nes i chi sylweddoli y gallwch chi ymdopi ag ef. Rwy’n dweud wrthyn nhw mai nad pryder yw’r nerfau maen nhw’n eu teimlo, na’r stumog yn corddi - mae’n dangos ei fod yn bwysig i chi, eich bod chi eisiau gwneud yn dda.
Ac rwyf bob amser yn gorffen gyda’r un neges: mae pwysau yn fraint - mae’n golygu eich bod chi’n gwneud rhywbeth sy’n bwysig.
-
Mae fy mrwdfrydedd dros gystadlaethau sgiliau yn dod o fy mhrofiad fy hun fel myfyriwr, gan gynrychioli fy ngholeg mewn cystadlaethau.
Rwy’n gwybod o brofiad personol am yr hyder, y balchder a’r cyfleoedd a greodd i mi, ac roeddwn i eisiau rhoi’r un profiad i’r dysgwyr rwy’n eu haddysgu nawr.
Mae cystadlaethau sgiliau yn caniatáu i mi wthio dysgwyr y tu hwnt i’r cymhwyster. Yn yr ystafell ddosbarth rydyn ni’n addysgu cymhwysedd, ond mewn cystadlaethau rydyn ni’n datblygu rhagoriaeth. Mae dysgwyr yn cael eu herio i weithio dan bwysau, dehongli lluniadau cymhleth, rheoli amser, datrys problemau’n annibynnol a mireinio eu crefftwaith i’r safon uchaf.
Fel darlithydd, mae’n hynod werth chweil gweld dysgwyr yn sylweddoli’r hyn y maen nhw’n gallu ei gyflawni mewn gwirionedd pan gânt eu hymestyn a’u cefnogi.
A allwch chi ddisgrifio rhai enghreifftiau o’r math o drawsnewidiadau rydych chi wedi’u gweld mewn myfyrwyr cyn ac ar ôl eu taith sgiliau?
Rwyf wedi gweld dysgwyr yn dechrau ar eu taith sgiliau yn ddihyder, heb gredu llawer yn eu gallu, a meddylfryd ‘jest cwblhau’r cymhwyster’.Erbyn y diwedd, mae’r un dysgwyr hynny’n hyderus, yn frwdfrydig, yn wydn ac yn falch o’u crefft. Mae rhai dysgwyr a oedd yn dawel yn y dosbarth yn dod yn arweinwyr yn y gweithdy. Mae eraill a gafodd drafferth gyda phwysau cystadlu yn dysgu sut i aros yn ddigynnwrf, clirio’r meddwl a gwthio ymlaen. Mae llawer o fyfyrwyr yn dod yn awyddus i ddysgu y tu hwnt i’r maes llafur, gan ofyn cwestiynau dyfnach ac eisiau gwella pob manylyn o’u gwaith. Nid yn eu sgiliau yn unig y mae’r trawsnewidiad, ond yn eu hagwedd, eu proffesiynoldeb a’u hunangred.
Beth yw’r foment yr ydych chi fwyaf balch ohoni? Pa un ai oedd yn cynnwys medal ai peidio.
Er bod ennill dwy fedal aur yn 2022 am waith asiedydd a gwaith saer yn rownd derfynol y DU yn gamp anhygoel, fy eiliadau mwyaf balch yw gweld dysgwyr yn tyfu fel pobl. Mae gwylio dysgwr yn goresgyn hunanamheuaeth, yn dal ati ar ôl camgymeriad, neu’n gorffen cystadleuaeth gan wybod eu bod wedi rhoi eu gorau glas yn bwysicach nag unrhyw fedal. Mae gweld dysgwyr yn symud ymlaen yn hyderus i gyflogaeth, wedi’u cefnogi gan gwmnïau lleol sy’n eu noddi gydag offer a thalebau, yn dangos bod yr effaith yn mynd ymhell y tu hwnt i’r gystadleuaeth. Mae’n profi gwerth gwaith tîm rhwng y coleg, cyflogwyr a dysgwyr.
Beth yw realiti’r gwaith sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni?
Y tu ôl i bob medal mae oriau di-rif o hyfforddiant. Mae hyn yn cynnwys darllen a dehongli cynlluniau, ailadrodd prosesau nes eu bod wedi’u meistroli, datrys problemau, rheoli amser, a dysgu sut i weithio dan bwysau. Yn aml, mae dysgwyr yn ailwneud elfennau sawl gwaith er mwyn gwella cywirdeb. Rydyn ni’n dadansoddi camgymeriadau, yn addasu technegau, ac yn rhoi cynnig arall arni. Rydyn ni’n canolbwyntio’n fawr ar feddwl beirniadol, rheoli straen a rheoli amser. Nid yw’n anarferol i ddysgwyr aros yn hwyr, cyrraedd yn gynnar, a gwthio eu hunain ymhell y tu hwnt i ddisgwyliadau arferol. Yr ymroddiad hwn sy’n creu’r canlyniadau a’r twf personol hefyd.
Beth ydych chi’n ei ddweud wrth rywun sy’n amau ei hun?
Rwy’n eu hatgoffa bod y teimlad hwn yn normal. Rydyn ni’n siarad am y ffaith fod pawb yn cael o leiaf un diwrnod gwael yn ystod cystadleuaeth tridiau. Yr hyn sy’n bwysig yw sut rydych chi’n ymateb iddo. Rydyn ni’n dadansoddi’r hyn a aeth o’i le, yn nodi’r hyn y gellir ei reoli, ac yn canolbwyntio ar y dasg nesaf. Rwy’n eu hannog i ymddiried yn eu hyfforddiant, ailosod yn feddyliol, a symud ymlaen. Rwy’n eu hatgoffa bod y gystadleuaeth yn ymwneud â dysgu, twf a gwytnwch, nid perffeithrwydd. Yn bwysicaf oll, rwy’n eu helpu i gofio pam y gwnaethon nhw ddechrau a pha mor bell maen nhw eisoes wedi dod.
-
Dydw i ddim yn defnyddio’r term ‘cystadleuaeth’ gyda fy myfyrwyr, mae’n well gen i ddefnyddio ‘cyfle hyfforddi’ er mwyn helpu i annog pobl i gymryd rhan oherwydd yn y bôn, mae’n faes hyfforddi rhagorol i fireinio sgiliau proffesiynol a’r sgiliau hynny y mae’r diwydiant yn chwilio amdanynt.
Rydw i wedi bod yn mentora cystadleuwyr sgiliau ers tua wyth neu naw mlynedd bellach yn ystod fy 17 mlynedd yn y coleg.
Rwyf bob amser yn annog fy myfyrwyr i ymdrechu i wneud eu gorau glas oherwydd os nad ydych chi’n rhoi o’ch gorau, nid ydych chi wir yn rhoi digon.
Mae mwy i gystadlaethau na’r hyn yr ydych chi’n ei ddisgwyl, maen nhw hefyd yn nodi meysydd lle mae angen i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau, gweithio ychydig yn fwy ar wella rhai sgiliau - mae hyn yn golygu dilyniant a chyfle i ddatblygu.
Sut mae cystadlaethau’n helpu myfyrwyr?
Rydw i’n teimlo bod pobl yn defnyddio eu sgiliau datrys problemau yn well mewn sefyllfaoedd lle maen nhw dan ychydig o bwysau, mae’n rhaid i chi ddod o hyd i ffordd o wneud hynny’n rhesymegol a heb gynhyrfu, mae’n rhan o feddwl yn rhesymegol sy’n hanfodol mewn peirianneg.
Mae hefyd yn dysgu sgiliau cyfathrebu oherwydd os yw cystadleuydd yn cael trafferth gyda rhywbeth, gall ofyn am help er mwyn symud ymlaen. Fyddan nhw ddim yn ennill marciau am y rhan honno ond byddan nhw’n dysgu sut i fynd i’r afael â’r broblem.
Mae’r cystadlaethau wedi datblygu hyd yn oed yn fwy ers i mi ddechrau arni ac rydyn ni bellach wedi symud i CAD a gweithgynhyrchu haen-ar-haen lle rydyn ni nid yn unig yn dylunio a modelu ond yn argraffu’r hyn rydyn ni’n ei ddylunio ar beiriant argraffu 3D.
Rydw i hefyd yn dysgu sgiliau sut i beidio â chynhyrfu gan fod teimlo dan straen yn arwain at wneud camgymeriadau oherwydd nad ydych yn meddwl yn glir.
Cystadlaethau ar ba lefel ydych chi wedi bod yn rhan ohonynt?
Cystadlaethau Cymru a’r DU sy’n cynnwys ein dysgwyr addysg bellach llawn amser a’n dysgwyr HNC lefel uwch. Yn fwy diweddar, mae myfyrwyr wedi ennill gwobrau efydd ac aur yn rowndiau rhagbrofol Cymru gan gynnwys ym maes awtomeiddio.
Rydw i’n annog ein holl ddysgwyr i fod â thân yn ei boliau o ran y llwybr sgiliau ac eleni rydym wedi annog bron i 50 o fyfyrwyr i gofrestru a dechrau ar eu taith gystadlu ac rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at weld ble bydd hyn yn ein harwain.
Fe wnaethon ni hefyd gynnal Her Tîm Gweithgynhyrchu yn ein cyfleuster hyfforddi peirianneg a ddaeth â myfyrwyr ynghyd i weithio ym maes weldio, electroneg ddiwydiannol a gwaith metel i gynhyrchu cart llusgo.
Nid fi yn unig sy’n gyfrifol am gynnydd a llwyddiant dysgwyr, mae gennym dîm cyfan o beirianwyr yn hybu eu datblygiad.
Sut ydych chi’n datblygu sgiliau myfyrwyr?
Rydw i’n ceisio mynd ati i wneud pethau sy’n helpu i wella datblygiad a phrofiad myfyrwyr. Rwy’n teimlo’n frwd iawn dros eu llwyddiant ac i mi maen nhw’n cael hynny o gael profiad o’r hyn y gall cystadlaethau ei gynnig.
Rydyn ni’n cynnig CAD am ddim i fyfyrwyr ymarfer gartref hefyd ac maen nhw’n cael defnyddio ystafelloedd dosbarth ac offer yn ystod cyfnodau rhydd. Mae gliniaduron hefyd yn cael eu rhoi i’r rheini heb gyfrifiaduron personol.
Rydyn ni hefyd yn manteisio ar gyfleoedd wrth iddynt godi, fel hyfforddiant CNC am ddim ym Mhrifysgol Abertawe.
Yr hyn sy’n bwysig i fi yw bod myfyrwyr yn mwynhau’r profiad heb unrhyw bwysau i ennill medal. Mae paratoi a chymryd rhan yn eu helpu i ddychwelyd yn llawer cryfach ac rydych yn gallu gweld cymaint y maen nhw’n newid ac yn ei ddysgu.
Oes angen llawer o ymrwymiad y tu allan i oriau gwaith y coleg?
Oes, yn sicr. Rydyn ni wedi teithio i bob man ar gyfer gwaith hyfforddi a chystadlu gan gynnwys yr Alban, Doncaster, Gorllewin Cymru, Swydd Gaer a Manceinion.
Fe wnaethon ni hyfforddi ym Mhrifysgol Doncaster yn ystod hanner tymor ar un achlysur ac rydw i’n hoffi teithio gyda’r myfyrwyr gan fy mod i’n mwynhau bod yn rhan o’u taith ac mae’n lleddfu ychydig ar y straen y maen nhw’n ei deimlo.
Mae’r mecanwaith cefnogi hwn yn bwysig; mae gorfod teithio ar eu pennau eu hunain heb unrhyw gefnogaeth yn rhywbeth na fyddwn i eisiau i unrhyw un ei brofi, mae eu lles yn bwysig iawn i ni.
Mae sawl noson hwyr a digwyddiadau sy’n ymwneud â’r cystadlaethau i’w mynychu, felly mae’n rhaid i chi fod yn frwd a chredu yn yr hyn rydych chi’n ei wneud fel mentor.
-
Ar ôl cystadlu fy hun ers blynyddoedd lawer, mae cystadlaethau sgiliau wedi chwarae rhan fawr o ran ffurfio fy safonau a’m meddylfryd. Rydw i’n gwybod o brofiad uniongyrchol pa mor drawsnewidiol y gall y daith honno fod. Mae ymgymryd â’r gwaith o gefnogi myfyrwyr sydd eisiau cystadlu yn teimlo fel fy mod i’n rhoi yn ôl i rywbeth a roddodd gymaint i mi.
Yr hyn rydw i’n ei gael o fod yn rhan o’r holl beth yw’r angerdd a’r twf personol. Yn yr ystafell ddosbarth, rydych chi’n addysgu grŵp o bobl. Gyda chystadlaethau sgiliau, rydych chi’n hyfforddi unigolyn. Rydych chi’n gweithio ar feddylfryd, gwytnwch, disgyblaeth, a hunan-gred ochr yn ochr â gallu technegol. Mae’n ymwneud â chodi safonau y tu hwnt i “bas” neu “deilyngdod” - mae’n ymwneud â rhagoriaeth. Mae gwylio myfyriwr yn sylweddoli eu bod nhw’n gallu gwneud mwy nag yr oedden nhw’n meddwl oedd yn bosibl yn rhoi boddhad mawr i mi.
Allwch chi ddisgrifio enghraifft o’r math o drawsnewidiadau rydych chi wedi’u gweld mewn myfyrwyr cyn ac ar ôl eu taith sgiliau?
Rydw i wedi gweld myfyrwyr yn cyrraedd heb fawr dim hyder — weithiau’n dechnegol alluog, ond yn ansicr ohonyn nhw eu hunain ac yn betrusgar o dan bwysau. Drwy hyfforddiant strwythuredig, ailadrodd ac adborth gonest, maen nhw’n dechrau ymddwyn yn wahanol.
Erbyn diwedd eu taith, maen nhw’n dawelach eu meddwl, yn mynegi ei hunain yn well, ac yn llawer mwy ymwybodol ohonyn nhw eu hunain. Mae min ar eu sylw i fanylion, mae eu rheolaeth amser yn gwella, ac maen nhw’n dechrau meddwl fel gweithwyr proffesiynol.
Beth yw’r foment yr ydych chi fwyaf balch ohoni? Pa un ai oedd yn cynnwys medal ai peidio.
Wrth gwrs, mae medalau yn wych — ond nid yw rhai o’r eiliadau rydw i fwyaf balch ohonynt yn cynnwys medalau o gwbl. Un o’r pethau mwyaf gwerth chweil yw gweld myfyriwr yn ymdopi â phwysau heb gynhyrfu ar ddiwrnod y gystadleuaeth, waeth beth fo’r canlyniad.
Pan fydd myfyriwr yn gorffen, yn sefyll yn dalsyth, ac yn gwybod ei fod wedi rhoi o’i orau, dyna beth yw llwyddiant. Mae eu gwylio nhw’n ysgwyd llaw beirniaid yn hyderus a gydag aeddfedrwydd yn aml yn fwy pwerus na’r fedal ei hun. Mae twf yn drech na thlysau.
Beth sydd angen ei wneud er mwyn paratoi ar gyfer cystadleuaeth?
Mae paratoi yn mynd ymhell y tu hwnt i ddiwrnod y gystadleuaeth. Mae’n golygu boreau cynnar cyn coleg, nosweithiau hwyr yn gwella un garnais dro ar ôl tro, penwythnosau’n cynnal ymarferion llawn wedi’u hamseru, a gwerthuso cyson.
Mae’n cynnwys ailysgrifennu bwydlenni, cyfrifo costau seigiau, mireinio sgiliau defnyddio cyllell, ac weithiau ailfeddwl pryd o fwyd a dechrau o’r dechrau. Dyna sut mae gwytnwch yn cael ei feithrin. Pwysau dan reolaeth, ailadrodd, a gwelliannau bach bob sesiwn sy’n arwain at ganlyniadau mawr.
Beth ydych chi’n ei ddweud wrth rywun sy’n amau ei hun?
Rwy’n eu hatgoffa bod nerfau’n golygu bod ots ganddyn nhw - ac mae hynny’n gryfder. Mae amheuaeth yn normal, yn enwedig pan fo safonau’n uchel.
Rydw i’n aml yn dweud, “Rydych chi’n fwy parod nag yr ydych chi’n feddwl”. Rydyn ni’n canolbwyntio ar y pethau y gallwn eu rheoli — y paratoi, yr amseru, eu meddylfryd. Rwy’n eu hannog i ymddiried yn eu hyfforddiant a chofio pa mor bell maen nhw eisoes wedi dod. Nid yw un rhediad gwael yn eu diffinio. Daw twf drwy wthio trwy’r anawsterau hynny, nid drwy eu hosgoi.
-
Mae’r cystadlaethau sgiliau yn cynnig gwefr a chyffro nad ydych chi’n eu cael yn eich waith bob dydd. Mae’n caniatáu i’r dysgwyr hynny sydd eisiau rhagori a gwthio eu hunain i safon llawer uwch, allu gweithio tuag at friff a dangos eu hymrwymiad a’u hangerdd dros y diwydiant a’u taith addysgol a’u datblygiad gyrfa.
A allwch chi ddisgrifio enghraifft o’r math o drawsnewidiadau rydych chi wedi’u gweld mewn myfyrwyr cyn ac ar ôl eu taith sgiliau?
Mae pob un o’n cyn-gystadleuwyr yn anelu am ragoriaeth a hyd yn oed os nad ydyn nhw wedi ennill medal, maen nhw i gyd eisiau cystadlu eto a pharhau i frwydro am y wobr aur, arian, efydd neu ganmoliaeth uchel. Rwy’n mwynhau gweld y trawsnewidiad hwn, yr awydd cystadleuol i roi cynnig arall arni a dal ati i drio eto. Maent yn croesawu adborth y beirniaid ac yn gwrando ar bob argymhelliad er mwyn gwella ar gyfer eu cystadleuaeth nesaf.
Beth yw’r foment yr ydych chi fwyaf balch ohoni? Pa un ai oedd yn cynnwys medal ai peidio.
Wrth gystadlu yng nghystadlaethau sgiliau’r DU y llynedd, cofrestrais bedwar cystadleuydd yn y rownd gyntaf a chafodd y pedwar ohonynt adborth rhagorol a mynd ymlaen i’r rownd ranbarthol. Roedd un o’r cystadleuwyr wedi tynnu’n ôl oherwydd rhesymau personol, fodd bynnag, fe wnaeth y tri a gystadlodd yn y rownd ranbarthol yng Nghaerdydd ym mis Mehefin 2025 ragori a chyrraedd y rownd derfynol yn y gystadleuaeth genedlaethol ym mis Tachwedd 2025. Roeddwn i’n hynod falch o weld y tri cystadleuydd oedd gennym ni yn cyrraedd y rownd derfynol a hynny allan o gannoedd o fyfyrwyr a oedd wedi cofrestru yn ôl ym mis Ebrill 2025. Roedd y gwaith caled a’r ymroddiad a ddangosodd y cystadleuwyr hyn yn amlwg, i fod yn dri allan o wyth cystadleuydd yn y rownd derfynol, pob un o goleg addysg bellach yng ngorllewin Cymru.
Beth yw realiti’r gwaith sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni?
Yn yr adran harddwch, mae’n golygu cesys dillad ac offer dros bob man yn y salon, allwn ni ddim gweld ein desgiau dan yr holl dywelion a chynhyrchion y mae angen i ni eu pacio i fynd gyda ni. Mae iwnifformau yn hongian yn barod i godi hem a’u smwddio ac esgidiau’n aros i gael eu sgleinio. Dros y pedair blynedd diwethaf rydw i wedi treulio hanner gwyliau’r Pasg yn paratoi fideos ar gyfer cystadlaethau sgiliau’r DU. Mae’n rhaid i’r salon fod yn dawel ac yn wag a chyn hyn, rydw i wedi poeni ein gofalwr i roi cot o baent i’r salon i wneud yn siŵr bod y fideos hyn yn berffaith. Yn ystod y paratoadau ar gyfer y rowndiau terfynol cenedlaethol, roedd pob un o’r cystadleuwyr wedi gadael y coleg ac mewn swyddi, felly roedd trefnu i gwrdd â’r tri ar gyfer hyfforddiant yn amhosibl, yr unig ddiwrnod yr oedden ni i gyd yn gallu dod at ein gilydd oedd ar ddydd Sul. Nid oedd yn ddiwrnod o orffwys i ni.
Beth ydych chi’n ei ddweud wrth rywun sy’n amau ei hun?
Os yw cystadleuydd yn teimlo’n nerfus neu’n amau ei allu neu’r gwaith paratoi ar gyfer y gystadleuaeth, rydw i bob amser yn dweud wrthyn nhw bod cystadlu a rhoi eu hunain yn yr ystafell honno a gwneud eu gorau yn gamp ynddo’i hun. Mae nerfau’n beth da ac mae’r teimlad yna yn eu boliau’n wych, mae’n golygu eu bod nhw eisiau gwneud yn dda a bod ots gyda nhw am eu cyflawniadau. Rydw i bob amser yn dweud wrthyn nhw am anghofio pawb arall a gwneud yn union yr hyn maen nhw wedi bod yn ei ymarfer. Ni fydd unrhyw gystadleuydd arall yn cynnal eu triniaethau yn union yr un ffordd ac mae’n bosibl mai nhw fydd yn disgleirio yn yr ystafell honno ac yn dangos rhagori yn nhyb y beirniaid.