Skip page header and navigation
Five students in a line holding their CITB certificates

Cafodd disgyblion o Ysgol Uwchradd Aberteifi ac Ysgol Bro Preseli y cyfle i weithio gyda Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) fel rhan o’u hastudiaethau cyswllt ysgolion gyda Choleg Ceredigion.

Mewn cystadleuaeth seiliedig ar waith tîm oedd yn symud yn gyflym, y dasg a osodwyd gan y CITB oedd creu strategaeth ar gyfer prosiect byw’n gynaliadwy a oedd yn lleihau effaith amgylcheddol datblygiad tai, ac ar yr un pryd parhau i gynhyrchu cartrefi gwerthadwy a deniadol. 

Yn y gystadleuaeth hon, a oedd wedi’u hanelu at bobl ifanc 14 i 16 oed, roedd myfyrwyr yn cael dwy awr i ddatblygu eu syniadau. Yna roedd rhaid iddynt eu cyflwyno gerbron panel o feirniaid, gyda phwyslais penodol ar ddatrysiadau adeiladu realistig ac effaith gymunedol.

Cynhaliwyd y digwyddiad hefyd yn ystod Wythnos Prentisiaethau, gyda CITB yn cefnogi gweithgareddau sy’n hyrwyddo gyrfaoedd adeiladu, prentisiaethau, a sgiliau sy’n barod ar gyfer cyflogwyr.

CITB judges with the school pupils one holding an item of what appears to be woodwood

Roedd disgyblion o’r ysgolion yn ymwneud â hyn fel rhan o’u hastudiaethau wythnosol ar gampws Aberteifi Coleg Ceredigion lle mae disgyblion blwyddyn 10 ac 11 yn dilyn cwrs TGAU mewn adeiladu’r amgylchedd adeiledig.

Meddai Neil Perry Evans, darlithydd adeiladu yng Ngholeg Ceredigion: “Bu timau’r gystadleuaeth yn archwilio syniadau ynghylch effeithlonrwydd ynni, deunyddiau, lleihau gwastraff, trafnidiaeth, ac egwyddorion cyffredinol byw’n wyrdd.

“Roedd yr her yn annog gwaith tîm, datrys problemau, gwneud penderfyniadau’n gyflym, a hyder wrth gyflwyno syniadau technegol, sydd i gyd yn sgiliau sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’r diwydiant adeiladu.

“Mae ymglymiad Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) yn helpu dysgwyr i ddeall yr ystod eang o gyfleoedd ym maes adeiladu, mae’n amlygu cynaliadwyedd fel blaenoriaeth gynyddol yn y diwydiant, ac mae’n dangos yn glir y llwybrau dilyniant i brentisiaethau a chyflogaeth.

“Roedd hi’n wych i weld ymgysylltiad mor gryf gan y ddwy ysgol, gyda dysgwyr yn cynhyrchu syniadau ystyriol, tra bwriadus dan bwysau amser.”

Rhannwch yr eitem newyddion hon