Skip page header and navigation
A student being shown a piece of apparatus by her lecturer it appears to be a long tube

Ydych chi wedi ystyried prentisiaeth?

Mae prentisiaeth nyrsio milfeddygol yn cynnig llwybr strwythuredig i unigolion sy’n ceisio gyrfa mewn gofal milfeddygol. Mae’n cynnig profiad ennill cyflog wrth ddysgu, tra’n astudio mewn canolfan a achredir gan y Coleg Milfeddygol Brenhinol (RCVS). 

Mae Coleg Sir Gâr yn cynnig hyfforddiant ar gyfer y cymhwyster hwn ar ei gampws Pibwrlwyd yng Nghaerfyrddin lle mae myfyrwyr nyrsio milfeddygol yn gweithio mewn practis milfeddygol ac yn cael eu rhyddhau am ddiwrnod i ymgymryd â’u cymhwyster swyddogol. 

Gellir rhannu’r cymhwyster i ddwy ran, sef y sylfaen lefel dau lle mae dysgwyr yn datblygu sgiliau sylfaenol mewn trin anifeiliaid, gofal, a dyletswyddau gweinyddol mewn amgylchedd milfeddygol. Hefyd lefel tri uwch, sy’n golygu bod y myfyriwr wedi cymhwyso fel Nyrs Filfeddygol Gofrestredig (RVN). 

Sarah in her vet scrubs kneeling outside with a dog

Meddai’r fyfyrwraig nyrsio milfeddygol Catrin Jones, sy’n gweithio gyda Milfeddygon Teilo: “Rydyn ni’n gweld llawer o wahanol achosion yn y gwaith ac yna rydyn ni’n gallu trafod a pherthnasu’r rhain i’n hastudiaethau yn y coleg.

 “Rwy’n hoffi’r ffaith ein bod yn gallu astudio a gweithio ar yr un pryd, yn hytrach na chymhwyso drwy gwrs llawn amser ac yna cael ein rhoi yn y pen dwfn mewn practis milfeddygol. 

“Rwy’n dwlu ar y ffaith fy mod i’n gallu gweithio gydag anifeiliaid, gan eu helpu nhw i deimlo’n well, ac mae’r tiwtoriaid yn y coleg yn gefnogol iawn.”

Sarah holding a Guinea pig in her vet uniform

Mae’r fyfyrwraig Sarah Webber yn fyfyrwraig nyrsio milfeddygol gyda Grŵp Milfeddygol The Oak ac mae hi wedi gweithio yn eu practisau yn Hwlffordd ac yn Abergwaun hefyd. “Rwy’n ymarferol iawn yn fy ffordd,” meddai. “Felly, mae’r brentisiaeth yn fy siwtio i’n well, lle gallaf ennill profiad yn y practis a dysgu’r theori yn y coleg. Mae’r darlithwyr yn dda hefyd, maen nhw’n hapus i roi cymorth ychwanegol os ydyn ni ei angen.” 

Mae angen i fyfyrwyr fod wedi’u cyflogi mewn practis milfeddygol i ymgymryd â’r brentisiaeth a symud ymlaen o lefel tri RVN gan gynnwys astudio diploma RCVS mewn nyrsio milfeddygol uwch.

Rhowch gipolwg cyflym ar ein canolfan Anifeiliaid a Cheffylau yma a dewch i wybod mwy am brentisiaeth nyrsio milfeddygol Coleg Sir Gâr yma

 

Lecturer Hayley kneeling outside with a dog with the sign saying animal and equine centre

Hayley Graudins

Course Leader for Veterinary Nursing

Hayley Graudins

Arweinydd Cwrs ar gyfer Nyrsio Milfeddygol

Enillodd Hayley gymwysterau fel nyrs filfeddygol yn 2007 ac fe astudiodd hi ar y llwybr prentisiaeth, felly mae hi’n gyfarwydd â’r llwybr.

Gyda diddordeb personol mewn anaesthesia a nyrsio milfeddygol, mae hi wedi gweithio mewn amrywiol glinigau gan gynnwys practisau milfeddygol a chlinigau atgyfeirio cyffredinol a chymysg. 

Yn ogystal mae hi wedi gweithio yn Sydney, Awstralia ar leoliad profiad gwaith chwe-mis mewn practis anifeiliaid bach, tra ei bod yn teithio.

Mae Hayley wedi bod yn addysgu ers 2017 ac roedd ganddi ran sylweddol mewn sefydlu’r llwybr prentisiaeth yn y coleg.

Mae hi bellach yn arweinydd cwrs a phennaeth y ganolfan ar gyfer y Cymhwyster lefel tri Lantra mewn Nyrsio Milfeddygol Anifeiliaid Bach. Hefyd mae hi’n delio gyda chyrff cofrestredig y diwydiant megis Coleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS) a’u harolygon rheolaidd.

Yn ogystal mae Hayley yn ymgymryd ag ymweliadau â phractisau hyfforddi i weld myfyrwyr a’u cyflogwyr mentora yn eu gweithle, er mwyn gwneud yn siŵr bod anghenion y brentisiaeth yn cael eu bodloni ac i wirio cynnydd y prentis. 

Fel RVN locwm yn ei hysbyty milfeddygol gofal brys a chritigol lleol, mae Hayley yn gwneud yn siŵr bod ei sgiliau yn gyfoes, yn ogystal â boddhau ei brwdfrydedd am y gwaith mae hi’n ei wneud yno. 

Beth yw rôl Nyrs Filfeddygol?

Mae nyrsys milfeddygol yn darparu cefnogaeth ac arbenigedd mewn llawer o weithredoedd meddygol  a thriniaethau llawfeddygol  o dan Atodlen 3 Cod Ymddygiad Proffesiynol Coleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS).

Lleoli Radiograffeg

Mân lawdriniaethau a thriniaethau llawfeddygol 

Tynnu lympiau mân 

Gwellhad ar ôl llawdriniaeth

Profion gwaed a diagnosteg

Rhoi meddyginiaethau a thriniaethau

Gofalu am anifeiliaid yn yr ysbyty 

Cefnogi perchnogion anifeiliaid anwes gyda chyngor ac arweiniad

Sicrhau safonau uchel o ran hylendid, rheoli haint a chofnodion clinigol

Rhannwch yr eitem newyddion hon