Llwyddiant dwbl i Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yng Ngwobrau UCM Cymru
Gwahoddwyd Undeb Myfyrwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion i ddigwyddiad dathlu UCM Cymru yng Nghaerdydd lle derbyniodd y Swyddog Menywod Alys Mosey Wobr Llywydd UCM Cymru.
Derbyniodd Llywydd Undeb Myfyrwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, Ioan Armstrong, wobr gydnabyddiaeth yn y digwyddiad hefyd am ei rôl fel Myfyrwyr-Lywodraethwr.
Enillodd Alys, sydd hefyd yn Is-lywydd Undeb y Myfyrwyr ar gampws Ffynnon Job, lle mae Ysgol Gelf Caerfyrddin y coleg wedi’i lleoli, wobr am ei hymgyrch ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.
Cafodd ei henwebu gan Debbie Williams, swyddog lles Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion sy’n gweithio i gefnogi Undeb y Myfyrwyr fel rhan o’i rôl.
Trefnodd Alys ymgyrch gynhwysol ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, ar draws pob un o’r saith campws, a chydweithiodd â swyddogion Undeb y Myfyrwyr i drefnu stondinau diddorol ar bob campws yn cynnwys gweithgareddau creadigol fel arddangosfeydd ysbrydoledig a heriau rhyngweithiol.
Meddai Alys Mosey, sy’n astudio diploma sylfaen mewn celf a dylunio yn y coleg: “Cefais sioc wirioneddol o weld fy enw’n ymddangos ar y sgrin a’i glywed yn cael ei alw allan pan oedden ni yng Nghaerdydd, doeddwn i ddim yn disgwyl hynny o gwbl.
“Ond fyddwn i wir ddim wedi gallu ei wneud heb gymorth UM anhygoel eleni. Yn enwedig ar fy nghampws i, wn i ddim sut fyddwn i wedi llwyddo heb Kim (swyddog LHDT) a Takara (swyddog anabledd) a chefnogaeth y tîm lles.
“Roedd yr ymgyrch hon yn golygu llawer i mi wrth i mi ei chynllunio. Roeddwn i wedi cynllunio’r digwyddiad y llynedd ond yn anffodus gyda’r amser oedd gen i, dim ond ar gampws y Graig oedd hi’n bosibl ei gynnal, felly rwy’n falch iawn ein bod ni wedi gallu ehangu’r dathliadau ar draws ein campysau, dyna oedd y peth pwysicaf i mi, bod pob campws yn gallu mwynhau’r diwrnod.”
Ychwanegodd Debbie Williams, swyddog lles Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion: “Rydyn ni mor falch ac wrth ein bodd bod Alys wedi cael ei chydnabod am yr holl waith caled y mae hi wedi’i wneud fel Swyddog Menywod ac yn enwedig am ei hymgyrch ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod. Mae Alys yn ddysgwraig mor gydwybodol sy’n llwyr haeddiannol o’r wobr. Da iawn Alys!
“Roedd hefyd yn hyfryd gweld bod Myfyrwyr-Lywodraethwyr ledled Cymru wedi derbyn gwobrau yn cydnabod eu cyfranogiad yng nghyfarfodydd bwrdd y colegau. Bydd ein Llywydd Undeb y Myfyrwyr, Ioan Armstrong, wrth ei fodd yn cael ei gydnabod am ei rôl ar y bwrdd yn cynrychioli’r holl fyfyriwr.”
Yn y llun mae Alys gyda Deio Owen, Llywydd UCM Cymru.