Skip page header and navigation
The winner receiving the John Hancock shield

Myfyriwr peirianneg amaethyddol Coleg Sir Gâr Dylan Vaughan yw derbynnydd Gwobr Fasnachol Gwili Jones a Gwobr John Hancock eleni. 

Fe wnaeth Dylan, sy’n 18 oed ac yn hanu o Drecastell, ddylunio a gweithgynhyrchu brêcs trydan ar gyfer trelar er mwyn datrys problem mae ef ei hun wedi profi, wrth weithio ar fferm gwartheg bîff a defaid ei deulu. 

A line of students staff and judges standing outside

Bob blwyddyn bydd pob myfyriwr peirianneg amaethyddol ar y cwrs lefel tri yn cystadlu am wobrau Gwili Jones a John Hancock, lle byddant yn cyflwyno eu syniadau’n ffurfiol ar gampws amaethyddol y coleg yn  Gelli Aur.

Gofynnir i fyfyrwyr feddwl am bedwar syniad, naill ai ar gyfer cynnyrch newydd neu i wella cynnyrch, ac yna dewis un i archwilio ymhellach iddo a’i gynhyrchu. 

A line of students judges and staff by the winning manufactured design
The winner with a representative from New Holland

Roedd cyflwyniad Dylan yn gynhwysfawr gyda chasgliadau manwl yn dangos ymchwil trylwyr a chyfrifiadau peirianegol, gan gynnwys maintioli gwifrau a switshys cyfnewid, rhaglennu, gostyngiadau mewn foltedd a manyleb beirianegol derfynol. 

Bydd myfyrwyr hefyd yn cyflwyno eu dyluniadau ar gyfer y gwobrau IAgrE blynyddol ac maen nhw wedi ennill llwyddiant parhaus yn y gwobrau flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Meddai Rhys James, darlithydd mewn peirianneg amaethyddol yng Ngholeg Sir Gâr: “Llongyfarchiadau mawr i Dylan am ennill cydnabyddiaeth haeddiannol o’i alluoedd peirianegol a gweithgynhyrchiol oddi wrth Gwili Jones a John Hancock hefyd.

“Rydyn ni’n hynod o falch o’n myfyrwyr i gyd sy’n dod ymlaen i gyflwyno eu syniadau a’u prosiectau hunan-gynhyrchiol i arbenigwyr y diwydiant.”

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau