Llwyddiant i fyfyrwyr a phrentisiaid mewn cystadlaethau sgiliau cenedlaethol
Mae myfyrwyr a phrentisiaid Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi cael eu cydnabod fel rhan o ddathliad cenedlaethol o sgiliau Cymru yn nigwyddiad gwobrwyo blynyddol Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru.
Cynhelir nifer o gystadlaethau mewn gwahanol sectorau gan gynnwys iechyd, peirianneg a lletygarwch ym mis Chwefror a chaiff y canlyniadau eu cyhoeddi yn ystod y noson wobrwyo.
Aeth y ddau goleg ati i drefnu parti gwylio lle’r oedd enillwyr gwobrau a chystadleuwyr yn gwylio ffrwd fyw o’r prif ddigwyddiad a gynhaliwyd yn Theatr y Pafiliwn yn y Rhyl gyda Grŵp Llandrillo Menai, Coleg Cambria a darparwyr hyfforddiant yn y gogledd.
Y gyflwynwraig teledu, Mari Lovgreen, oedd yn cyflwyno’r prif ddigwyddiad gyda 10 parti gwylio yn ymuno o bob cwr o Gymru.
Croesawodd Coleg Sir Gâr Samantha Cutlan-Dillon, rheolwr y rhaglen sgiliau a thalent, a Jane Lewis, y ddwy o Bartneriaeth Dysgu Ranbarthol Cyngor Sir Gâr, yn westai arbennig.
Coleg Sir Gâr
Enillodd Coleg Sir Gâr wyth gwobr aur mewn sectorau yn cynnwys gweithgynhyrchu, ynni adnewyddadwy ac iechyd a gofal cymdeithasol.
Enillwyd un ar ddeg o fedalau arian mewn categorïau yn cynnwys technoleg cerbydau a cherddoriaeth boblogaidd.
Ac enillwyd dwy wobr efydd ar gyfer gosod trydanol a chynorthwyydd ffitrwydd a chafwyd 17 o wobrau canmoliaeth uchel hefyd.
Coleg Ceredigion
Enillodd Coleg Ceredigion dair medal aur mewn cystadlaethau patisserie a melysion, gwasanaeth bwyty a gwaith saer, dwy fedal arian mewn cystadlaethau harddwch a patisserie a dwy fedal efydd mewn cystadlaethau celfyddydau coginiol a gwasanaeth bwyty gyda 13 o wobrau canmoliaeth uchel.
Mae Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru yn fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd wedi’i chynllunio i hyrwyddo a chynnal cystadlaethau sgiliau ar draws gwahanol sectorau. Mae’n cefnogi myfyrwyr a phrentisiaid o Gymru ar eu taith wrth iddynt gystadlu yn rhanbarthol, yn genedlaethol a hyd at lefel WorldSkills y DU.
Daeth cystadleuwyr, enillwyr medalau, eu tiwtoriaid a’u mentoriaid ar gyfer y gystadleuaeth a gwesteion ynghyd ar gyfer y partïon gwylio.
Meddai Rebecca Buckley, cydlynydd cyflogadwyedd ac entrepreneuriaeth yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion: “Rydym mor falch o bob dysgwr a phrentis a gymerodd ran eleni, maen nhw wedi ein syfrdanu gyda’u hymroddiad wrth gydbwyso’r cystadlu a’u hastudiaethau.
“I’r rheini a gymerodd ran, o’r dysgwyr i’r tiwtoriaid a’r staff cefnogi a hwylusodd yr hyfforddiant hwn, y mae’r diolch am y cyflawniad anhygoel hwn.
“Mae’r cystadlaethau hyn yn ffordd wych o feithrin yr hyder a’r sgiliau proffesiynol sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol, ac rydym mor falch o weld ein staff a’n myfyrwyr yn llwyddo gyda’i gilydd.”
lluniau https://www.flickr.com/photos/colegsirgar/albums/72177720332635594