Skip page header and navigation
Ioan with the minister and a vice principal on the second floor with beams on the ceiling

Fe wnaeth llywydd Undeb y Myfyrwyr yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wahodd Gweinidog Cymru ar gyfer addysg bellach ac uwch i’r coleg i drafod pwysigrwydd codi dyraniad y Gronfa Ariannol Wrth Gefn (FCF).

Mae’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn (FCF) yn gronfa a gefnogir gan lywodraeth Cymru i gynorthwyo myfyrwyr llawn amser sy’n profi caledi ariannol gan helpu i ddileu rhwystrau i ddysgu trwy ddarparu cymorth megis costau teithio, gofal plant, cyfarpar cwrs a thalebau bwyd.

Cafodd Ioan Armstrong, sy’n fyfyriwr Safon Uwch yng Ngholeg Sir Gâr, ei ethol gan fyfyrwyr fel llywydd Undeb y Myfyrwyr ar gyfer eleni ac mae e wedi gwahodd Gweinidog Cymru Vicky Howells AS i gampws y Graig lle mae’n astudio.

Fel rhan o’i faniffesto, mae’n ymgyrchu dros fwy o gyllid FCF i helpu myfyrwyr sydd dan fwy o anfantais sy’n cael anhawster ariannol wrth fynychu’r coleg ac ar gyfer y rheiny sydd fymryn o dan y trothwy ariannol. 

Gan gydnabod effaith gadarnhaol y coleg, megis y cymorthdaliadau cludiant mae’n eu darparu, mae Ioan yn ceisio newid mewn polisi o ran cyllid FCF ac mae’n gobeithio bydd ei gyfarfod gyda Vicky Howells yn cychwyn y sgwrs honno. 

Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn ymrwymedig i gefnogi Ioan yn ei rôl Undeb y Myfyrwyr a chefnogi’r holl fyfyrwyr trwy roi llais iddynt. Hefyd mae’r coleg yn parhau i werthfawrogi’r cyllid parhaus a’r gefnogaeth a dderbynnir oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Rhannwch yr eitem newyddion hon