Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn croesawu cymeradwyaeth ar gyfer campws newydd yng Nghaerfyrddin
Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, rhan o Grŵp Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), wedi croesawu penderfyniad Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Gâr i gymeradwyo datblygu campws newydd yng Nghaerfyrddin.
Bydd safle Pibwrlwyd y Coleg yn cael ei ddatblygu i greu Campws Caerfyrddin a fydd yn amgylchedd dysgu modern, cynhwysol a dwyieithog sy’n cefnogi addysgu o ansawdd uchel, lles dysgwyr ac arloesedd.
Mae cymeradwy’r cynllun yn nodi carreg filltir bwysig yn strategaeth hirdymor y Coleg i gryfhau ei ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr, cyflogwyr a chymunedau ledled gorllewin Cymru.
Wedi’i ariannu drwy bartneriaeth rhwng y Coleg a Llywodraeth Cymru, mae’r datblygiad yn adlewyrchu ymrwymiad a rennir i ddarparu mannau ysbrydoledig lle gall dysgwyr ffynnu, datblygu sgiliau sydd â galw mawr amdanynt, a symud ymlaen i yrfaoedd ystyrlon.
Bydd y datblygiad hefyd yn cryfhau rôl y Coleg fel sefydliad angori yn y rhanbarth, gan gydweithio’n agos â chymunedau, partneriaid yn y diwydiant, a rhanddeiliaid allweddol i gefnogi’r gwaith o ddatblygu sgiliau, ysgogi twf economaidd, a chreu cyfleoedd newydd i bobl leol.
Meddai Vanessa Cashmore, Pennaeth Dros Dro Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion:
“Mae’r buddsoddiad hwn yn ymwneud â llawer mwy na chyfleusterau newydd. Mae’n ymwneud â thrawsnewid cyfleoedd i ddysgwyr ledled Sir Gaerfyrddin a sicrhau bod ganddynt fynediad at hyfforddiant o’r radd flaenaf, amgylcheddau dysgu modern, a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i adeiladu dyfodol llwyddiannus.
“Bydd Campws Caerfyrddin yn ein helpu i barhau i siapio bywydau, cefnogi cymunedau, a chreu amgylchedd dysgu sy’n canolbwyntio ar y dyfodol ac sy’n diwallu anghenion cymdeithasol ac economaidd y rhanbarth.”
Caiff diweddariadau pellach eu cyhoeddi ar wefan y Coleg, sianeli cyfryngau cymdeithasol, a thrwy gyfathrebu uniongyrchol â grwpiau rhanddeiliaid perthnasol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: campwscaerfyrddin@colegsirgar.ac.uk