Myfyriwr Garddwriaeth ar fin dechrau hyfforddeiaeth yng Ngerddi Aberglasne
Bydd myfyriwr garddwriaeth Coleg Sir Gâr Tom Jenkins yn dechrau swydd dan hyfforddiant, blwyddyn o hyd yng Ngerddi Aberglasne ym mis Medi.
Mae’r fwrsariaeth mewn garddwriaeth yn gyfle dysgu a hyfforddi wedi’i ariannu, 12 mis o hyd yng Ngerddi Aberglasne, ac mae myfyrwyr a ddewisir yn ennill blwyddyn gyfan o brofiad yng ngardd hanesyddol ac amrywiol Aberglasne.
Wedi’u hachredu gan Y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS), mae Tom sy’n 21 oed, wedi bod yn astudio Tystysgrif Lefel 2 mewn Garddwriaeth Ymarferol a’r Dystysgrif mewn Egwyddorion Twf a Datblygiad Planhigion yng Ngholeg Sir Gâr.
Roedd garddwriaeth yn ddewis naturiol i Tom gan ei fod wedi mwynhau bod yn yr awyr agored erioed, yn helpu yn yr ardd. Roedd ganddo ddiddordeb penodol yn y modd y mae planhigion yn tyfu a sut y gellir dylunio a chynnal a chadw mannau gwyrdd.
Meddai Tom Jenkins: “Yr hyn rwy’n mwynhau fwyaf am y cwrs yw’r cydbwysedd rhwng theori a gwaith ymarferol.
“Mae’n werth chweil i ddysgu rhywbeth yn yr ystafell ddosbarth ac yna ei ddefnyddio’n uniongyrchol yn yr ardd yn Aberglasne.”
“Mae’r cwrs wedi fy helpu i ddatblygu ystod eang o sgiliau ymarferol, yn cynnwys adnabod planhigion, lluosogi, tocio, rheolaeth pridd, a defnyddio peiriannau a chyfarpar garddwriaethol yn ddiogel.
“Un sgil doeddwn i ddim yn disgwyl ei fwynhau a dysgu cymaint amdano oedd lluosogi planhigion. Mae wedi bod yn ddiddorol iawn i ddysgu gwahanol dechnegau lluosogi, fel cymryd toriadau, hau had, a chellraniad, a gweld planhigion yn tyfu a datblygu’n llwyddiannus o’r dulliau hyn.”
Yn ystod y cwrs llwyddodd Tom i ennill swydd ran-amser ym mhlanhigfa Gardd Fotaneg Cymru, ac mae’n dweud ei fod wedi bod yn gyfle gwych i ategu a chyflenwi ei astudiaethau.
Ychwanegodd Tom Jenkins: “Mae’r rôl wedi caniatáu i mi ennill profiad gweithredol gwerthfawr a datblygu fy sgiliau ymarferol mewn amgylchedd garddwriaethol proffesiynol.
“Ar ôl cwblhau fy nghwrs, rwyf wedi sicrhau swydd dan hyfforddiant blwyddyn o hyd yng Ngerddi Aberglasne gan ddechrau ym mis Medi. Rwy’n edrych ymlaen at adeiladu ar y wybodaeth a’r profiad rwyf wedi ennill yn ystod fy astudiaethau, a pharhau i ddatblygu fy sgiliau ochr yn ochr â garddwriaethwyr profiadol.”