Skip page header and navigation
Brandon coming off stage giving a big wave to the audience

Mae myfyriwr cyfrifeg yng Ngholeg Sir Gâr wedi ennill gwobr Technegydd Cyfrifyddu’r Flwyddyn, Gwobrau Cyllid Cymru, ar gyfer ei astudiaethau AAT a’i rôl gyda darparwyr gofal Ivolve Care & Support.

Mae Brandon Ayres, sy’n 21 oed, yn astudio diploma lefel 4 Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) mewn cyfrifeg broffesiynol ar gampws Pibwrlwyd y coleg. 

O arweinwyr profiadol i sêr y dyfodol, fe wnaeth digwyddiad Gwobrau Cyllid Cymru wahodd sefydliadau ac unigolion o bob cwr o gymuned gyllid Cymru i enwebu pobl y mae eu gwaith yn wir yn gwneud gwahaniaeth.

Mae llwybr llwyddiant Brandon yn y coleg yn cynnwys ennill arian yn rownd derfynol Cymru o WorldSkills y DU fel rhan o dîm dau-berson, ennill cymhwyster fel terfynydd gwobr WorldSkills 2025 a chael ei gynnwys ar y rhestr fer ar gyfer Prentis y Flwyddyn yng Ngwobrau’r AAT. 

Brandon and four other people on stage dressed in suits and dresses

Mae ei waith yn Ivolve Care & Support wedi dod â chlod i Brandon lle mae’n mynd ati’n fwriadol i chwilio am waith ychwanegol, yn diwygio prosesau a gwella systemau presennol ac ar yr un pryd cefnogi cydweithwyr a hyfforddi staff bob amser. 

O fewn blwyddyn, daeth Brandon yn arweinydd cyfrifon taladwy gan ddirprwyo gwaith i eraill wrth barhau i fod â chyfrifoldeb.   

Meddai Rebecca Jeffreys-Carter, darlithydd cyfrifeg Coleg Sir Gâr: “Mae hon yn wobr hollol haeddiannol sy’n tynnu sylw at etheg waith a gwytnwch Brandon. 

“Rwy’n teimlo bod gan Brandon ddyfodol anhygoel o’i flaen yn y diwydiant cyllid ac rwy’n dymuno’r gorau iddo yn ei astudiaethau a datblygiad ei yrfa yn y dyfodol”.

Fe wnaeth ei gydfyfyriwr cyfrifeg Catrin Lewis, sy’n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, hefyd ennill cymeradwyaeth uchel yng nghategori Prentis Cyllid y Flwyddyn y gwobrau.

Rhannwch yr eitem newyddion hon