Myfyrwraig Safon Uwch yn sicrhau profiad gwaith y tu ôl i'r llenni yn theatr Andrew Lloyd Webber
Mae Dulcie Davies, myfyrwraig Safon Uwch yng Ngholeg Sir Gâr, yn paratoi ar gyfer wythnos gyffrous o brofiad gwaith yn LW Theatres yn Llundain, sy’n rhan o grŵp o theatrau Andrew Lloyd Webber yn y West End.
Fel rhan o raglen profiad gwaith technegol sy’n cynnwys rheoli llwyfan, bydd hi’n camu y tu ôl i lenni rhai o gynyrchiadau mwyaf eiconig y West End.
Gan weithio ochr yn ochr â rai o weithwyr proffesiynol gorau’r diwydiant, bydd y profiad hwn yn cynnig cipolwg ymarferol ar yr arbenigedd technegol a chreadigol sy’n dod â chynyrchiadau theatr o’r radd flaenaf yn fyw.
Mae gan Dulcie eisoes brofiad lleol o weithio mewn grwpiau theatr a thu ôl i’r llenni yn theatr Ffwrnes, lle dechreuodd yn 2022.
Wrth chwilio am brofiad gwaith i ategu ei gwaith coleg, cafodd Dulcie ei hun ar wefan LW Theatres, ac o’r fan honno, cyflwynodd gais llwyddiannus.
Arweiniodd hyn at gam nesaf y broses sef cyfweliad a sgwrs ar-lein gyda Beth Davies, cydlynydd dysgu ac allgymorth yn y theatr.
Mae Dulcie’n aros i gael gwybod ym mha un o theatrau LW yn Llundain y bydd hi’n gweithio ond mae hi’n edrych ymlaen at gael dechrau. “Rydw i wastad wedi bod wrth fy modd â’r theatr, felly pan ddes i o hyd i gyfle i wneud hyn, roeddwn i’n awyddus iawn i wneud cais.
“Dw i’n hoffi mynd cefn llwyfan a gwneud i bopeth ddigwydd a dw i’n hoff o waith Andrew Lloyd Webber a’i addasiadau o’r clasuron felly dw i wir yn edrych ymlaen at gael mynd.”
Mae Dulcie yn gyn-ddisgybl yn Ysgol St John Lloyd ac mae hi’n astudio drama, addysg grefyddol a hanes Safon Uwch ar hyn o bryd.