Myfyrwyr chwaraeon yn dychwelyd o antur fythgofiadwy yng Nghanada a gefnogwyd gan gwmni adeiladu Vaughan Construction
Ymwelodd 60 o fyfyrwyr chwaraeon â Chanada ar daith addysgol, ddiwylliannol a chwaraeon, wedi’i noddi gan gwmni Vaughan Construction.
Teithiodd y grŵp i Faes Awyr Rhyngwladol Montreal Trudeau ym mis Mehefin, ar gyfer taith 10-diwrnod lle gwnaethon nhw brofi rafftio dŵr gwyn, ymweld â thirnod enwog y Tŵr CN, mynd ar daith amffibiaidd, gweld gêm bêl fas prif gynghrair, parciau dŵr a pharciau pleser, cael cinio ym mwyty Brasa Brazilian Steakhouse, taith mewn cwch jet cyflym yn Rhaeadr Niagara a llawer mwy.
Hefyd cafodd y myfyrwyr gyfle ar y daith i gael rhywfaint o brofiad chwaraeon rhyngwladol gydag amrywiol gemau chwaraeon a wnaeth arwain at ambell fuddugoliaeth nodedig.
Enillodd tîm y bechgyn 92-0 yn erbyn Barrhaven ac enillodd tîm y merched 64-0 yn erbyn Mississauga Blues, gyda’r bechgyn yn ennill 108-0 yn erbyn bechgyn Mississauga Blues.
Enillodd y tîm pêl-rwyd 48-15 yn erbyn Netball Ontario a chollwyd un gêm gyda sgôr o 29-19 gan dîm rygbi merched y coleg yn erbyn Barrhaven.
Meddai Rob Kirk, trefnydd y daith a darlithydd mewn gwyddor chwaraeon: “Fe wnaeth Canada ragori ar ein disgwyliadau, o’n croeso cynnes a’r rafftio dŵr gwyn yn Ottawa, i gyffro’r parciau pleser a golygfeydd gorwelion y Tŵr CN yn Toronto, a’r rhaeadrau syfrdanol yn Niagara. Roedd y daith yn berffaith.
“Ar wahân i’r atyniadau, rwy’n arbennig o falch o’n dysgwyr a wnaeth ymddwyn yn broffesiynol ar hyd yr amser, gan arddangos y gwytnwch angenrheidiol i ddygymod â thaith 10-diwrnod, gystadleuol, llawn cyffro. Roedden nhw’n dwristiaid gwych a bellach maen nhw’n rhan o hanes Coleg Sir Gâr.
“Hoffwn ddiolch i Adam a phawb o gwmni Vaughan Construction a wnaeth helpu i wneud y daith hon yn realiti ar gyfer llawer o’n myfyrwyr ac yn brofiad y byddan nhw’n ei gofio am byth.”
Wrth esbonio ei resymau dros noddi’r daith, dywedodd Adam Jones: “Pan oeddwn i’n ifanc ac yn chwarae rygbi, oni bai am noddwyr, ni fyddai cit gennych chi. Cwmni lleol ydyn ni, yn cyflogi pobl leol. Rwy’n teimlo ei fod yn beth da i roi rhywbeth nôl, ac mae’n dda i ddarparu hyn ar lefel sylfaenol a rhoi cam i fyny i’r genhedlaeth nesaf.
Dyma beth ddywedodd ein myfyrwyr
“Mwynheuais i bob munud. Diflannodd y gofid roedd gen i cyn mynd cyn gynted â glanion ni yng Nghanada. Ces i amser gwych. Diolch.
Chwaraewr yr Academi Rygbi
“Roedd y profiad cyfan yn syfrdanol, ac fe wnaeth y darlithwyr i gyd fy helpu i’w fwynhau i’r eithaf.”
Chwaraewr yr Academi Rygbi
“Taith wedi’i chynllunio’n arbennig o dda, roedd cymaint iddyn nhw weld a gwneud. Roedd gallu dilyn hyn ar y cyfryngau cymdeithasol yn wych. Roedd yn brofiad syfrdanol iddyn nhw. Diolch yn fawr iawn.
Mam chwaraewr
“Ces i amser syfrdanol am yr 11 diwrnod. Roedd yr athrawon yn gefnogol iawn gydag unrhyw help roeddwn i ei angen. Diolch am daith ragorol!
Chwaraewr yr Academi Chwaraeon