Myfyrwyr pen-cogyddion yn cyflwyno bwydlen wyth-cwrs wrth gymryd Bwyty Ynyshir drosodd
Fe wnaeth myfyrwyr coginio proffesiynol o gampws Aberystwyth Coleg Ceredigion gyflwyno bwydlen wyth-cwrs uchelgeisiol wrth gymryd Bwyty Ynyshir drosodd am un noson yn unig.
Gan fod Ynyshir yn un o gyrchfannau ciniawa mwyaf clodfawr a gwobrwyedig y wlad gyda sêr Michelin ac amryfal wobrau coginiol eraill, roedd hwn yn gipolwg ymarferol i fyfyrwyr ar giniawa cain.
Dyfeisiodd y rheiny sydd yn eu blwyddyn olaf fwydlen greadigol oedd yn arddangos sgiliau technegol a phroffesiynoldeb, gan gynnwys cwrs pwdin gan Caitlin Meredith a oedd yn rhan o’i llwyddiant wrth ennill Pen-cogydd Ifanc y Flwyddyn Cymru 2026.
Croesawodd y digwyddiad amrywiaeth o westeion yn cynnwys teulu, ffrindiau a staff coleg gwahoddedig, gan greu awyrgylch cynnes a dathliadol.
Gyda lletygarwch yn rhan gyfwerth o’r cwrs a’r diwydiant, cymerodd un myfyriwr y rôl o guradu a chyflenwi detholiad o winoedd i ategu pob cwrs.
Meddai tiwtor Coleg Ceredigion: “Cydweithiodd y grŵp cyfan i gyflwyno a gweini’r seigiau, gan ddangos gwaith tîm neilltuol a sylw arbennig i fanylion.
“Roedd y pen-cogydd clodfawr Gareth Ward ac Amelia Ward yn bresennol trwy gydol y noson, yn cynnig anogaeth ac yn arsylwi’r myfyrwyr wrth iddynt weithio ar y lefel broffesiynol uchaf. Dyma’r tro cyntaf i’r bwyty gael ei gymryd drosodd gan fyfyrwyr.
“Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad, mae yna uchelgais ar y cyd i wneud hyn yn gyfle blynyddol, gan gryfhau’r bartneriaeth ymhellach a darparu llwyfan gwirioneddol unigryw i fyfyrwyr y dyfodol.
“Hoffen ni ddiolch i bawb yn Ynyshir am roi’r profiad proffesiynol ac uchelgeisiol hwn i’n myfyrwyr.”