Myfyrwyr yn arddangos eu taith artistig ar gampws Pibwrlwyd
Mae myfyrwyr celf a dylunio yng Ngholeg Sir Gâr yn arddangos eu prosiectau mawr terfynol mewn gofod arddangosfa ar gampws Pibwrlwyd.
Rhoddir y cyfle i fyfyrwyr ar gyrsiau celf o bob lefel, o lefel un i dri, i arddangos eu gwaith celf.
Bydd myfyrwyr ail flwyddyn sydd ar y cwrs diploma estynedig lefel tri, a achredir gan Brifysgol y Celfyddydau Llundain, yn arddangos eu gwaith ar gampws Ffynnon Job, ochr yn ochr â gwaith myfyrwyr eraill Ysgol Gelf Caerfyrddin.
Y thema eleni oedd ‘atseiniau o’r gorffennol i ailddylunio’r dyfodol’ ar gyfer lefel dau. Rhoddwyd ‘mannau anghofiedig’ i lefel un a chafodd lefel tri’r creadigrwydd i ddewis eu thema eu hunain.
Ar y dechrau cafodd Philip Raven-Richards, myfyriwr lefel dau sy’n arddangos ym Mhibwrlwyd ei ysbrydoli i astudio celf oherwydd peintiadau a cherfluniau ei fam. Mae e wedi creu patrymau daearol gan ddefnyddio asetad, inc a golau. Meddai: “Gwnes i lawer o arbrofi ar gyfer y prosiect hwn ac edrychais ar ynysoedd, patrymau ffrwydrol a folcanig a wnaeth ysbrydoli fy ngwaith llinellu.
“Rwy’n gobeithio symud ymlaen i lefel tri ym mis Medi gan fy mod wedi cael amser bendigedig yn y coleg. Mae’r tiwtoriaid yn wirioneddol gymwynasgar ac maen nhw’n dysgu pob math o dechnegau i ni ac yn eu hesbonio’n dda.”
Fe wnaeth Nicole Bravery, myfyrwraig lefel dau, ymateb i’r briff gan ddefnyddio cychod newydd a hen ar gyfer ei hysbrydoliaeth. Meddai: “Gyda chychod hŷn, y mae rhai ohonynt dan ddŵr, gallwch chi glywed yr atseiniau ond mae’r cychod mwy newydd, addas i’r môr, fel petaent yn alldaflu’n uchel ac i mi, nid yw’r dyfodol yn dawel.”
Yn un o’i darnau, sy’n defnyddio pen marcio, siarcol, a sialc – techneg nad yw Nicole wedi’i defnyddio erioed o’r blaen, mae hi’n rhoi top llong wyliau ar ben gwaelod llong gynwysyddion, gan gyfuno a gosod yr hen dan y newydd i greu argraff o’r ddelwedd roedd hi am bortreadu.
Cafodd dawn artistig Nicole ei nodi i ddechrau yn yr ysgol gan athro celf a sylwodd ei photensial ac a roddodd brosiectau amrywiol ar hap iddi i’w harchwilio.

Meddai Rebecca Sellick, darlithydd celf a dylunio yn Ysgol Gelf Caerfyrddin Coleg Sir Gâr ar gampws Pibwrlwyd: “Rydyn ni’n falch iawn o’n holl fyfyrwyr sydd wedi gweithio mor galed drwy’r flwyddyn ar eu prosiectau mawr terfynol.
“Maen nhw wedi arbrofi ac wedi rhoi ystyriaeth i adborth tiwtoriaid ac maen nhw wedi gadael i’w dychymyg creadigol redeg yn wyllt.
“Mae hi wedi bod yn hyfryd i fod yn rhan o’u taith greadigol ac mae gweld eu rhieni a’u gwarcheidwaid yn ein harddangosfa ddathlu ar ddiwedd y flwyddyn yn rhoi diweddglo hyfryd i ni i’r flwyddyn academaidd, yn barod ar gyfer y lefel nesaf.