Skip page header and navigation
A shot of the crowd watching the awards take place

Dathliad blynyddol sy’n cydnabod cyflawniadau rhagorol myfyrwyr yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yw’r Gwobrau Cyflawni Rhagoriaeth.

Bob blwyddyn, mae staff addysgu yn enwebu tri dysgwr o bob maes cwricwlwm, gyda chyflwynydd y digwyddiad yn datgelu enw enillydd y wobr yn ystod dathliadau’r noson.

A crowd gathering for the awards focussed on the table where they pick up the awards brochure

Nid yw’n ymwneud â rhagoriaeth academaidd yn unig, mae’n ymwneud ag ymroddiad, parch, teithiau a heriau personol a’r unigolyn hwnnw sydd wedi mynd yr ail filltir. 

Eleni, cynhaliwyd seremoni Coleg Ceredigion yng Ngwesty’r Cliff, gyda’r sylwebydd chwaraeon, Dylan Ebenezer, yn gyflwynydd gwadd, tra bod Coleg Sir Gâr wedi cynnal eu seremoni wobrwyo yn Theatr Ffwrnes, a chyflwynydd y noson oedd yr actor, Ioan Hefin.

A student looking really shocked at her name being called on a table with other people
Ioan hefin host, talking to an award recipient who is brushing back a tear of joy

Mae uwch arweinwyr, gan gynnwys y pennaeth, yn ymuno â myfyrwyr a’u teuluoedd ar gyfer yr achlysur arbennig hwn, gan ddathlu eu cyflawniadau a chydnabod ymroddiad, talent a llwyddiant dysgwyr ar draws y ddau goleg.

Lluniau

Coleg Sir Gâr https://www.flickr.com/photos/colegsirgar/albums/72177720334346061/

Coleg Ceredigion https://www.flickr.com/photos/colegsirgar/albums/72177720334282623/

A senior staff member awarding a mature student

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau