Myfyrwyr yn cynnig syniadau ar gyfer arddangosfa adwerthu i The Secret PlantHouse
Mae myfyrwyr yng Ngholeg Sir Gâr wedi bod yn gweithio gyda chwmni lleol The Secret PlantHouse yn Llanelli, i roi profiad iddynt wrth gyflwyno syniadau marsiandïaeth weledol.
Fel rhan o’u cwrs, mae myfyrwyr busnes blwyddyn olaf, sy’n dilyn llwybr diploma lefel tri, yn astudio marsiandïaeth weledol fel un o’u hunedau.
Cysylltodd darlithydd Coleg Sir Gâr Amanda Morgan â The Secret PlantHouse i weld a fyddai’r busnes yn gallu cefnogi’r myfyrwyr yn eu prosiect, ac roedden nhw’n llawn brwdfrydedd i helpu.
Ymwelodd myfyrwyr â’r siop ym mis Chwefror a siaradon nhw â’r perchennog Cameron Reardon am ei fusnes a pha fath o ddelwedd roedd e am greu ar gyfer ei siop. Dychwelon nhw ym mis Mai i gynnig eu syniadau’n unigol.
Meddai Cameron Reardon, rheolwr-gyfarwyddwr a chyd-sylfaenydd The Secret PlantHouse: “Ces i fy syfrdanu’n wirioneddol gan rai o’r syniadau oedd gan y myfyrwyr.
“Roedd yna awgrymiadau nad oedden ni ein hunain wedi hyd yn oed eu hystyried, o ganllawiau gofal planhigion drwy godau QR i arwyddion newydd a syniadau masnachu a allai wella profiad y cwsmer yn y siop.
“Roedd safon y cyflwyniadau yn wych ac mae’n hyfryd i weld cymaint o greadigrwydd a hyder gan bobl ifanc.
“Rydyn ni’n teimlo’n gyffrous ynghylch rhoi rhai o’u syniadau ar waith ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Choleg Sir Gâr eto yn y dyfodol.”
Ychwanegodd Amanda Morgan, darlithydd Coleg Sir Gâr: “Hoffen ni ddweud diolch yn fawr iawn i Cameron am fod yn rhan o brosiect y myfyrwyr ac am roi ychydig o fewnwelediad iddynt i faes busnes.
“Mae’n bwysig ein bod ni’n darparu cymaint o brofiad bywyd go iawn i’n myfyrwyr ac felly mae gweithio gyda busnesau yn allweddol i’w taith gyda ni”.