Skip page header and navigation
Students inside running the event

Mae myfyrwyr busnes Coleg Ceredigion wedi codi dros £450 mewn digwyddiad a drefnwyd ganddynt fel rhan o’u cwrs.

Fe wnaeth y myfyrwyr blwyddyn gyntaf Talia Evans, Immy Usher, Jena Curran ac Eliana Keeler fynd ati i gynllunio a rheoli digwyddiad cymunedol yn y Clwb ym Mhenrhyncoch, gan ddod â phobl at ei gilydd ar gyfer noson o fwyd, bingo a raffl. 

Bydd yr arian a godwyd yn mynd tuag at daith addysgol y flwyddyn nesaf gyda chyfran yn cael ei roi i Sefydliad Prydeinig y Galon. 

Mae’r darlithydd Busnes Emma Evans yn falch iawn o’u cyflawniadau, meddai: “Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol, fodd bynnag, yr hanes gwirioneddol y tu cefn i’r noson oedd nid yn unig yr arian a godwyd, ond yr ymdeimlad cryf o gefnogaeth a phartneriaeth gymunedol a helpodd i’w wneud yn bosibl.

“Trwy eu gwaith caled, y trefnu a’r cyfathrebu, fe wnaeth y myfyrwyr sicrhau cefnogaeth pedwar noddwr allweddol, gydag 11 o fusnesau lleol pellach yn cyfrannu at y digwyddiad. 

“Roedd y lefel hon o gefnogaeth yn tynnu sylw at y perthnasoedd cadarnhaol a feithriniwyd rhwng y myfyrwyr, y cwrs coleg a’r gymuned leol ehangach.

Cafodd y noson ei chyflwyno mewn ffordd llawn hwyl, agored a chroesawgar, gan greu awyrgylch a oedd yn annog pobl i ddod at ei gilydd, cefnogi’r achos a mwynhau eu hunain ar yr un pryd. 

I’r myfyrwyr, roedd yn gyfle gwerthfawr i ddefnyddio’r sgiliau busnes maen nhw wedi bod yn eu datblygu ar eu cwrs mewn sefyllfa byd go iawn, gan gynnwys cynllunio, gwaith tîm, hyrwyddo, datrys problemau a gweithio gyda phartneriaid allanol.

Mae digwyddiadau fel hyn yn dangos sut y gall addysg fusnes fynd y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, gan roi’r cyfle i fyfyrwyr gael effaith gwirioneddol wrth feithrin hyder a phrofiad ar gyfer eu hunain. 

Fe wnaeth llwyddiant y noson adlewyrchu nid yn unig ar ymdrech y pedair o fyfyrwyr gymerodd ran, ond hefyd ar haelioni busnesau lleol a chryfder ysbryd cymunedol.

Hoffai Coleg Ceredigion a’i fyfyrwyr busnes ddiolch i’r noddwyr Bron Dydd Gwener, Sophie’s, KM Flooring a Rebus.

Yn ogystal â’r rheiny a wnaeth anrhegu rhoddion fel gwobrau raffl, sef Kwik Fit ac Aberpoeth ynghyd â Pink Cow, Broc y Môr, Siop Penrhyn, Dinas a Môr, Wild West Cymru, Polly’s, a gwydrau jin wedi’u peintio â llaw gan Janet.

Rhannwch yr eitem newyddion hon