Prentisiaid a dysgwyr yn cael eu cydnabod yng ngwobrau clodfawr dysgu seiliedig ar waith
“Bod yno drwy’r troeon anffodus a’u cefnogi nhw i weithio drwy eu heriau i gyrraedd eu nodau eithaf yw’r hyn sy’n gwneud dathlu eu llwyddiant mor anhygoel o werth chweil.” Gareth David, Pennaeth
Prentisiaethau.
Mae prentisiaid Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ennill gwobrau clodfawr yn Nigwyddiad Blynyddol Prentisiaethau Consortiwm B-wbl a Gwobrau Dysgwyr Twf Swyddi Cymru+, mewn cydnabyddiaeth o’u gwaith yn y coleg ac yn y gweithle.
Mae’r digwyddiad yn cydnabod unigolion neilltuol sydd wedi cwblhau prentisiaethau a rhaglenni JGW+ yn llwyddiannus, gan arddangos y gorau o ddysgu galwedigaethol yng Nghymru.
Mae Consortiwm B-wbl yn bartneriaeth o 12 o ddarparwyr hyfforddiant sy’n cydweithio i gyflwyno cyfleoedd dysgu o ansawdd uchel ar draws Cymru ac fe’i arweinir gan Goleg Sir Benfro.
Cynhaliwyd y noson gyflwyno yn stadiwm Swansea.com, ac fe gafodd ymgeiswyr a oedd wedi’u dewis ar gyfer y rhestr fer a’u darparwyr hyfforddiant amrywiol eu gwahodd i ginio gyda’r nos i ddathlu.
Enillwyr Categori o Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion
Dysgwr Ymgysylltu’r Flwyddyn JGW+
Harry Copack
Dysgwr Datblygu’r Flwyddyn JGW+
Sean Keenan
Gwobr Seren Ddisglair JGW+
Fatima Aajo
Cystadleuwyr y Rownd Derfynol
Dysgwr Ymgysylltu’r Flwyddyn JGW+
Jessica Evans
Gwobr Iaith Gymraeg
Noa Lloyd
Gwobr Defnyddio’r Gymraeg yn Ysbrydoledig
Owain Thomas
Gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn
Siriol Thomas
Prentis Sylfaen y Flwyddyn
Lilly Burton
Meddai Gareth David, pennaeth prentisiaethau yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion: “Mae’r noson wobrwyo hon yn ein gwneud ni i gyd yn falch nid yn unig o gyflawniadau ein prentisiaid a dysgwyr JGW+, ond yn fwy pwysig, o allu rhannu eu taith gyda nhw.
“Bod yno drwy’r troeon anffodus a’u cefnogi nhw i weithio drwy eu heriau i gyrraedd eu nodau eithaf yw’r hyn sy’n gwneud dathlu eu llwyddiant mor anhygoel o werth chweil.
“Mae dim ond cyrraedd y rownd derfynol yn gyflawniad gwych, felly llongyfarchiadau mawr i bawb, rydych chi wedi dangos bod cyfleoedd dysgu seiliedig ar waith yn gallu darparu man cychwyn pwerus ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus.”
-
Ailgyfeiriodd Harry ei ffocws o ddysgu yn yr ystafell ddosbarth, nad oedd, gwnaeth ddarganfod, yn addas iddo fe, i ddysgu ymarferol mewn garddwriaeth a gwaith sylfeini. Mae e wedi ymgymryd ag amrywiol leoliadau gwaith er mwyn ennill profiad ac mae ei benderfyniad yn dangos yn y gwaith mae’n ei wneud yng nghanolfannau garddio Farmyard Nurseries lle mae wrthi’n weithredol yn chwilio am fwy o gyfrifoldeb. Mae Harry yn symud ymlaen i gwrs amaethyddiaeth lle mae’n arddangos brwdfrydedd gwirioneddol yn ei faes.
-
Mae gan Sean nod clir o ddod yn farbwr a rhedeg ei fusnes ei hun rhyw ddydd. Mae wedi llwyr berchenogi ei ddatblygiad drwy drefnu ei leoliad gwaith ei hun, ennill cymwysterau ychwanegol a buddsoddi mewn cyfarpar proffesiynol er mwyn ymarfer gartref. O ganlyniad, mae e bellach wedi adeiladu ei gronfa cleientiaid ei hun yng ngweithle ei gyflogwr.
-
Mae Fatima wedi dangos ymrwymiad a phenderfyniad eithriadol wrth ddilyn ei nod o ddod yn gynorthwyydd addysgu. Fe wynebodd hi heriau personol a rhwystrau academaidd ond dangosodd hi ymdeimlad clir o bwrpas trwy gofrestru ar elfen Ddatblygu rhaglen JGW+ lle gwnaeth hi wella ei sgiliau Saesneg er mwyn symud ymlaen i hyfforddiant pellach. Yn annibynnol, fe wnaeth hi sicrhau lleoliad gwaith yn Ysgol Gynradd Penygaer lle mae hi wedi ymrwymo i amserlen 30-awr. Mae hi wedi tyfu o ran hyder ac wedi datblygu sgiliau rhyngbersonol cryf sy’n helpu cefnogi staff a dysgwyr, ac mae hefyd wedi tyfu o ran ei hymroddiad a’i haeddfedrwydd.
-
Mae Jessica yn sefyll allan am ei phenderfyniad i lwyddo mewn diwydiant tra chystadleuol. Cwblhaodd hi gwrs lefel dau mewn gosod trydanol ac aeth hi ati i chwilio am brentisiaeth. Mae bellach wedi cyflawni hyn gyda chwmni Amberwell Engineering Services Ltd. Er gwaethaf nifer o droeon anffodus, parhaodd Jessica i ganolbwyntio ar ei nod, gan arddangos gwytnwch, twf ac uchelgais gwirioneddol.
-
Mae Noa yn brentis gwaith saer sy’n hyrwyddo’r Gymraeg yn weithredol yng Ngholeg Ceredigion a hefyd yn ei weithle gyda chwmni adeiladu Thomas Macrae Construction. Mae’n creu amgylchedd croesawgar a dwyieithog ac mae wedi cwblhau llawer o’i waith theori yn Gymraeg. Trwy wytnwch, proffesiynoldeb a meddylfryd rhagweithiol, mae wedi trawsnewid rhwystrau iaith posibl yn gryfderau, ac yntau wedi’i yrru gan ei bositifrwydd a’i broffesiynoldeb.
-
Mae Owain yn gweithio fel prentis gosod brics gyda chwmni Delme Evans Construction, lle mae’n cyfathrebu â chwsmeriaid a chydweithwyr yn Gymraeg, gan wella perthnasoedd yn ogystal ag ansawdd y gwasanaeth. Yn ogystal mae wedi rhagori ar ddisgwyliadau drwy ymgymryd â chymwysterau ychwanegol a chymryd rhan yng Nghystadlaethau Sgiliau Cymru. Caiff ei barchu’n fawr gan ei gyflogwr am ei etheg waith, ei frwdfrydedd a’i ymrwymiad i ddwyieithrwydd.
-
Mae Lilly yn brentis trin gwallt gyda salon gwallt Zen lle mae hi’n arddangos gwaith tîm cryf ac yn gwirfoddoli’n rheolaidd ar gyfer cyfrifoldebau ychwanegol, megis mentora dysgwyr lefel un a chefnogi cyfryngau cymdeithasol y salon. Mae hi’n ffynnu mewn amgylchedd dysgu ymarferol ac yn cyflawni safonau uchel yn gyson. Mae Lilly wrthi’n weithredol yn datblygu ei sgiliau drwy hyfforddiant ychwanegol gan gynnwys cyrsiau GHD a Redken ac mae hi wedi adeiladu cronfa gynyddol o gleientiaid yn y salon.
-
Mae Siriol yn weithwraig broffesiynol eithriadol sy’n arddangos arweinyddiaeth neilltuol a dull tîm-ganolog cryf yn ei gweithle gyda S4C. Chwaraeodd hi rôl allweddol o ran tywys ei thîm drwy ailstrwythuro sefydliadol mawr, gan ddarparu eglurder a sefydlogrwydd yn ystod cyfnod heriol. Prentisiaeth CIPD lefel pump sydd gan Siriol ac mae hi wedi bod yn defnyddio ei dysgu i sbarduno newid sefydliadol cadarnhaol. Yn ogystal mae hi wedi cydbwyso hyn â’i chyfrifoldebau o edrych ar ôl teulu ifanc. Mae ei phenderfyniad, cywirdeb ei chymeriad a’i gallu i gefnogi eraill yn ei gosod ar wahân fel arweinydd uchel ei pharch.