Profiad Hannah yn Costa Rica fel rhan o'i blwyddyn fwlch ym Mhrifysgol Princeton
Yn eistedd mewn cegin sy’n agor allan i ardd finca yn llawn coed banana, coffi, papayas, cnau coco ac orennau gyda mynydd Chirripó yn ymestyn i’r pellter mae’r gyn-fyfyrwraig Safon Uwch Hannah Freckleton.
Mae Hannah, a oedd hefyd yn llywydd Undeb y Myfyrwyr yn ystod ei chyfnod yn y coleg, yn aros gyda theulu lletyol yn Costa Rica fel rhan o’i hastudiaethau gyda Phrifysgol Princeton.
Ar hyn o bryd mae hi’n cymryd blwyddyn i ffwrdd, yn addysgu Saesneg ac yn dysgu Sbaeneg, nid fel twrist, ond yn byw mewn cartref go iawn yn Costa Rica gyda theulu sydd wedi’i chroesawu yn rhan o’u teulu.
Mae rhaglen Blwyddyn Bontio Prifysgol Princeton, sy’n cael ei chynnal gan eu Swyddfa Rhaglenni Rhyngwladol, hefyd yn caniatáu i Hannah gymryd rhan mewn teithiau ledled y wlad mewn profiad dysgu naw mis o hyd heb ffioedd dysgu, a noddir gan y brifysgol.
Gan dreiddio’n ddyfnach i gymuned Costa Rica, mae’r teithiau a’r gweithdai hyn yn cynnig cipolwg ar gadwraeth, cymunedau brodorol, amaethyddiaeth gynaliadwy, ecodwristiaeth a hanes cymdeithasol a gwleidyddol y wlad.
Mae’r stori hon yn dangos beth y gellid ei gyflawni drwy ymestyn y tu hwnt i’r hyn yr ydym yn gyfforddus yn ei wneud.
Y Teulu sy’n Lletya a Bywyd Bob Dydd
Doedd dim angen i mi deimlo’n hollol barod cyn dod i Costa Rica.”
Mae tipyn o fywyd bob dydd yn digwydd yn yr awyr agored. Mae pobl yn eistedd ar eu ferandas yn rhannu bwyd, yn sgwrsio ac yn cyfarch cymdogion sy’n mynd heibio. Rwy’n mynd allan i redeg ac mae pobl sy’n eistedd y tu allan i’w cartrefi yn galw helo “Buenas!” neu “Pura vida!” sy’n golygu ‘bywyd pur’ ac mae hynny’n adlewyrchu’r meddylfryd cyfeillgar a hamddenol sydd yma mewn gwirionedd.
Mae fy nyddiau’n amrywio tipyn, ac mae cynlluniau’n aml yn dod at ei gilydd heb eu trefnu ymlaen llaw. Gallai cydweithiwr fy ngwahodd i am Cafecito (coffi a thraddodiad cymdeithasol dyddiol), neu gallai ffrind fy ngwahodd i ddigwyddiad teuluol. Ar y dechrau, roedd hi’n anodd addasu i’r diffyg strwythur, ond nawr dw i wir yn ei fwynhau.
Ar ddiwrnod gwaith cyffredin, dw i’n deffro’n gynnar, yn cael brecwast gyda fy rhieni lletyol ac yn dal y bws ysgol gyda’r plant dw i’n gweithio gyda nhw ac mae’n nhw’n aml yn cystadlu dros bwy ddylwn i eistedd wrth ei ymyl.
Dw i’n treulio’r bore yn cynorthwyo mewn dosbarthiadau Saesneg yna’n teithio i’m gwersi Sbaeneg yn y prynhawn. Pan fydda i’n cyrraedd adref, mae cafecito fel arfer yn aros amdana i, yn aml gydag aelodau ychwanegol o’r teulu neu ffrindiau.
Gallai nosweithiau gynnwys chwarae gydag wyrion y teulu sy’n fy lletya, mynd i’r eglwys, mynd allan i redeg neu ymuno â mejenga, sef gêm bêl-droed anffurfiol, gyda ffrindiau.
Yr hyn sy’n sefyll allan yma yw pa mor gyflym rydych chi’n dod yn wyneb cyfarwydd. Mae cymdogion, siopwyr a gyrwyr bysiau yn fy nghyfarch a hyd yn oed pobl nad ydw i’n eu hadnabod yn dda, fel y cigydd dw i’n ei basio bob dydd, yn stopio ac yn dweud helo.
Y penwythnosau
Mae’r rhain ychydig yn arafach. Dw i’n treulio amser gyda fy nheulu lletyol, yn cwrdd â ffrindiau, yn mynd i heicio neu’n nofio mewn pozas, sef pyllau afonydd naturiol wedi’u hamgylchynu gan goedwigoedd glaw, neu rydym yn ymweld â lleoedd newydd.
Fy nghariad cynyddol tuag at Cafecito
Un o fy hoff arferion ddyddiol yw Cafecito. Mae’n rhywbeth mae pawb fel petai nhw’n cymryd saib ar ei gyfer, boed gartref, yn y gwaith neu yn rhywle arall gyda theulu, ffrindiau, cymdogion neu unrhyw un sy’n galw heibio. Fel arfer mae’n cynnwys coffi prynhawn gyda bara neu ddanteithion melys o’r becws. Nid y coffi yw’r peth pwysicaf ond yn hytrach rhoi amser i gael sgwrs a chymryd eiliad i arafu rhywfaint.
Bwyd Costa Rica
Mae bwyd yn rhan fawr o fywyd bob dydd. Ac nid yw prydau bwyd yn cael eu brysio. Mae’n amser i eistedd, i siarad a bod gyda’n gilydd. Mae’r rhan fwyaf o’r boreau’n dechrau gyda gallo pinto, pryd brecwast traddodiadol o reis a ffa. Mae’n swnio’n syml ond mae pob fersiwn ychydig yn wahanol – mae hyd yn oed fersiwn fy mam lletyol yn newid o ddydd i ddydd.
Mae hi hefyd yn deffro am 5am i baratoi fy mhecyn bwyd cyn i mi adael am y diwrnod, sy’n dweud llawer am y caredigrwydd a’r gofal y mae pobl yn ei ddangos.
Mae byw yn Costa Rica wedi dangos i mi nad oes rhaid i fywyd olygu gwneud mwy neu symud yn gyflymach bob amser. Mae wedi fy atgoffa i werthfawrogi eiliadau bob dydd - treulio amser yn siarad, rhannu prydau bwyd, a bod yn bresennol gyda phobl - rhywbeth dw i’n gwybod y byddaf yn ei gario gyda mi pan fyddaf yn gadael.”
Adeg y Nadolig, helpais i wneud tamales - pryd traddodiadol wedi’i lapio mewn dail banana - gyda theulu a ffrindiau. Fe wnaethon ni bron i 200 ohonyn nhw a phob un ohonom ni â rôl wahanol: golchi’r dail, ychwanegu’r llenwadau, lapio a chlymu pob un. Roedd yn broses hir, ond doedd neb ar frys - fe wnaethon ni siarad a chwerthin wrth i ni weithio. Roedd y bwyd yn blasu’n anhygoel, ond roedd y profiad o’i baratoi gyda’n gilydd yr un mor bwysig â’r pryd o fwyd.
Fy Hoff Bryd Bwyd
Mae’n anodd dewis un pryd bwyd yn unig oherwydd does dim un yn rhagori mewn gwirionedd - mae hi’n amlwg faint o amser ac ymdrech sy’n mynd i goginio pob pryd bwyd yma. Dw i wrth fy modd â casado clasurol da ar gyfer cinio, sef reis, ffa, plantain, salad a dewis o gig, gydag amrywiadau bach bob tro. A phan fydda i’n dod yn ôl o Zumba, mae fy mam lletyol yn aml wedi paratoi powlen o sopa negra i mi – cawl ffa du gydag wy wedi’i ferwi ac afocado - sydd bob amser yn dderbyniol iawn ar ôl diwrnod hir.
Taith o hunan-ddarganfod
Mae byw bywyd drwy iaith arall wedi bod yn her sydd wedi fy nysgu i fod yn amyneddgar. Ar y dechrau, roeddwn i’n aml yn teimlo’n lletchwith neu’n rhwystredig pan nad oeddwn i’n gallu mynegi fy hun yn iawn. Dros amser, dw i wedi dod yn fwy cyfforddus gyda’r ffaith nad ydw i bob amser yn gwybod beth dw i’n ei wneud a dydw i ddim yn poeni cymaint am wneud camgymeriadau - daeth dysgu chwerthin am fy mhen fy hun yn rhan o’r broses.
Mae bod i ffwrdd o adref hefyd wedi fy helpu i ddod yn fwy annibynnol. Dw i wedi dysgu datrys pethau ar fy mhen fy hun wrth gydnabod hefyd pa mor bwysig yw cymuned a chefnogaeth - rhywbeth sy’n teimlo’n weladwy iawn yn niwylliant Costa Rica.
Ar adegau, fe wnaeth y rhwystr iaith a’r cyfnodau o hiraeth am adref y profiad yn un heriol, ac roedd dod yma’n teimlo fel cam mawr i’r anwybod ar y dechrau. Wrth edrych yn ôl, gallaf weld bod yr eiliadau hynny wedi fy ngwthio i addasu a thyfu mewn ffyrdd na fyddwn i wedi’u gwneud pe na bawn wedi ymestyn fy hun. Doedd dim angen i mi deimlo’n hollol barod cyn dod. Mae llawer o’r hyder wedi dod o fod yma a dysgu wrth fynd ymlaen, ac mae’r rhan fwyaf o’r hyn rydw i wedi’i ddysgu wedi dod o fod yn barod i roi cynnig arni, hyd yn oed pan oeddwn i’n teimlo’n ansicr.”
Myfyrio
Mewn cymuned lle nad ydych chi wir yn ddieithryn am amser hir, wrth i Hannah baratoi i adael y bryniau tonnog a’r coed llawn ffrwythau i ddechrau ar ei gradd ym Mhrifysgol Princeton, y bobl y bydd hi’n gweld eu heisiau fwyaf, yn ogystal â’r gymuned gyfan y mae hi wedi dod yn rhan ohoni. Bydd hi hefyd yn gweld eisiau bod yng nghanol yr iaith Sbaeneg a chymryd egwyl ar gyfer cafecito bob prynhawn.