Sir Gâr drwy'r lens: Myfyrwyr Safon Uwch yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth Cymdeithas Ffotograffiaeth Llanelli
Mae myfyrwyr ffotograffiaeth Coleg Sir Gâr wedi bod yn gweithio gyda Chymdeithas Ffotograffiaeth Llanelli ar gystadleuaeth sydd wedi’i hanelu at groesawu ffotograffwyr ifanc a chyfoes i’r gymdeithas.
Mae gan y gystadleuaeth flynyddol gategori ar wahân ar gyfer myfyrwyr ffotograffiaeth Safon Uwch ond y thema gyffredinol ar gyfer y gystadleuaeth oedd Ein Sir Gâr Ni.
(Isod mae’r cyntaf, yr ail a’r trydydd)
Gofynnwyd i’r rheini oedd yn cystadlu gyflwyno ffotograffau sy’n cynrychioli Sir Gaerfyrddin yn eu harddull ffotograffiaeth eu hunain.
Cyflwynodd myfyrwyr ddelweddau a oedd yn amrywio o gestyll i fachlud haul ac o amaethyddiaeth i fyd natur.
Yn cyrraedd y brig yng nghategori’r myfyrwyr oedd Daniel Jones, daeth Cerian MacRae yn ail a Rowan Fisher yn drydydd.
Cafodd Aiden West, Amber Bostock, Isabelle White a Libby Emms wobrau Canmoliaeth Uchel.
Cafodd Cerian hefyd ei chyfweld gan S4C a oedd yno i ffilmio’r noson wobrwyo ar gyfer eu rhaglen Prynhawn Da.
Derbyniodd Daniel daleb gwerth £25 am ennill y wobr gyntaf a chafodd delweddau’r pum cais gorau eu hargraffu a’u gosod yn broffesiynol.
Meddai yr enillydd Daniel Jones: “Mae’n gyfle gwych, yn gyffrous ac yn hawdd i gymryd rhan.
“Fe wnes i fwynhau’r broses ddethol, gan geisio defnyddio fy nealltwriaeth ddatblygedig i ddewis y llun gorau posibl i’w olygu a’i gyflwyno.
“Dw i’n fwy na hapus gyda fy muddugoliaeth, er ei bod yn dipyn o sioc.
“Yn fy ymgais y llynedd, treuliais lawer o amser yn curadu’r llun, ond wnes i ddim cyrraedd y safleoedd uchaf. Roedd y flwyddyn hon yn llawer symlach, a llwyddais i ennill, sy’n dangos cymaint rydw i wedi gwella, mewn blwyddyn yn unig. Mae wedi bod yn brofiad cyffrous iawn.”
Mae darllediad S4C o’r noson i’w weld ar 29:15 yn y ddolen ganlynol.
https://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/p0myxz0s/prynhawn-da-wed-18-feb-2026