Taith Keal i amaethyddiaeth yn profi nid yw byth yn rhy hwyr i ddilyn eich breuddwyd
Mae Keal Davies wedi bod yn frwdfrydig ynghylch ffermio erioed, cymaint felly nes iddo benderfynu astudio amaethyddiaeth, er gwaetha’r ffaith nad oedd yn dod o gefndir ffermio.
Dyma gam y mae tîm amaethyddiaeth y coleg yn ei gefnogi a’i feithrin ochr yn ochr â’i garfan o amaethwyr profiadol.
Yn ei eiriau ef ei hun, mae Keal yn dweud, er ei fod yn frwdfrydig ynghylch ffermio, fe ddewisodd yr opsiwn ‘diogel’ gan gofrestru i fod yn blymwr, ond ni wnaeth yr awydd i weithio ym maes amaethyddiaeth fyth ei adael.
Daeth y catalydd ar gyfer newid pan welodd Keal hysbyseb i archwilio’r cwrs coleg. Dyna beth wnaeth e ac mae’n dweud ei fod heb edrych nôl ers hynny.
Meddai Keal Davies: “Dyma’r peth gorau gwnes i erioed. Ni feddyliais i erioed y byddwn i’n graddio; Roeddwn i’n meddwl ei bod hi’n rhy hwyr i mi, felly hoffwn i ddweud diolch yn fawr i bawb yng Ngelli Aur, gan gynnwys y tiwtoriaid a phob un yn fy nosbarth.”
“Pan oeddwn i’n tyfu i fyny, roeddwn i bob amser yn dwlu ar anifeiliaid a dysgu o lle mae ein bwyd yn dod. Mae gofalu am anifeiliaid a’r amgylchedd wedi bod yn uchelgais oes i mi, a diolch i’r staff ar gampws Gelli Aur, gwelon nhw botensial ynof i a’m gwthio i wneud fy ngorau.
“Mae astudio yng Ngelli Aur wedi bod yn syfrdanol. Maen nhw wedi fy annog i fanteisio ar bob cyfle a fyddwn i ddim wedi gallu gwneud hynny hebddynt; rwyf wedi dysgu cymaint ac mae’r bobl yno wedi bod yn rhagorol.”
Meddai Elizabeth Bowes, pennaeth amaethyddiaeth yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion:”Mae taith Keal yn enghraifft o’r hyn sy’n arbennig am Gelli Aur – creu cyfleoedd a helpu dysgwyr i wireddu eu potensial.
“Gan ddechrau gyda ni ar ein rhaglen amaethyddiaeth lefel un heb gefndir ffermio traddodiadol, mae Keal wedi dangos bod ymroddiad, gwaith caled a brwdfrydedd am ddysgu yn gallu goresgyn unrhyw rwystr.
“Mae graddio gyda gradd mewn amaethyddiaeth yn gyflawniad neilltuol ac mae’n dangos bod amaethyddiaeth ar gael i bawb.
“Mae llwyddiant Keal yn ysbrydoliaeth i ddysgwyr y dyfodol ac yn enghraifft wych o beth y gellir ei gyflawni pan fod uchelgais, cyfle a chefnogaeth yn dod at ei gilydd.
“Rydyn ni’n hynod o falch o bopeth y mae wedi’i gyflawni ac edrychwn ymlaen at weld i lle bydd ei yrfa ym maes amaethyddiaeth yn ei arwain nesaf.”
Gyda diddordeb penodol mewn geneteg, mae Keal yn awr yn edrych ymlaen at archwilio’r nifer o gyfleoedd sydd ar gael o fewn byd amrywiol a datblygol amaethyddiaeth.