Skip page header and navigation
A stage with a man on an animatronic talking to an audience

Ymwelodd myfyrwyr Coleg Sir Gâr â Talent4Tech, digwyddiad gyrfa technoleg gorau Cymru yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol (ICC) yng Nghaerdydd lle roedden nhw wedi gallu cysylltu ag arddangoswyr a chyflogwyr fel Canolfan Gwytnwch Seiber Cymru, y BBC a’r Academi Frenhinol Peirianneg. 

Yn ystod Wythnos Dechnoleg Cymru, fe wnaeth myfyrwyr ar gyrsiau Safon Uwch ac UG mewn cyfrifiadureg a thechnoleg ddigidol fynychu ynghyd â’u cydfyfyrwyr galwedigaethol, ar raglen diploma estynedig lefel tri.

Lle i archwilio technoleg yn ei annherfynoldeb yw Talent4Tech. O’r rheiny sy’n chwilfrydig ynghylch technoleg i arweinwyr yn y maes, mae’r digwyddiad yn annog myfyrwyr o bob cefndir i ymweld, oherwydd nid ar draws un sector yn unig y mae technoleg yn bodoli.

A robotic animal with people watching

Mynychodd bron i 20 o fyfyrwyr sy’n astudio ar gampws y coleg yn y Graig yn Llanelli gan gymryd rhan mewn dwy sesiwn banel Talent4Tech. Gwnaeth un sesiwn ganolbwyntio ar gychwyn gyrfaoedd ym maes seiberddiogelwch a gwnaeth y llall hwyluso sesiwn Holi ac Ateb i helpu myfyrwyr ddod yn ymwybodol o nifer y rolau gyrfa sy’n ymwneud â Thechnoleg Gwybodaeth. 

Ymhlith yr arddangoswyr roedd cwmni de Novo Solutions, partner aur Wythnos Dechnoleg Cymru, a arddangosodd ddatrysiadau trawsnewid digidol a ffocws-cwmwl. 

Hefyd bu cwmni PricewaterhouseCoopers (PWC) yn ymgysylltu â myfyrwyr gan drafod recriwtio i rolau ar draws meysydd fel cyfrifiadura cwmwl a seiberddiogelwch. 

Cynigiodd Sony UK Tec gipolwg ar rolau uwch-dechnoleg mewn gweithgynhyrchu a pheirianneg gan annog myfyrwyr i archwilio llwybrau i yrfaoedd o fewn gweithrediadau technoleg Sony.

A person in school uniform talking on stage with Wales Tech Week as a brand on the lectern

Ymunon nhw â chyflogwyr megis Thales, a gyfrannodd at drafodaethau seiberddiogelwch a thechnoleg-amddiffyn ar gyfer rolau mewn diogelwch cenedlaethol, systemau amddiffyn digidol a rolau seiber. 

Meddai Rebecca Clarke, darlithydd Safon Uwch yng Ngholeg Sir Gâr: “Roedden ni’n teimlo ei fod yn bwysig i fynd â’n dysgwyr i’r digwyddiad hwn er mwyn iddynt allu ymgysylltu â chynrychiolwyr a chyflogwyr allweddol yn y diwydiant, ac i helpu eu hannog i ddatblygu eu gyrfaoedd uchelgeisiol eu hunain.

“Fe wnaeth y digwyddiad arddangos ehangder cyfleoedd datblygu a chyflogaeth y diwydiant yn y sector hwn sy’n symud yn gyflym, yn ogystal â thynnu sylw at amrywiol sectorau eraill y mae technoleg yn cyffwrdd â nhw, megis iechyd a gweithgynhyrchu.” 

Meddai Matthew James, pennaeth dros dro cyfrifiadura yng Ngholeg Sir Gâr:  “Caniataodd y daith Talent4Tech i’n myfyrwyr fynd y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth a phrofi arloesedd gwirioneddol ar waith. Dychwelon nhw yn teimlo’n fwy hyderus, gyda nodau mwy eglur, a chyffro go iawn ynghylch yr hyn y gall technoleg wneud yn eu dyfodol. Mae’n hyfryd i weld eu brwdfrydedd a’u twf.”

People talking on stage in a panel with an audience

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau