Skip page header and navigation
A dish in the foreground a starter pate dish with the kitchen blurred in the back

Y daith goginiol

Mae’r Nadolig yng Nghegin Sir Gâr bob amser yn ddigwyddiad poblogaidd blynyddol o fwciadau llawn i’r tîm arlwyo a lletygarwch dan arweiniad y tiwtoriaid a phen-cogyddion Peter Ware a Dan Williams.

Maen nhw’n gweithio fel tîm gyda myfyrwyr o bob lefel (lefel un i lefel tri) i gyflawni safon uchel o ran yr holl waith paratoi a gwasanaeth. 

O’r rheiny sy’n cychwyn ar lefel un i’r rheiny ar lefel tri sy’n mireinio eu sgiliau yn barod ar gyfer diwydiant. 

Pan fydd y cynllunio yn dechrau

Canol mis Medi, mae’r myfyrwyr lefel tri yn dechrau cynllunio’r fwydlen Nadolig derfynol, toc cyn dechrau hanner tymor. 

Mae gwaith paratoi yn dechrau bythefnos cyn gwasanaeth, gan wneud yn siŵr bod popeth sydd ei angen yn y gegin, gyda pheth gwaith paratoi bwyd yn cael ei wneud o fewn wythnos, ond caiff y rhan fwyaf o bethau eu cwblhau ar y dydd Llun cyn gwasanaeth dydd Mercher.

Y gymuned goginiol

Dan arweiniad eu tiwtor a phen-cogydd Peter Ware, mae pob aelod unigol o’r criw yng Nghegin Sir Gâr yn hyfforddi, ond yr allwedd i gydweithio a chyflawni gwasanaeth effeithlon yw defnyddio cymysgedd o fyfyrwyr o bob lefel.

Bydd myfyrwyr yn cydweithio a chefnogi ei gilydd, gyda myfyrwyr lefel tri yn arwain, lefel dau yn barod i fynd i’r afael â’r her, a myfyrwyr lefel un yn meistroli’r technegau sylfaenol sy’n tanategu holl weithrediadau’r gegin.

Gan ddefnyddio cynnyrch lleol ble bo’n bosibl, y gwaith paratoi mwy cymleth yw ar gyfer yr ystod o brif gyrsiau a gynigir. Tra bod pwdinau’n bwysig o ran cyflwyniad a blas, gellir eu paratoi nhw yn gynt yn ystod y dydd.

Roedd sampl o’r fwydlen yn cynnwys mwsws caws gafr wedi’i chwipio, garnais betys, briwsion cnau cyll i ddechrau, twrci rhost Sir Gaerfyrddin, stwffin perlysiau a nionyn, rholyn selsig a bacwn, saws llugaeron, jus roti fel prif gwrs a profiteroles wedi’u llenwi â hufen crwst rym Barti, saws taffi caramel i orffen.

Peter piping some deserts a white chocolate cheesecake with decoration on top

Awgrymiadau Gorau Peter ar gyfer Dydd Nadolig 

  • Mae cynllunio ymlaen llaw yn allweddol, peidiwch â gadael unrhyw beth i’r funud olaf oherwydd byddwch chi ond yn ychwanegu straen i’ch diwrnod. Bydd paratoi llysiau a stwffin y diwrnod cynt yn sicrhau diwrnod mwy di-drafferth a phleserus.
  • Ceisiwch osgoi twrci sy’n sych neu heb ei ddigoni’n llawn, paratowch eich amseriadau ymlaen llaw.  Gorchuddiwch â bacwn fel cyffyrddiad olaf ychwanegol.
  • Ychwanegwch wydraid o win i’ch grefi.
  • Does dim byd yn waeth na mynydd o lestri i wynebu; cadwch ar ben y gwaith golchi llestri wrth i chi fynd yn eich blaen gan ei fod yn helpu cadw eich ardal waith yn lân a threfnus hefyd.
Chocolate gateaux
Nid yw hyn am fwyd yn unig, mae’n ymwneud â’r profiad a’r gwasanaeth cwsmer.
Tra bod gweithrediadau’r gegin yn cael eu rheoli gan Peter y Nadolig hwn, mae’r ochr lletygarwch yr un mor bwysig.
Rhaid i’r gegin a blaen y tŷ weithio gyda’i gilydd i ddarparu gwasanaeth di-dor. 
A laid table at the restaurant with Christmas red theme

Gofynnon ni i Dawn Williams sut mae mynd i’r afael â rheoli a chynllunio lletygarwch ar gyfer y gwasanaeth Nadolig

Rydyn ni’n canolbwyntio ar sgiliau ciniawa cain, sy’n briodol i lefel y dysgwyr, gan fod gennym grwpiau cymysg yn amrywio o ddysgwyr sylfaen drwodd i ddysgwyr lefel tri mwy profiadol. Rhoddir tasgau iddynt i fodloni gofynion eu cwrs, megis gosod bwrdd, cynllun y byrddau, cario platiau, sgiliau coctel, gwasanaeth gwin, ac amseru prydau. 

Ein nod yw cynnig gwasanaeth cwsmer gwresog a phroffesiynol. Hefyd mae angen i fyfyrwyr arddangos y sgiliau hyn ar gyfer ystod o asesiadau yn ystod y cyfnod hwn, felly mae angen iddynt gael cymaint â phosibl o ymarfer dan amodau gwasanaeth go iawn. 

Rydyn ni’n annog myfyrwyr i gymryd swyddi rhan-amser yn y diwydiant i ategu eu hastudiaethau a gwella eu graddau. 

Rydyn ni’n cynnal sesiwn friffio cyn gwasanaeth i adolygu’r fwydlen, amseriadau, alergeddau a rolau. Mae cyfathrebu clir wrth y pas yn cadw’r gwasanaeth yn ddi-drafferth, ac mae staff blaen y tŷ yn cynnal cyflymdra yn seiliedig ar gyflymdra’r gwestai.  Mae’r gwaith tîm hwn nid yn unig yn sicrhau gwasanaeth di-dor ond mae’n helpu myfyrwyr i fodloni gofynion eu hasesiadau ymarferol.

Mae’r gwaith tîm hwn nid yn unig yn sicrhau gwasanaeth di-dor ond mae’n helpu myfyrwyr i fodloni gofynion eu hasesiadau ymarferol.

Front of house waiting for the kitchen plated food to come out

Mae pob gwasanaeth yn dechrau gyda sesiwn friffio’n canolbwyntio ar fanylion y fwydlen, amseriadau, alergeddau a rolau swyddi. Mae cyfathrebu clir wrth y pas a chyflymdra sylwgar oddi wrth dîm blaen y tŷ yn sicrhau profiad ciniawa di-dor wedi’i arwain gan y gwestai. Dawn Williams, Darlithydd mewn Lletygarwch 

A student at front of house taking down an order on a pad

O ran sgiliau lletygarwch, beth yw’r heriau mwyaf i fyfyrwyr, a sut ydych chi’n eu goresgyn?

Yr heriau mwyaf yw bod yn hyderus pan dan bwysau, myfyrwyr yn cyrraedd ar gyfer gwasanaeth mewn iwnifformau cywir, salwch, a gwneud yn siŵr bod yna gyfathrebu clir rhwng staff y gegin a staff blaen y tŷ, yn ogystal â chwblhau asesiadau ochr yn ochr â’r gwasanaeth Nadolig prysur. 

Rydyn ni’n cefnogi dysgwyr gyda chymaint â phosibl o wersi ymarferol er mwyn eu paratoi ar gyfer gwasanaeth, protocolau cyfathrebu clir, ac fe fydd tiwtoriaid y bwyty yn monitro dysgwyr yn agos, fel eu bod yn meithrin sgiliau a pharhau i fodloni terfynau amser asesu.

A starter dish of pate on a laid Christmas table

Dawn Williams - Darlithydd mewn Arlwyo a Lletygarwch

Enillodd Dawn ei chymwysterau tra’n gweithio yn y diwydiant, lle dechreuodd hi fel gweinyddes a symudodd hi ymlaen i rôl reoli.  Mae hi wedi gweithio mewn barrau, clybiau, bwytai a gwestai. 

Mae hi’n credu bod arlwyo’n mynd y tu hwnt i weini bwyd yn unig; mae’n creu profiadau ac yn meithrin cysylltiadau a chyfeillgarwch. 

A student behind a table with loads of cocktail ingredients and shakers

Peter Ware - Darlithydd mewn Coginio Proffesiynol

Mae Peter wedi bod yn ddarlithydd arlwyo mewn colegau ar draws Cymru ac mae wedi gweithio mewn prifysgolion a cholegau mewn gwledydd fel Jamaica a’r Bahamas. Mae peth o’i brofiad proffesiynol yn cynnwys gweithio fel prif ben-cogydd crwst yng Ngwesty’r Ritz yn Llundain, ac fel perchennog a rheolwr cwmni Cacique Catering yn y Bahamas. 

Dywed fod coginio proffesiynol yn gallu rhoi boddhad mawr mewn ffordd nad yw proffesiynau eraill yn llwyddo i wneud. Dywed hefyd eich bod yn gallu mynd i unrhyw le yn y byd ac mae wedi profi hynny. Mae Peter yn credu y bydd gyrfa ym maes arlwyo bob amser yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth hirdymor.

Mae cyrsiau arlwyo a lletygarwch yn darparu cyfle ardderchog i ddatblygu sgiliau byd go iawn ar gyfer cychwyn eich taith i’r gweithle. Bydd llawer o’n dysgwyr yn gwella eu hastudiaethau bwyd a diod a choginio proffesiynol trwy gymryd rôl ran-amser yn y diwydiant lletygarwch.

Rhannwch yr eitem newyddion hon