Skip page header and navigation

Polisi Ffioedd Ar Gyfer Darpariaeth Partneriaeth 14-19 Rhwng Ysgolion a’r Coleg 2026 - 2027

Polisi

  • Bydd y Coleg yn codi tâl ar yr ysgol fesul pob awr addysgu ar gyfradd o £87. Bydd hon yn gyfradd safonol a ddefnyddir ar gyfer addysgu yn y Coleg, mewn canolfan arall neu yn yr Ysgol. Mae’r gyfradd wedi’i gosod ar gyfradd UP2 cyflog athrawon. Bydd y costau a ddaw o ganlyniad i deithio i’r Ysgol neu’r ganolfan gyflwyno ac yn ôl yn cael eu codi ar gyfradd o 45c y filltir. 

    Codir tâl ar ysgolion am gostau cyflwyno, ffioedd cofrestru, a chostau nwyddau traul ar gyfer pob dysgwr. Pan fydd dysgwr yn tynnu’n ôl, ni fydd gostyngiad yn y biliau, gan fod y costau cyflwyno a chostau cysylltiedig yn sefydlog ac yn aros yr un fath waeth beth fo nifer y cofrestriadau.

  • CLUDIANT 

    Cyfrifoldeb yr Ysgol fydd talu’r holl gostau sy’n gysylltiedig â chludo’r disgyblion i’r Coleg neu ganolfannau eraill. Mewn rhai achosion, gall fod yn bosibl i’r Ysgol ddefnyddio bysiau’r Coleg. Mae angen cytuno ar hyn o flaen llaw gyda’r Coleg. 

    COFRESTRU 

    Bydd y Coleg yn trosglwyddo’r holl gostau sy’n gysylltiedig â chofrestru disgyblion gyda chyrff dyfarnu i’r Ysgol yn llawn. 

    NWYDDAU TRAUL AC ATI 

    Bydd costau’r nwyddau traul ar gyfer y pynciau canlynol fel a ganlyn:

    Pwnc

    Cost fesul person

    Gwasanaethau Cyhoeddus £42
    Darpariaeth Lefel Mynediad (MLD/SLD) £52
    Amaethyddiaeth £42
    Cerbydau Modur/Amgylchedd Adeiledig £78
    Trin Gwallt/Therapi Harddwch £122

    Bydd costau eraill sy’n gysylltiedig â’r ddarpariaeth, e.e., cit/dillad arbenigol, hefyd yn cael eu codi ar yr ysgol am bris cost. 

    DS: Ni ellir ad-dalu costau nwyddau traul.

  • Bydd y Coleg fel rheol yn anfonebu’r Ysgol mewn dau randaliad, h.y. un yn mis Ionawr (yn cwmpasu’r cyfnod o fis Medi i fis Mawrth - 70%) ac un yn mis Mai (Ebrill i Fehefin - 30%). Bydd hyn yn ymestyn y gost ar gyfer yr ysgol dros ddwy flynedd ariannol. Ar gyfer darpariaeth sy’n para un tymor, dim ond un anfoneb fydd yn cael ei chodi. Fel arall, gall ysgolion ofyn bod un anfoneb yn cael ei chodi am y flwyddyn os ydynt yn dymuno hynny.

    Lle mae’r cyflwyno yn cael ei rannu rhwng dwy ysgol neu fwy, bydd cyfanswm yr oriau cyflwyno ar gyfer y grŵp cyfan yn cael ei rannu â chyfanswm nifer y dysgwyr cofrestredig. Yna bydd pob ysgol yn cael ei bilio’n gymesur yn seiliedig ar nifer ei dysgwyr cofrestredig o fewn y grŵp a rennir.

    Mewn amgylchiadau lle mae gwersi’n cael eu canslo gan y Coleg oherwydd gofynion DPP, cau campws yn annisgwyl, neu resymau gweithredol eraill, bydd y biliau’n cael eu haddasu i adlewyrchu’r cyflwyno gwirioneddol a ddarperir yn hytrach na’r oriau a gynlluniwyd. Pan fydd staff yr ysgol yn darparu staff llanw oherwydd absenoldeb staff y Coleg, bydd yr oriau cyflwyno hefyd yn cael eu lleihau yn unol â hynny i sicrhau mai dim ond am addysgu a ddarperir gan y Coleg y codir tâl ar ysgolion.

  • Codir tâl fesul disgybl o £6,743 llawn amser. Anfonir bil bob tymor.